Skip to main content

Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru i barhau yn y rhanbarth diolch i waith HGC a'r CHTh

Dyddiad

Dyddiad
PCC and CC

Bydd Rhaglen Ysgolion Cymru, a elwir hefyd yn SchoolBeat Cymru, yn parhau yng Ngogledd Cymru diolch i ymdrechion a chyllid cyfunol Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru sef Amanda Blakeman a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef Andy Dunbobbin.

Mae Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a heddluoedd Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru. Mae'n cynnwys rôl Swyddog Heddlu Ysgolion, pwynt cyswllt penodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Mae Swyddogion Heddlu Ysgolion yn cyflwyno cwricwlwm dwyieithog a adolygir yn genedlaethol o wersi a ddatblygwyd gan athrawon ar gyfer plant 5-16 oed. Maen nhw'n ymgysylltu hefo pob ysgol, gan gynnwys addysg prif ffrwd, ysgolion annibynnol yng Nghymru, ysgolion sy'n helpu anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth amgen gan gynnwys unedau atgyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol.

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddwyd na fyddai Llywodraeth Cymru bellach yn gallu ariannu'r rhaglen o ddiwedd mis Mawrth. Ers hynny, a hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae'r rhaglen wedi cael ei hariannu dros dro gan yr Heddlu a'r CHTh tra bod opsiynau eraill ar gyfer parhad SchoolBeat yn cael eu harchwilio.

Roedd yn siom derbyn y newyddion am ddiwedd cyllid y llywodraeth a'r ansicrwydd ynghylch y rhaglen, o ystyried bod llawer o ysgolion ledled Gogledd Cymru yn gweld y rhaglen fel rhan werthfawr iawn o fywyd addysgol. Felly, yn ystod y misoedd diwethaf, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymgynghori'n helaeth hefo asiantaethau partner, y cyhoedd, ysgolion, myfyrwyr a phobl ifanc ledled Gogledd Cymru, er mwyn deall yr hyn mae'r rhaglen yn ei olygu iddyn nhw a helpu llunio dyfodol y rhaglen.

Mae'r gwaith hwn wedi arwain at y newyddion y bydd y rhaglen yn cael ei hariannu'n barhaus gan Heddlu Gogledd Cymru a swyddfa'r CHTh. Bydd yn parhau mewn lleoliadau addysgol ledled Gogledd Cymru yn arbennig ar gyfer anghenion cymunedau a phobl ifanc. Bydd swyddogion  heddlu sy'n darparu'r rhaglen yn parhau bod mewn cysylltiad hefo'r bobl ifanc mewn ffordd debyg ag yn awr, ond hefo hyd yn oed fwy o sylw ar strategaeth ymgysylltu hefo pobl ifanc yr Heddlu. 

Wrth i'r rhaglen leol yng Ngogledd Cymru ddatblygu drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf, y nod ydy teilwra'r cwrs ymhellach, gan ystyried barn pobl ifanc a'r gymuned addysg ymhellach.

Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Mae'r rhaglen SchoolBeat nid yn unig yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am gyfrifoldeb dinesig a helpu eu cymuned, ond mae hefyd yn gyswllt hanfodol rhwng yr ysgol a fy swyddogion. Felly, rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu parhau â'r gwasanaeth gwerthfawr hwn ar lefel leol.”

"Mae Swyddogion Heddlu Ysgolion yn darparu mewnbynnau hanfodol o amgylch amrywiaeth o bynciau, ond maent hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu perthynas gadarnhaol gyda'r heddlu, gan ddeall ein rôl wrth wasanaethu ein cymunedau."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch iawn bod ein gwaith hefo Heddlu Gogledd Cymru yn golygu y gall Rhaglen Ysgolion Cymru barhau ar ffurf wedi'i haddasu. Dwi'n edrych ymlaen at ei gweld hi'n datblygu yn y misoedd i ddod.

"Gallwn ni gyd ddeall y pwysau ar gyllidebau a chyllid ar y llywodraeth ar bob lefel sydd wedi ein harwain ni at y pwynt hwn. Ond dwi'n falch bod yr Heddlu a fy swyddfa i wedi gallu creu datrysiad sy'n golygu y gall rhaglen wedi'i hysbrydoli gan School Beat Cymru barhau mewn ysgolion. Felly, gall ein rhaglen newydd a phwrpasol ni helpu barhau meithrin y cysylltiadau dwfn rhwng yr heddlu a phobl ifanc. Bydd yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol, gan annog dealltwriaeth, deialog, ac ymddiriedaeth rhwng gwahanol genedlaethau a rhannau o gymdeithas."