Skip to main content

Stopiwch anfon ein carcharorion i Loegr, medd pennaeth yr heddlu

Dyddiad

Stopiwch anfon ein carcharorion i Loegr, medd pennaeth yr heddlu

Mae pennaeth heddlu wedi beirniadu nifer y carcharorion o ogledd Cymru sy'n cael eu hanfon ar draws y ffin i garchar yn Lloegr pan fod yma garchar ar garreg y drws yng ngogledd Cymru.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn dweud ei bod yn syfrdanol bod Carchar Altcourse yn Lerpwl yn gartref i ddwywaith gymaint o garcharorion o ogledd Cymru na'r carchar mwyaf yn y DU, sef Carchar EM Berwyn yn Wrecsam.

Roedd Mr Jones yn siarad yn dilyn cyhoeddi astudiaeth newydd sy’n dangos bod 37 y cant o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn 104 o wahanol garchardai ledled Lloegr.

Cafodd pob un o'r 261 o garcharorion benywaidd yng Nghymru eu carcharu yng ngharchardai Lloegr oherwydd nad oes carchar i ferched yma.

Cafodd y data ei gasglu gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth.

Daw'r newyddion ar adeg pan fo gwasanaeth carchardai'r DU yn wynebu cyfnod cythryblus.

Mae’r llywodraeth wedi gorfod camu i mewn a chymryd y gwaith o redeg Carchar Birmingham oddi wrth gwmni preifat G4S, ar ôl i'r arolygwyr ddweud ei fod wedi disgyn i "sefyllfa o argyfwng".

Dywedodd Prif Arolygydd Carchardai EM, Peter Clarke, mai dyma oedd y carchar gwaethaf yr oedd erioed wedi ei weld.

Canfu’r arolygwyr ddafnau gwaed, chwd a baw llygod mawr ar y llawr, staff yn cysgu, a chwilod mawr ac arogl cyffuriau ymhobman.

Dywedodd Mr Jones: "Mae'n amlwg bod llawer gormod o garcharorion o Gymru yn treulio eu hamser mewn carchardai yn Lloegr, ymhell i ffwrdd o'u cartrefi.

Mae'n anochel y bydd rhai carcharorion o ogledd Cymru yn mynd i Loegr gan nad oes carchar i ferched yng Nghymru. Nid oes carchar categori A yma ychwaith.

Ond lle bynnag y bo hynny'n bosib, dylai'r bobl hyn gael eu cadw rywle yn agosach at eu teuluoedd.

Mae yna 250 o garcharorion o ogledd Cymru yng Ngharchar EM Berwyn ond mae dwywaith cymaint a hynny yn dal i fynd i Altcourse yn Lerpwl.

Cyn i’r cynlluniau ar gyfer Carchar Berwyn gael sêl bendith, roeddem yn galw am garchar i ddal tua 700, sef nifer y carcharorion o ogledd Cymru sydd yn y carchar ar unrhyw adeg, ac roeddem am weld lleoli’r carchar yng nghanol gogledd Cymru ac nid ger y ffin yn Wrecsam.

Gwerthwyd Carchar EM Berwyn fel rhywbeth a fyddai o fudd economaidd i'r ardal yn unig, ac nid fel budd i'r bobl a fyddai'n treulio eu hamser yma.

 Bwriad y carchar hwn yw gweithredu mewn ffordd newydd gydag adsefydlu yn cael lle blaenllaw, ond dydw i ddim yn siŵr a yw pethau'n mynd fel y bwriadwyd.

Hoffwn weld mwy o garcharorion o ogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn mynd i Altcourse, yn cael eu hanfon i Garchar Berwyn yn lle hynny.

 O safbwynt y merched sy'n cael eu carcharu, nid wyf yn credu mai carchar yw'r lle gorau i'r mwyafrif helaeth ohonynt."Mae canran fawr o'r merched sy'n cael eu cloi i fyny yn cael eu carcharu am droseddau eithaf bach am gyfnodau byr iawn.

Mae hynny'n cael effaith negyddol iawn ar eu teuluoedd ac mae'n drychinebus i'w plant.

Byddai'n llawer gwell i bawb bod troseddwyr sy’n ferched yn cael cynnig adsefydlu yn y gymuned yn hytrach na chael eu hanfon i'r carchar."