Skip to main content

Stori Olivia yn y Senedd

Dyddiad

Senedd1
(Chwith i'r Dde) Richard Debicki (Dirprwy Brif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru) Pat Astbury; Stephen Hughes (Prif Weithredwr, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd), Andy Dunbobbin (Comisiynydd Heddlu a Throsedd) Jo Alkir; Wayne Jones (Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd)

Ar ddydd Mawrth 28 Chwefror, rhannwyd stori Olivia Alkir, geneth ifanc o Ruthun, gyda deddfwyr, ymgyrchwyr diogelwch ffyrdd, y gwasanaethau brys a chynrychiolwyr o'r diwydiant yswiriant yn y Senedd gyda'r nod o wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bobl ifanc yng Nghymru.  Mae Stori Olivia yn ffilm sy'n dweud am y digwyddiadau trasig ynghylch marwolaeth Olivia, 17, o Ruthun, a laddwyd ym mis Mehefin 2019 yn dilyn gwrthdrawiad a achoswyd gan ddau yrrwr ifanc yn rasio.  Mae'r ffilm, sy'n cynnwys ei theulu, ffrindiau ac athrawon, wedi cael ei defnyddio mewn ysgolion er mwyn annog diogelwch ffyrdd a rhybuddio pobl ifanc am beryglon gyrru gwael.  

Roedd y digwyddiad yn Nhŷ Hywel ar stad y Senedd ym Mae Caerdydd. Cafodd ei drefnu gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, ac fe'i noddwyd gan Carolyn Thomas AS (Aelod o'r Senedd) rhanbarth Gogledd Cymru. Roedd Jo Alkir, mam Olivia, a Pat Astbury, Dirprwy Gadeirydd y Panel Heddlu a Throsedd ac un o drigolion Rhuthun yn bresennol hefyd er mwyn cefnogi'r ymgyrch a siarad gyda'r rhai oedd yno. Yn dilyn cyflwyniad a chroeso i Aelodau o'r Senedd, gan Jack Sargeant, AS dros Alyn a Glannau Dyfrdwy, dangoswyd y ffilm i westeion yn cynnwys y gwasanaethau brys, yr Association of British Insurers, a Janet Finch-Saunders AS, Llyr Grufydd AS a Darren Millar AS. Dilynwyd hyn gan drafodaeth ar sut all llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a diwydiant weithio gyda'i gilydd er mwyn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bobl ifanc. Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn galw heibio gyffredinol i swyddogion a staff y Senedd er mwyn iddynt ddysgu mwy am yr ymgyrch. 

Roedd y dangosiad arbennig o'r ffilm yn gyfle i rannu'r neges tu ôl i'r ffilm a'i thema allweddol sef diogelwch ar y ffyrdd. Mae Jo Alkir yn ymgyrchu i flwch du gael ei osod yng ngheir pobl ifanc. Mae hyn er mwyn monitro gyrru a cheisio atal trasiedïau pellach fel un Olivia.

Blwch du ydy teclyn tracio GPS wedi'i osod yng nghar gyrrwr a all fonitro eu sgiliau gyrru, fel pa mor gyflym maent yn gyrru, y milltiroedd a yrrir, y seibiannau a gymerir ar daith, a sut maent yn brecio a rheoli eu car. Gall y wybodaeth a gesglir drwy'r blwch du gael ei defnyddio gan yswiriwr er mwyn darparu polisi yswiriant telemateg. O'r wybodaeth hon, gall yr yswiriwr roi sgôr i'r gyrrwr am eu gyrru.  Gall hyn wedyn effeithio faint maent yn ei dalu am eu polisi yswiriant car. Mae teclyn o'r fath yn ddelfrydol yn annog gyrwyr i yrru'n fwy diogel. Gall hefyd ostwng yr hyn maent yn ei dalu am eu hyswiriant a chynorthwyo cadw ein pobl ifanc yn ddiogel ar y ffordd. 

Llywodraeth y DU sydd â'r grym i wneud blychau du'n orfodol. Ond roedd y digwyddiad yn y Senedd yn ffordd o rannu'r neges drwy Gymru a chreu momentwm am newid. 

