Skip to main content

Sesiynau Strydoedd Diogelach yn dysgu hunanamddiffyn

Dyddiad

Holyhead Safer Streets Exercise Session

Yn diweddar, cynhaliodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru (HGC) sesiwn ymarferion bocsio i ferched a genethod yng Nghanolfan Hamdden Caergybi fel rhan o'r fenter Strydoedd Diogelach. Nod y sesiwn oedd hyrwyddo diogelwch a hunanhyder merched ac ychwanegu at y berthynas dda rhwng yr Heddlu a'r gymuned leol. 

Ymunodd ugain o'r cyhoedd â'r sesiwn am ddim, a ariannwyd o'r fenter Strydoedd Diogelach. Roedd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, yn bresennol hefyd ynghyd â swyddogion o'r Heddlu.  Cynhaliwyd y sesiwn er mwyn rhoi cyfle i ferched a genethod yn yr ardal ddysgu tactegau hunanamddiffyn. Mae cyfres o sesiynau ymarfer wedi'u cynllunio ar gyfer oedolion ynghyd a sesiynau unigol i blant a rhai yn eu harddegau, i'w cyflwyno mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn eu tro.

Mae'r Gronfa Strydoedd Diogelach yn rhaglen £75 miliwn gan y Swyddfa Gartref sy'n annog Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol i gynnig am fuddsoddiad am fentrau er mwyn atal trosedd cymdogaethau. Nod y prosiect ydy cynorthwyo ardaloedd sy'n dioddef trosedd ledled Cymru a Lloegr, fel byrgleriaeth ddomestig, lladrad, dwyn, trosedd cerbydau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn merched a genethod mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys yn yr economi nos. 

Gweithiodd tîm y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau, ysgolion, gwasanaethau cyfiawnder a phartneriaid y trydydd sector i sicrhau fod y cynnig wedi cael cymaint o gymorth a phosibl ledled y meysydd sy'n derbyn cyllid.

Roedd tref Caergybi yn un o'r mannau a dderbyniodd arian yn y bedwaredd rownd o gyllid Strydoedd Diogelach, ynghyd â Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Bydd prosiect Caergybi yn gweld £692,149 yn mynd tuag at wella golau stryd o amgylch canol y dref a hefyd yn gweld gosod 21 o gamerâu cylch cyfyng. Darperir pecynnau gwella diogelwch ac atal trosedd ar gyfer 250 o eiddo i gynorthwyo atal trosedd cymdogaethau. Darperir patrolau heddlu amlwg iawn er mwyn cynorthwyo i ymdrin ac atal troseddau VAWG ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhan o'r economi nos.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Rwyf yn falch o weld y cyllid rydym wedi'i dderbyn gan Strydoedd Diogelach i fynd tuag at sesiynau ymarferol. Mae hyn er mwyn cynorthwyo merched deimlo'n fwy diogel yn y gymuned. Fy nod ers cael fy ethol fel CHTh ydy sicrhau bod trigolion Gogledd Cymru yn ddiogel. Rwyf yn falch ein bod yn rhoi mesurau mewn lle er mwyn diogelu merched yng Nghaergybi a mannau eraill ledled y rhanbarth.

“Mae'r prosiect Strydoedd Diogelach yng Nghaergybi yn enghraifft arall sut mae gwaith caled a chydweithio agos gyda staff Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a phartneriaid lleol wedi arwain at ganlyniad llwyddiannus. “Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd am eu holl waith parhaus.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Ardal Robert Rands o Heddlu Gogledd Cymru: “Gwnaeth y sesiwn roi'r cyfle i swyddogion Heddlu Gogledd Cymru ychwanegu at ein perthynas dda bresennol gyda'r cyhoedd ynghyd â chyfnewid neges bwysig y fenter Strydoedd Diogelach. Mae hefyd yn dangos sut mae cyllid o'r prosiect yn cael ei roi ar waith yng nghymuned Caergybi, yn enwedig er mwyn diogelu merched. Rwyf yn edrych ymlaen at gynnal y sesiynau ymarfer nesaf gyda grwpiau oedran gwahanol.”

Dywedodd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn: “Rwyf yn falch iawn o weld cyllid Strydoedd Diogelach Llywodraeth DU yn cyfrannu at sesiynau hunanamddiffyn i ferched. Gwnaeth yr ynys dderbyn £692,000 yn ddiweddar gan y gronfa er mwyn gwneud daioni fel hyn. Roedd yn bleser cymryd rhan a dysgu sgiliau fy hun. Mae hefyd yn dangos fod y Llywodraeth yn ymroi i atal trais yn erbyn merched a genethod. Llawer o ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru am drefnu'r digwyddiad.”