Skip to main content

Sgowtiaid Saltney Ferry yn mynd ar waith hefo help arian cymunedol

Dyddiad

Saltney Scouts

Ar 31 Hydref, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â Grwp Sgowtiaid Cyntaf Saltney Ferry er mwyn dysgu mwy am waith a gweithgareddau'r Sgowtiaid.

Gwelodd hefyd sut mae arian sy'n cael ei gymryd oddi ar droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles pobl ifanc drwy eu galluogi nhw wersylla a mwynhau'r Awyr Agored.  

Mae cronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu prosiectau llawr gwlad ac mae'n derbyn help gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r arian ar gyfer Eich Cymuned, Eich Dewis yn dod yn rhannol oddi wrth arian sydd wedi ei atafaelu drwy'r llysoedd drwy Ddeddf Enillion Troseddau gyda'r gweddill o Gronfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.  

Mae adran Sgowtiaid Saltney Ferry yn cynnal cyfarfodydd wythnosol, llawer o weithgareddau, a gwersylloedd i fechgyn a genethod 10 i 14 oed.  Maen nhw'n cyfarfod bob nos Wener yn Bradshaw Avenue yn Saltney Ferry. Ers pandemig Covid-19, mae'r grŵp wedi gweld cynnydd mawr mewn aelodau yn yr ardal, o 80 i 150. Daw llawer o gefndiroedd difreintiedig. Mae'r arian o Eich Cymuned, Eich Dewis wedi galluogi prynu pabell awyr agored o'r radd flaenaf ynghyd â chwe phabell hefo toiledau ac offer gwersylla eraill.

Yn ystod ei amser ar y safle, mi wnaeth y Comisiynydd gwrdd ag arweinwyr y Grŵp, pobl ifanc o bob oed sy’n cymryd rhan yn y Grŵp a’u rhieni. Hefyd, croesawodd ddau aelod newydd i’r Beavers a chyflwynodd fathodynnau i dri aelod o’r Cubs.

Dywedodd James Reynolds, Arweinydd Grŵp Gwirfoddol, Grŵp Sgowtiaid Saltney Ferry: "'Da ni'n falch fod y Comisiynydd wedi gallu dod i'n gweld ni ac yn ddiolchgar am y cyllid wnaethon ni dderbyn. Heb grantiau fel hyn, buasem yn cael trafferth rhoi cyfleoedd i bobl ifanc Saltney Ferry a'r cyffiniau yn Sir y Fflint. Hefo'r grant hwn, gallwn ni fuddsoddi mewn offer newydd na fydden ni wedi gallu ei fforddio fel arall. 'Da ni rŵan mewn sefyllfa lle gallwn ni amnewid offer gwersylla pwysig a gallu parhau i ddarparu profiadau newydd, cyffrous ac anturus i'n Sgowtiaid!"

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae sgowtio yn weithgaredd wych i bobl ifanc fagu sgiliau a wnaiff aros hefo nhw drwy gydol eu bywydau. Mae hyn yn rhywbeth dwi'n gwybod yn iawn o'n hamser i fel Sgowt ar Lannau Dyfrdwy fel plentyn.

"Roeddwn i'n falch o weld sut mae Sgowtiaid Saltney Ferry wedi buddsoddi cyllid Eich Cymuned, Eich Dewis wrth gyfoethogi profiadau pobl ifanc Saltney Ferry. Daw llawer ohonyn nhw o gefndiroedd difreintiedig. Mae helpu cymunedau yn flaenoriaeth allweddol i mi. Dwi'n falch o weld sefydliadau fel hyn yn gwneud eu rhan i helpu eu cymdogion a'u cyd-ddinasyddion."

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn gwneud gwahaniaeth i sefydliadau a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae Sgowtiaid Saltney Ferry yn enghraifft wych o hyn ar waith. Bydd yr offer mae'r grŵp wedi'i brynu yn galluogi'r bobl ifanc brofi gwersylla bywyd yn yr awyr agored a llawer o'r gweithgareddau 'da ni'n gysylltu hefo Sgowtio. 

"Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu eu helpu nhw yn eu prosiect."

Dywedodd Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn enghraifft wych sut gallwn ni droi arian o weithgarwch troseddol i ganlyniad cadarnhaol ar gyfer sefydliadau a chymdogaethau ar draws Gogledd Cymru. Gwnaeth Sgowtiaid Saltney Ferry nodi prosiect a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'w pobl ifanc. Mae'n wych gweld eu cynlluniau'n dwyn ffrwyth drwy help y gronfa."

Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd yn 2023. Dros y deng mlynedd diwethaf  mae dros £500,000 wedi cael ei roi i dros 150 o brosiectau sy'n gweithio er mwyn lleihau troseddau yn eu hardaloedd a helpu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Police and Crime Plan.

Er mwyn dysgu mwy am PACT, ewch ar www.pactnorthwales.co.uk ac er mwyn dysgu mwy am waith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ewch ar www.northwales-pcc.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am Sgowtiaid Saltney Ferry, ewch ar: www.flintshirescouts.org.uk/saltney-ferry