Skip to main content

Rheoleiddio i dorri'r gangiau cyffuriau allan a chaniatau i bobl dyfu ei canabis eu hunain

Dyddiad

Cost plismona i godi 38c yr wythnos i'r cartref cyffredin

Mae pennaeth heddlu yn galw am reoleiddio canabis i dorri allan troseddu cyfundrefnol a chaniatau i bobl dyfu peth cynnyrch cyfyngedig eu hunain ar gyfer defnydd personol. 

Yn ol Comisiynydd Hedlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, dylai gael ei reoli’n gyfreithiol yn union fel alcohol a thybaco sy’n achosi mwy o niwed i unigolion ac i gymdeithas yn gyffredinol. 

Mae Mr Jones, sy’n gyn-swyddog heddlu, yn galw am gyflwyno system drwyddedu newydd fel y gellir gwerthu canabis trwy fferyllfeydd ac mewn siopau fel sy'n digwydd yng Nghanada, Uruguay a rhai taleithiau yn America.

Mae'r Comisiynydd wedi ymgyrchu ers blynyddoedd dros ddiwygio cyfreithiau cyffuriau oherwydd nad ydynt yn gweithio.

Mae'n credu bod gwaharddiad yn wrthgynhyrchiol ac yn chwarae i ddwylo'r gangiau cyffuriau.

Dywedodd Mr Jones: “Mae'n nonsens rhoi record droseddol i bobl sy'n cymryd canabis at ddibenion hamdden ac sydd ddim yn achosi unrhyw niwed i neb. 

Y ffordd orau i leihau rôl troseddau cyfundrefnol wrth gyflenwi cyffuriau yw ei roi mewn dwylo masnachol a phrisio'n briodol fel nad oes angen i bobl fynd i'r farchnad anghyfreithlon.

Mae sefydliadau masnachol wedi cymryd drosodd y farchnad ganabis meddyginiaethol ac maent yn gwerthu presgripsiynau am gost enfawr er ei bod yn rhad i’w dyfu. Cymryd mantais annheg yw hynny yn fy marn i.

Rwy’n credu y dylid caniatáu i bobl dyfu nifer cyfyngedig o blanhigion canabis i'w defnyddio eu hunain.

Gadewch i ni wynebu’r gwir mae’n debygol iawn bod  yna gannoedd o filoedd o bobl yn y wlad hon sy'n tyfu canabis yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd.

Dydyn nhw ddim yn gwneud drwg i neb arall ac nid oes unrhyw reswm pam y dylid eu cosbi drwy'r system cyfiawnder troseddol.

Byddai'n ddoeth dilyn esiampl clybiau canabis yn Sbaen lle mae pobl yn cael tyfu saith neu wyth o blanhigion canabis yn y clwb.

Pe baech chi'n dechrau o'r dechrau rwy'n credu y byddai canabis yn cael ei reoleiddio'n ysgafnach nag alcohol bellach oherwydd rwy’n credu erbyn hyn bod pawb yn cytuno bod alcohol yn llawer mwy niweidiol i unigolion na chanabis.

Yn union fel alcohol, dylai fod gennych gyfyngiadau oedran ar brynu a bwyta canabis fel rhan o farchnad reoledig.

Gallai'r cyfyngiad oedran hwnnw fod yn 18 neu 21 oed. Yn yr UDA, ni allwch yfed alcohol nes eich bod chi'n 21 oed ond nid wyf yn poeni am fater oedran. Byddwn yn parchu cyngor arbenigwyr ar y mater hwn.

Yr hyn yr wyf yn glir amdano yw na ddylai mynd ar ol defnyddwyr hamdden o ganabis a'u herlyn fod yn flaenoriaeth gan yr heddlu pan nad ydynt yn achosi unrhyw niwed gwirioneddol i unrhyw un arall.

Yn hytrach na gorlwytho system cyfiawnder troseddol sydd eisoes yn torri, mae angen dull mwy goleuedig a mwy effeithiol arnom.

Yn yr hydref byddaf yn lansio cynllun newydd o'r enw Checkpoint yng Ngogledd Cymru - ar ôl iddo gael ei ddatblygu gan Brifysgol Caergrawnt a'i dreialu'n llwyddiannus yn Durham - mae’r cynllun wedi ei fwriadu i ddargyfeirio troseddwyr lefel isel i ffwrdd o drosedd.

Mae angen i ni gydnabod bod 90 y cant o'r defnydd o gyffuriau gan gynnwys canabis yn ddefnydd hamdden ac nad yw'n broblem.

Yn yr achosion hynny, dylid rhoi rhywfaint o wybodaeth addysgol i bobl a dyna fyddai diwedd y mater.

Yn y cyfamser, mae'r sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â chanabis meddyginiaethol wedi cael ei chymylu gan wleidyddiaeth mewn ymgais i osgoi cyhoeddusrwydd drwg yn dilyn achosion torcalonnus fel salwch cronig Billy Caldwell sydd angen olew canabis i atal y ffitiau sy'n bygwth ei fywyd.

Mae hefyd yn anghyfiawn ac yn greulon bod pobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol sy'n defnyddio canabis yn rhoi eu hunain mewn perygl o gael eu herlyn.

Ar adeg pan fo Heddlu Gogledd Cymru wedi gorfod ymdopi â £30 miliwn mewn toriadau llymder ers 2010, mae angen i ni ganolbwyntio yn hytrach ar geisio lleihau cyflenwi sylweddau anghyfreithlon oherwydd y trais sy'n gysylltiedig a hynny, y problemau y mae'n eu hachosi a’r camfanteisio ar bobl ifanc a phobl agored i niwed.

Mae'n annheg bod cael collfarn am fod ym meddiant ychydig o ganabis ddifetha gyrfa rhywun.

Dyna sy'n digwydd pan fydd pobl yn mynd drwy'r system cyfiawnder troseddol. felly mae angen i ni edrych ar ffordd wahanol ac rydym yn gwneud hynny yma yng Ngogledd Cymru.

Yn ddiweddar, ymwelais â Montevideo, sef un o'r prifddinasoedd mwyaf llewyrchus yn America Ladin, felly yn amlwg pan wnaethon nhw reoleiddio canabis yn ôl yn 2014 ni wnaeth y byd ddod i ben. Mae'n wers y dylem ei dysgu yma.”