Skip to main content

Rhaglen deledu Line of Duty yn croesi'r llinell yn ôl Comisiynydd Heddlu

Dyddiad

1205PCC-6

Mae portread o’r comisiynydd heddlu a throsedd yn y sioe deledu boblogaidd Line of Duty wedi cael ei beirniadu fel un “hollol afrealistig” gan ddyn sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ers go iawn ers pum mlynedd.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn mwynhau gwylio drama hynod boblogaidd BBC One ond dywed nad yw ymddygiad y Comisiynydd teledu, Rohan Sindwhani, yn argyhoeddi.

Mae’r comisiynydd ffuglennol sy’n tra-arglwyddiaethu dros Central Police yn chwarae rhan allweddol yn nhroadau cymhleth plot Line of Duty.

Etholwyd Sindwhani ar y platfform o “ysgwyd pethau” a datgelu llygredd yr heddlu yn llawn.

Mae Mr Jones wedi cyfaddef ei fod yn wyliwr brwd o’r gyfres ac wedi mwynhau’r rhan fwyaf ohoni yn fawr.

Mae’n adnabod byd plismona yn dda iawn, ar ôl gwasanaethu fel swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru cyn ymddeol fel arolygydd ar ôl 30 mlynedd gyda’r heddlu.

Fe’i etholwyd i ddod yn ail Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth pan enillodd etholiad 2016 fel ymgeisydd Plaid Cymru gyda mwyafrif anferth o 25,000.

Mae ei dymor yn y swydd bellach yn dirwyn i ben gan ei fod yn camu i lawr yn yr etholiad ddydd Iau, Mai 6.

Wrth gael ei gyfweld am Line of Duty ar Radio 4, dywedodd Mr Jones: “Dydw i ddim yn credu ei fod yn arbennig o realistig, nid yw’n wir i fywyd.

“Ni fyddai comisiynydd heddlu a throsedd yn cymryd rhan yn ochr weithredol plismona fel y mae’r comisiynydd heddlu a throsedd yn ei wneud yn y rhaglen.

“Y rhan lleiaf realistig yw pan fod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymddiswyddo ar ôl i’r Prif Gwnstabl alw am lai o ymyrraeth wleidyddol. Ni fyddai hynny’n digwydd, senario llawer mwy tebygol fyddai i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd alw ar i’r Prif Gwnstabl ymddiswyddo.

“Mae’n fy nghythruddo i ychydig. Yn amlwg, naill ai dydy pwy bynnag sydd wedi cynghori cynhyrchwyr Line of Duty ddim yn ymwybodol o rôl comisiynydd heddlu a throsedd neu maen nhw’n ceisio pardduo enw da’r swydd.”

“Ar ôl pryderon cychwynnol, rwyf bellach yn llwyr gefnogi’r cysyniad o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd gan eu bod yn fwy effeithiol ac effeithlon ac yn craffu’n well nag 17 aelod o awdurdod heddlu.”