Dyddiad
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) Gogledd Cymru wedi'i chydnabod yn genedlaethol am ansawdd ei chynllun Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd.
O dan y cynllun, mae gwirfoddolwyr o'r gymuned leol wedi'u hyfforddi, sy'n cael eu rheoli gan staff o'r SCHTh, yn cynnal ymweliadau dirybudd rheolaidd â dalfeydd er mwyn gwirio hawliau, hawliadau, lles ac urddas y carcharorion yno.
Mae Cymdeithas Annibynnol Ymweliadau Dalfeydd – sef y sefydliad aelodaeth cenedlaethol sy'n helpu, arwain a chynrychioli'r cynlluniau hyn – wedi datblygu fframwaith sicrwydd ansawdd er mwyn asesu pa mor dda mae cynlluniau'n cydymffurfio hefo'r cod ymarfer sy'n llywodraethu ymweliadau'r ddalfa.
Dyma'r ail flwyddyn mae cynlluniau wedi cael eu hasesu o dan y fframwaith ac sydd wedi gallu cael gwobrau sicrwydd ansawdd sy'n cydnabod gwerth eu gwaith nhw. Cyflwynwyd gwobr sicrwydd ansawdd 'cydymffurfio â chod' i aelodau staff SCHTh gan y Gymdeithas ar ddydd Mercher 29 Tachwedd, mewn seremoni yn Birmingham.
Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, gwnaed cyfanswm o 120 ymweliad gan Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol ledled tair dalfa Heddlu Gogledd Cymru, sef Llai, Caernarfon a Llanelwy. O'r 581 o garcharorion a oedd yn y dalfeydd yn ystod y cyfnodau ymweld, siaradwyd hefo 296 a gwyliwyd 53 ohonyn nhw.
Gan groesawu'r wobr, dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch o weld y cynllun yng Ngogledd Cymru yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.
"Mae ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr hyfforddedig o'r gymuned leol, hefo help ein staff diwyd, yn gweithio er mwyn sicrhau fod hawliau, hawliadau, lles ac urddas carcharorion yn cael eu cynnal yn y ddalfa.
"Mae'n fraint cael derbyn gwobr sicrwydd ansawdd, sy'n dystiolaeth o waith caled y staff o fewn fy swyddfa sydd yn gysylltiedig hefo'r cynllun."
Dywedodd y Fonesig Anne Owers, Cadeirydd y Gymdeithas: "Mae cynlluniau annibynnol ymweliadau â dalfeydd yn gwneud yn siŵr fod y cyhoedd yn goruchwylio maes plismona sydd o dan bwysau mawr ac sy'n aml yn guddiedig. Mae'r gwobrau hyn yn dangos sut mae cynlluniau lleol yn defnyddio adborth gwirfoddolwyr er mwyn gwneud newid a sicrhau fod dalfa'r heddlu'n saff ac yn urddasol i bawb."
Dywedodd Sherry Ralph, Prif Weithredwr y Gymdeithas: "Mae'r fframwaith sicrwydd ansawdd yn cynrychioli llawer iawn o waith ychwanegol. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr fod ymweliadau annibynnol â dalfeydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, mae gwelliannau'n cael eu gwneud ac mae arfer gwych yn cael ei rannu. Dwi'n llongyfarch cynlluniau ar eu llwyddiannau a diolch iddyn nhw am eu hymroddiad."
Er mwyn dysgu mwy am y cynllun, ewch ar https://www.northwales-pcc.gov.uk/independent-visiting-schemes
Er mwyn gwybod mwy am y Gymdeithas, ewch ar https://icva.org.uk/