Skip to main content

Rhyl Raptors uwch ben eu digon diolch i arian a atafaelwyd oddi ar droseddwyr

Dyddiad

Rhyl Raptors

Mae clwb chwaraeon cadeiriau olwyn yng Ngogledd Cymru ar garlam diolch i'r cyllid a gymerwyd o elw troseddu. Fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld hefo Rhyl Raptors er mwyn gweld sut mae'r arian yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned, ac yn arbennig er mwyn helpu'r clwb ehangu eu storfa er mwyn llwytho a dadlwytho cadeiriau olwyn chwaraeon.

Ffynhonnell y grant ydy cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis, sy'n helpu sefydliadau ar lawr gwlad ar draws y rhanbarth ac sy'n cael ei chefnogi gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Ers dechrau Eich Cymuned, Eich Dewis dros un mlynedd ar ddeg yn ôl, mae bron i £600,000 wedi cael ei roi i 200 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu bröydd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae Rhyl Raptors yn cynnal tair sesiwn chwaraeon yr wythnos ac mae'r clwb yn denu aelodau o bob un o'r chwe sir yng Ngogledd Cymru. Mae'r clwb yn darparu amgylchfyd cynhwysol a chefnogol lle caiff pobl o bob gallu gyfle cymryd rhan mewn chwaraeon a meithrin lles cymunedol, hyder a lles. Fel enghraifft o'i waith, mae'r clwb yn cymryd rhan yng Nghynghrair Pêl-fasged Cadeiriau Olwyn Gogledd Cymru drwy gydol y flwyddyn hon ar gyfer ystod o oedrannau gwahanol.

O ystyried amserlen chwaraeon brysur y clwb, mae'n hanfodol bod cadeiriau olwyn aelodau'n cael eu cadw'n ddiogel er mwyn i bawb allu cymryd rhan. Dyma lle bydd yr arian ar gyfer y storfa newydd yn helpu. Yn ystod yr ymweliad hefo’r clwb, fe wnaeth y Comisiynydd; Dave Evans a Kelsey Reed o PACT; a’r SCCH lleol Thatcher Rysavy wylio noson gêm y clwb. Fe wnaethon nhw weld sut mae’r aelodau wrthi’n cymryd rhan mewn ystod o chwaraeon cadeiriau olwyn a chlywed effaith derbyn y cyllid ar bawb. Gwnaeth yr ymwelwyr hefyd helpu tanio’r gêm pêl fasged rhwng Rhyl Raptors a Conwy Thunder. Fe wnaeth SCCH Rysavy, a arferai chwarae pêl fasged yn rheolaidd pan oedd yn iau, y cydnaid swyddogol hefo’r bêl er mwyn dechrau’r gêm

Dywedodd y tîm o Rhyl Raptors: "Fel clwb, mae Rhyl Raptors wedi gweld twf anhygoel yn ein haelodaeth ar ôl Covid. O ganlyniad, 'da ni'n tyfu'n gyflymach na'n cyfleuster storio presennol lle 'da ni'n cadw ein cadeiriau olwyn chwaraeon ni i gyd. Diolch i'r cyllid gafodd ei dderbyn drwy Eich Cymuned, Eich Dewis ac mewn partneriaeth hefo Hamdden Sir Ddinbych bydd gynnon ni bellach uned storio anhygoel y gallwn ni ei defnyddio er mwyn caniatáu i'r clwb barhau tyfu.

"'Da ni mor falch bod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd hefo ni ar ein noson gemau wrth iddo arddangos yr ieuenctid a'r oedolion sydd gynnon ni sy'n elwa'n aruthrol o'r gwaith a wnawn ni."

Dywedodd Rebecca Roberts, mam un o aelodau tîm Rhyl Raptors: “Mae ymuno hefo’r Raptors wedi bod yn hyfryd o ran hyder fy merch i. Mae wedi’i helpu hi gadw’n heini’n fawr, a theimlo fel rhan o dîm a theulu sydd wedi bod yn gefn mawr iddi.”

Dywedodd Mark Williams, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Limb-Art, sydd wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd ac yn noddwr presennol Rhyl Raptors: “Cafodd Mark Hayes, sylfaenydd y Raptors sydd hefyd wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd, a finnau gefnogaeth pan oedden ni’n ifanc gan gwmnïau lleol ac elusennau lleol sy’n trio gwneud daioni. Fel y cyfryw, mae’n sefyllfa wych bod ynddi, yn rhedeg cwmni, a gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r genhedlaeth nesaf, a all gymryd rhan oherwydd y chwaraeon, yr hwyl neu er mwyn dyfodol cystadleuwyr Paralympaidd.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: "Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld hefo pawb yn Rhyl Raptors. Mae'r clwb yn helpu meithrin ymdeimlad o berthyn ac ysbrydoliaeth i bawb o dan sylw, a dyna pam mae'r clwb mor bwysig i'r gymuned. Mae Rhyl Raptors yn esiampl addas o egni ac ysbrydoliaeth i bobl yng Ngogledd Cymru. Dwi'n falch y gallwn ni, trwy Eich Cymuned, Eich Dewis, helpu ehangu mynediad, gweithgarwch a chynwysoldeb i bawb sy'n gysylltiedig."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael effaith gadarnhaol ar ysbrydoli sefydliadau a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae Rhyl Raptors yn enghraifft addas o hyn ar waith. 'Da ni'n falch ein bod ni wedi gallu darparu cyllid i'r clwb a helpu darparu man lle gall pobl anabl fod yn egnïol a chymryd rhan mewn chwaraeon fel pêl-fasged cadeiriau olwyn. Mae helpu ariannu prosiectau fel hyn yn 'slam dunk' ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis ac i bobl Gogledd Cymru!"

Ychwanegodd Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o fod wedi helpu ariannu prosiect mor bwysig o fewn Rhyl Raptors. Nid yn unig y mae'r clwb yn helpu lles corfforol a meddyliol yn y gymuned, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd a help i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon. 'Da ni'n gobeithio y bydd y cyfleusterau storio gwell yn y clwb yn helpu cadw eu hoffer yn saffach. Mae hyn fel y gallan nhw ganolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar eu hyfforddiant a'u cyflawniad nhw ac ar fod yn fabolgampwyr ardderchog."

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk 

Am fwy o wybodaeth am Rhyl Raptors, ewch ar: www.facebook.com/RhylRaptorsWSC