Dyddiad
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) Gogledd Cymru yn chwilio am aelodau o'r cyhoedd ar draws yr ardal i ymuno yn wirfoddol fel Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa (ICVs) sy'n ymweld â rhai yn y ddalfa wedi iddynt gael eu harestio. Drwy’r ymweliadau hyn, mae'r gwirfoddolwyr yn darparu goruchwyliaeth, gan sicrhau bod hawliau'r rhai yn y ddalfa yn cael eu parchu.
Mae gofyn i'r gwirfoddolwyr gynnal isafswm o 10 ymweliad y flwyddyn. Mae'r ymweliadau hyn yn hanfodol wrth sicrhau goruchwylio a monitro lles a thriniaeth y rhai yn y ddalfa. Bydd y gwirfoddolwyr yn sylwi ar amodau'r ddalfa, sut mae'r rhai yn y ddalfa yn cael eu trin, a riportio ar eu hawliau mewn capasiti diogelu. Mae ymweliadau â dalfeydd yn ddirybudd ac nid ydynt wedi'u cynllunio ymlaen llaw, er mwyn sicrhau asesiad diduedd o'r amodau a brofir gan garcharorion.
Mae ceisiadau ar gyfer recriwtio bellach ar agor a byddant yn cau ar 20 Awst 2024 ac os yn llwyddiannus, bydd yr hyfforddiant yn digwydd yng nghanol Gorffennaf. Mae gan SCHTh ddiddordeb penodol mewn recriwtio siaradwyr Cymraeg ac aelodau o gymunedau du ac ethnig lleiafrifol fel rhan o'u hymdrechion parhaus i hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn y gweithle ac adlewyrchu'r boblogaeth a wasanaethir.
O Ebrill i Ragfyr 2023 gwnaed cyfanswm o 89 ymweliad i'r ddalfa gan wirfoddolwyr. Ar hyn o bryd mae 24 gwirfoddolwr dalfa ar draws yr ardal.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae cael Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa yn fanteisiol iawn, gan fod lles unigolion yn y ddalfa yn bwysig i ni gyd. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae sicrhau system droseddol effeithiol a theg yn flaenoriaeth yn fy nghynllun ar gyfer brwydro yn erbyn troseddau yng Ngogledd Cymru.
"Mae bod yn ymwelydd â'r ddalfa yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau bod triniaeth y rhai sydd yn y ddalfa yn cydymffurfio â'r rheolau sy'n llywodraethu'r broses."
Adlewyrchodd Vicki Cooper, sy’n Ymwelydd Annibynnol â’r Ddalfa ar ei phrofiadau drwy ddweud: “Rwyf wedi bod yn ymwelydd â'r ddalfa am 10 mlynedd ac yn ymweld gyda gwirfoddolwr arall unwaith y mis, mae pob ymweliad yn wahanol a gall gymryd tua 2-3 awr. Roedd yr hyfforddiant a dderbyniais i ddechrau yn ardderchog ac rwyf yn hyderus bod yr hyfforddiant a'r cymorth a roddwyd i mi wedi rhoi'r hyder i mi ddechrau ymweld.
"Mae bod yn wirfoddolwr yn ffitio mewn i fy mywyd gwaith ac yn rhoi cyfle i mi gwrdd â gwirfoddolwyr eraill, pob un ohonynt o wahanol oed ac yn dod â phrofiad gwahanol i'r gwaith. Rwyf yn argymell pobl o bob oed a chefndir i ymuno â'r cynllun gwirfoddoli â'r ddalfa er mwyn i chi gael gweld yr effaith bositif mae'r cynllun yn ei gael."
Mae’r gwaith i gyd yn cael ei wneud yn wirfoddol, ac mae costau teithio yn cael eu digolledu gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Er mwyn ymgeisio neu ddysgu mwy am ddod yn Ymwelydd Annibynnol Dalfeydd gwirfoddol, ewch ar wefan SCHTh Gogledd Cymru: https://www.northwales-pcc.gov.uk/vacancies