Hanes y ffilm a'i heffaith mewn ysgolion

Gan weithio gyda rhieni, teulu a ffrindiau Olivia, dangoswyd y ffilm a gwersi ategol. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ddiwedd mis Mawrth 2022. ⁠Ers y lansiad, mae'r gwersi'n cael eu cyflwyno ym mhob ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru. Mae'r ffilm ar gael yn genedlaethol drwy SchoolBeat. Mae Stori Olivia hefyd wedi derbyn sylw cenedlaethol, gyda nifer o gyfryngau newyddion yn adrodd hanes y ffilm a'i neges bwysig. Mae hyn yn cynnwys The One Show ar y BBC. 

Y gynulleidfa darged o'r dechrau ydy rhai 14-20 oed a oedd mewn ysgolion a cholegau.  Y gobaith i'r dyfodol ydy y bydd yn cael ei chyflwyno mewn Clybiau Ieuenctid, Ffermwyr Ifanc, Cadetiaid Heddlu ac unrhyw amgylchfyd arall sy'n dal pobl ifanc o fewn y grŵp oedran targed, fel eu bod yn deall y neges o gadw'n ddiogel ar y ffordd.

Dywedodd Jo Alkir: “Roedd yn golygu llawer mynd â Stori Olivia i’r Senedd a rhannu stori fy annwyl ferch gyda ffigyrau o wleidyddiaeth, sefydliadau diogelwch ffyrdd a diwydiant. Rwyf yn falch gyda sut aeth y digwyddiad a’r sylwadau cadarnhaol a chefnogol gan y rhai hynny a ddaeth.

“Rwyf yn benderfynol o weld newid yn digwydd a chael blwch du wedi’i osod yng ngheir pob un gyrrwr newydd, fel nad ydy’r hyn ddigwyddodd i Olivia yn digwydd i unrhyw un arall. Hoffwn hefyd weld Stori Olivia yn cael ei dangos i fyfyrwyr ledled y DU. Buaswn yn annog unrhyw un sydd eisiau gweld ein plant yn fwy diogel ar y ffyrdd i ymuno â’n hymgyrch.”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae diogelwch ffyrdd yn fater hynod bwysig i'n pobl ifanc ni. Roedd yn fraint ymuno â Jo Alkir yn y Senedd er mwyn rhannu Stori Olivia a galw ar Lywodraeth Cymru i ymuno â'n hymgyrch am osod blychau du yng ngheir gyrwyr amhrofiadol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos eu hymroddiad i ddiogelwch ar y ffyrdd drwy fesurau fel y rheol terfyn cyflymder 20mya sydd ar ddod. Tra mai Llywodraeth y DU sydd â'r grym i wneud blychau du'n orfodol, mae'n hynod bwysig ein bod yn cael y sgyrsiau hyn yng Nghymru a chyda Llywodraeth Cymru. Mae angen i ni greu ymchwydd o gefnogaeth yn lleol er mwyn cyflwyno newid cenedlaethol."

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki, Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hon yn ffilm rymus sydd wirioneddol yn torri calon. Ni allwch gael eich cyffwrdd ganddi.

Yn anffodus, mae gyrwyr ifanc yn llawer mwy tebygol o fod ynghlwm a gwrthdrawiadau traffig ffordd, yn aml oherwydd diffyg profiad a gwybodaeth am y risgiau. Nodi Stori Olivia ydy cynorthwyo addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd cadw'n ddiogel ar y ffordd. Gyrwyr newydd neu rhai sy'n paratoi ar gyfer eu prawf gyrru ydy'r gynulleidfa darged. Y nod ydy eu cynorthwyo nhw fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau ac o'r canlyniadau dinistriol a all ddigwydd.

"Roedd y gwrthdrawiad hwn yn gwbl ddinistriol i deulu a ffrindiau Olivia. Teimlwyd yr amgylchiadau trasig ynghylch y gwrthdrawiad a'r ffaith fod Olivia wedi colli ei bywyd y prynhawn hwnnw yng nghymuned Rhuthun drwyddi draw.

"Ni fuasai Stori Olivia wedi gallu cael ei wneud heb gefnogaeth ei rhieni sydd wedi dangos dewrder aruthrol wrth ganiatáu i ni ddweud ei stori mewn ffordd mor rymus. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt. Mae'r adborth ledled Cymru wedi bod yn aruthrol ac mae digwyddiad heddiw yn y Senedd yn rhoi cyfle i ni gyd godi ymwybyddiaeth genedlaethol ymhellach am y ffilm.”

Ceir mwy o wybodaeth ar: Olivia Alkir – In Olivia's memory (olivia-alkir.co.uk)