Skip to main content

Rhybudd ar ôl i dwyllwyr creulon roi dioddefwyr ar restr er mwyn gwerthu data ar y we dywyll

Dyddiad

Rhybudd ar ôl i dwyllwyr creulon roi dioddefwyr ar restr er mwyn gwerthu data ar y we dywyll

Os ydych wedi dioddef twyll gallwch roi gwybod amdano trwy gysylltu ag  Action Fraud trwy’r wefan, www.actionfraud.police.uk neu trwy eu ffonio ar 0300 123 2040 a gall pobl sy'n amau eu bod wedi cael eu sgamio hefyd ffonio'r llinell gymorth newydd drwy ffonio 159.


Mae dioddefwyr twyll wedi cael eu rhybuddio i fod ar eu gwyliadwriaeth ar ôl iddi gael ei datgelu eu bod yn fwy tebygol o gael eu targedu am yr eildro.

Daeth yr apêl gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, ar ôl iddo gael gwybod bod eu manylion yn aml yn cael eu rhoi ar restr “hawdd i’w twyllo”a’u gwerthu ar y we dywyll.

Roedd y Comisiynydd, sydd wedi arbenigo mewn technoleg, yn siarad ar ôl ymweliad i gyfarfod â swyddogion o Uned Troseddau Economaidd lwyddiannus Heddlu Gogledd Cymru.

Mae wedi gwneud amddiffyn pobl agored i niwed yn un o’r prif flaenoriaethau yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd sy’n gosod y cyfeiriad cyffredinol ar gyfer plismona Gogledd Cymru.

Mae cymorth wrth law gan yr Uned Troseddau Economaidd a all ddarparu atalyddion galwadau i atal galwadau ffôn gan rifau ffôn anhysbys i ffôn llinell dir.

Datgelodd y comisiynydd hefyd y gall pobl sy’n ofni eu bod wedi bod yn ddioddefwyr twyll ffonio llinell gymorth newydd, 159, sy’n anelu at fod yn “999 am dwyll”.

Mae’r rhif 159 yn cael ei dreialu gan Stop Scams UK, grŵp o fanciau a chwmnïau ffôn a bydd yn galluogi pobl i siarad â’u banc ar unwaith ynglŷn ag amheuaeth o dwyll.

Bydd y llinell gymorth yn rhedeg am 12 mis fel cynllun peilot a bydd yn arbed pobl rhag rhuthro mewn panig am rif ffôn eu banc os ydynt yn poeni eu bod wedi cael eu sgamio.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Gall y twyllwyr creulon a didostur hyn fod yn gredadwy iawn, felly mae’n hanfodol bod pobl ar eu gwyliadwriaeth ac nad ydyn nhw’n llyncu stori’r twyllwyr.

“Rwy’n canolbwyntio ar ddarparu help a chefnogaeth i’r dioddefwyr oherwydd mae bod ar ochr anghywir twyll yn brofiad trawmatig.

“Mae’n amlwg bod pobl oedrannus yn aml yn cael eu targedu’n fwriadol ac i bob pwrpas mae’r twyllwyr yn cymryd mantais arnyn nhw dros y ffôn.

“Mae hon yn drosedd warthus oherwydd mae’r dioddefwyr wedi gweithio’n galed ar hyd eu hoes, ond gall eu cynilion ddiflannu ar ôl un neu ddau o alwadau ffôn.

“Mae’r atalydd galwadau yn arf rhagorol sy’n sgrinio galwadau sy’n dod i mewn ac yn blocio rhifau anhysbys fel mai dim ond galwyr dibynadwy sy’n gallu mynd trwodd.”

Mae’r Ditectif Gwnstabl David Hall, sy’n gweithio i’r Uned Troseddau Economaidd, hefyd yn teimlo’n gryf am ddiogelu pobl sy’n agored i niwed.

