Skip to main content

SCHTh yn dathlu ymrwymiad i Gyflog Byw Go Iawn

Dyddiad

Cyflog Byw

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) Gogledd Cymru wedi'i achredu'n swyddogol fel Cyflogwr Cyflog Byw. Mae'r ymrwymiad Cyflog Byw yn golygu fod pawb sy'n gweithio ym mhob busnes achrededig yn derbyn isafswm cyflog awr o £9.90, sy'n sylweddol uwch nag isafswm Llywodraeth y DU i rai dros 23 oed, sydd ar hyn o bryd yn aros yn £9.50 yr awr. 

Y Cyflog Byw go iawn ydy'r un gyfradd a gyfrifir yn ôl costau byw.  Mae'n rhoi meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy'n dymuno sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog y gallent fyw arno, nid ond lleiafswm y llywodraeth yn unig. Ers 2011 mae mudiad y Cyflog Byw wedi cyflwyno codiad cyflog i dros 300,000 o bobl ac wedi rhoi dros £1.6 biliwn ychwanegol i bocedi gweithwyr sydd â chyflog isel.  

Dywedodd Stephen Hughes, Prif Swyddog Gweithredol SCHTh: "Rydym yn falch o dderbyn achrediad fel Cyflogwr Cyflog Byw. Ledled Cymru mae bron i un rhan o bump o weithwyr yn ennill llai na maent eu hangen i fyw, gydag oddeutu 223,000 o swyddi'n talu llai na'r Cyflog Byw go iawn.  Yn SCHTh rydym yn benderfynol o wneud ein rhan i gynorthwyo newid hyn. Rydym yn ymroi i dalu'r Cyflog Byw go iawn bob amser a rhoi cyflog teg am ddiwrnod caled o waith i'n staff."

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyflog Byw: "Rydym yn falch fod Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi ymuno a'r mudiad o bron i 9,000 o gyflogwyr cyfrifol ledled y DU sy'n ymroi'n wirfoddol i fynd ymhellach na lleiafswm Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau fod eu holl staff yn ennill digon i fyw arno.

"Maent yn ymuno a miloedd o fusnesau bach, ynghyd ag enwau enwog fel Burberry, Barclays, Clwb Pêl Droed Everton a llawer mwy. Mae'r busnesau hyn yn cydnabod fod talu'r Cyflog Byw go iawn yn arwydd o gyflogwr cyfrifol. Maent, fel SCHTh Gogledd Cymru, yn credu fod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog teg."