Meddai: “Un o’r pethau mwyaf sy’n fy ngyrru yw bod y dioddefwyr hyn yn aml iawn yr un oed â fy rhieni. Gallan nhw fod yn rhieni unrhyw un ac maen nhw’n cael eu twyllo allan o filoedd o bunnoedd.

“Gall cael eu twyllo o swm cymharol fach gael effaith enfawr ar rai bregus, gall ddinistrio eu bywyd.

 “Mae mwyafrif y bobl sydd â llinellau ffôn tir y dyddiau hyn yn oedrannus ac mae eu henwau yn dal i fod yn y llyfrau ffôn. Bydd y twyllwyr hyn mewn swyddfeydd dros dro ac yn gwneud cannoedd, os nad miloedd o alwadau ffôn bob dydd, yn ogystal ag anfon e-byst gwe-rwydo.

“Er enghraifft, nid yw £100 yn ddim byd i rai pobl ond i berson arall a allai fod yn bensiynwr, gallai fod y cyfan sydd ganddyn nhw ar gyfer y mis hwnnw. Bydd y twyllwr yn ceisio cael dioddefwyr i fynd i banig ac yna pwyso arnyn nhw i wneud trosglwyddiad banc i gyfrif diogel.

“Ni fydd unrhyw fanc, adran y llywodraeth na’r heddlu byth yn cysylltu â chi i ddweud wrthych i symud eich arian i gyfrif diogel.

“Os byddwch yn derbyn un o’r galwadau hyn rhywdro, rhowch ddiwedd ar yr alwad ar unwaith, ac arhoswch am bum munud i ganiatáu i’r llinell glirio, yna siaradwch â’ch banc gan ddefnyddio’r rhif dibynadwy ar gefn eich cerdyn, llyfr ffôn neu ewch i’r gangen yn bersonol os gallwch chi. Peidiwch byth â chael eich twyllo i symud arian i gyfrif diogel.”

“Ar ôl i rywun ddioddef twyll, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn ddioddefwr eto.

“Bydd eu manylion yn mynd ar restr ‘hawdd i’w twyllo’ ac yna’n cael eu gwerthu ar y we dywyll. Os edrychwch ar y we dywyll mi welwch fanylion pobl ar werth yno - enw, dyddiad geni, cod post, cyfeiriadau e-bost, cyfrineiriau, gwybodaeth fancio - mae unrhyw beth sy’n ddata personol yn werthfawr i’r twyllwr.

“Mae’r data yma fel arfer wedi cael ei ddwyn neu ei gamddefnyddio o’r blaen ac ar y we dywyll mi ddowch o hyd i rifau cardiau pobl ar werth. Bydd rhifau cardiau yn cael eu cynnig ar werth gyda gwarant y byddan nhw’n gweithio am hyn a hyn o ddiwrnodau ac yn codi cwpl o gannoedd o bunnoedd amdanyn nhw, fe allai gymryd dyddiau i’r dioddefwr sylweddoli bod twyll wedi digwydd.

“Os ydyn nhw’n llwyddo gyda dim ond un person ac yn gallu cael unrhyw arian oddi arnyn nhw, mae’n ddiwrnod da. Mae’n aur iddyn nhw ac yn ddinistr i’r dioddefwr. “

Ymhlith y datblygiadau arloesol y mae Mr Dunbobbin eisiau eu cyflwyno yn dilyn ei ethol ym mis Mai y mae panel ‘dioddefwyr’ fel y gellir clywed lleisiau pobl sydd wedi dioddef troseddau, gan gynnwys twyll, a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Ychwanegodd: “Rwyf am sicrhau bod pob dioddefwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wella o’u profiad, felly mae cael system gyfiawnder sy’n ystyried eu hanghenion yn hanfodol.”

Os ydych wedi dioddef twyll gallwch roi gwybod amdano trwy gysylltu ag  Action Fraud trwy’r wefan, www.actionfraud.police.uk neu trwy eu ffonio ar 0300 123 2040 a gall pobl sy'n amau eu bod wedi cael eu sgamio hefyd ffonio'r llinell gymorth newydd drwy ffonio 159.