Skip to main content

Strategaeth newydd yn anelu cyflawni newid sylweddol i ferched yn y system cyfiawnder yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

SCM front cover 20.09.22

Mae strategaeth newydd, a lansiwyd heddiw, yn anelu i gynorthwyo gydag ymdrin ag achosion troseddu ymhlith merched yng Ngogledd Cymru a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau merched, lleihau eu cysylltiad gyda’r system cyfiawnder troseddol, a thorri trosedd.

Gan ychwanegu at sylfeini Glasbrint Cyfiawnder Merched Cymru a gwaith sefydliadau a phartneriaid presennol ledled y rhanbarth, mae Strategaeth Cyfiawnder Merched Gogledd Cymru wedi’i lunio gan Grŵp Cyflawni Merched mewn Cyfiawnder Gogledd Cymru. Mae hyn yn unol ag addewid Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i gyflawni gwell cymorth a chanlyniadau i ferched yn eu profiad o’r system cyfiawnder troseddol. Y strategaeth ydy’r cyntaf o’i bath ar lefel leol yng Nghymru.   

Mae profiad merched o’r system cyfiawnder yn wahanol i brofiad dynion, gyda chyfraddau aildroseddu uwch. Er enghraifft, mae 71% o ferched yn aildroseddu yn dilyn dedfrydau o garchar o lai na 12 mis, o’i gymharu â 63% o ddynion. Mae cost y troseddu hyn ac aildroseddu yn fawr hefyd. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Thrysorlys EM yn amcangyfrif fod troseddwyr benywaidd yn costio £1.7 biliwn i Lywodraeth y DU, gan gynnwys £1 biliwn mewn costau heddlu. Roedd cost flynyddol gyfartalog lle merch mewn carchar yn 2019-2020 yn £52,000.[1] Mae torri’r cylch troseddu hwn a lleihau’r effeithiau mae’n ei gael ar y merched o dan sylw, eu teuluoedd a’r trethdalwr, yn rheswm pwysig tu ôl i ymdriniaeth y strategaeth.

Gan adlewyrchu ar Lasbrint Cyfiawnder Merched Cymru, y prif flaenoriaethau cyflawni ydy:

Ymyrraeth Gynnar ac Atal

  • Gweithio gyda phartneriaid lleol er mwyn ymdrin ag achosion gwreiddiol trosedd.
  • Cyfeirio merched, lle bo’n briodol, i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol ac at wasanaethau merched, cymunedol a chynaliadwy sy’n bodloni eu hanghenion.
  • Edrych ar opsiynau am wasanaethau trawma sy’n gallu bodloni anghenion merched fregus orau, a theuluoedd a effeithir gan Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs).

Llysoedd a Dedfrydu

  • Creu hyder mewn dewisiadau amgen i ddalfa tymor byr a remand.

Dedfrydau Cymunedol

  • Cynorthwyo merched, gan gynnwys y rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu, i ymgysylltu gyda gwasanaethau yn y gymuned.

Dalfa ac Ailgartrefu

  • Cynorthwyo merched yn y ddalfa ac ailgartrefu yn y gymuned.

Systemau a Llywodraethu

  • Sicrhau bod systemau mewn lle er mwyn galluogi cyflawni’r agenda merched yng Ngogledd Cymru yn effeithiol.

Ymchwil a Gwerthuso

  • Datblygu tystiolaeth Cymru ymhellach o ran yr hyn sy’n gweithio i ferched a deall anghenion a bregusrwydd merched yn well.

Nod cyffredinol strategaeth newydd Gogledd Cymru ydy “cynorthwyo merched fyw bywydau’n rhydd o drosedd, cadarnhaol ac iach, gwella llesiant a gwneud cymunedau’n fwy diogel”. Bydd y cyfeiriad newydd yn ategu at waith Glasbrint ar y Cyd Cyfiawnder Merched y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru (2019). Mae hwn yn anelu newid gwasanaethau i ferched yn y system cyfiawnder troseddol drwy ymdriniaeth Cymru gyfan. Mae hyn er mwyn cynorthwyo diogelu merched a chymunedau a’u cadw’n rhydd rhag trosedd.

O fewn cyd-destun Gogledd Cymru, mae enghreifftiau o sut y bodlonir y blaenoriaethau hyn yn cynnwys:

  • Gweithio gyda llysoedd a dedfrydwyr yng Ngogledd Cymru i greu dealltwriaeth o wasanaethau cymunedol sydd ar gael i ferched yn y rhanbarth er mwyn ymdrin ag anghenion troseddu ymysg merched a chreu hyder mewn dewisiadau amgen i’r ddalfa.
  • Symud cyfleoedd ymlaen er mwyn cryfhau’r defnydd o driniaethau dedfryd gymunedol i ferched yng Ngogledd Cymru.
  • Ystyried y ddarpariaeth bresennol i ferched yn y carchar o Ogledd Cymru wedi’i anelu at gryfhau a chynnal cysylltiadau gyda phlant a theuluoedd.
  • Gweithio gyda’r tîm Glasbrint er mwyn datblygu cynllun cyfranogiad cadarn er mwyn sicrhau cynrychiolaeth o leisiau merched o Ogledd Cymru.

Gellir mynd at Strategaeth Cyfiawnder Merched Gogledd Cymru yn llawn ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yma.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae cyflawni cyfiawnder i ferched Gogledd Cymru yn hynod bwysig i mi. Pan gefais fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, fe wnes amlinellu gweledigaeth glir am Ogledd Cymru mwy diogel. Rwyf yn gweithio’n galed i gyflawni ar ran ein cymunedau bob dydd.

“Un o’m blaenoriaethau ydy cyflawni system cyfiawnder troseddol teg ac effeithiol. Mae Strategaeth Cyfiawnder Merched yn gynnyrch yr hyn rwyf yn bwriadu ei gyflawni. Mae’r strategaeth yn ceisio ychwanegu at y gwaith gwych sydd wedi’i wneud hyd yma yn yr ardal hon. Mae’n ceisio chwyldroi datblygiad gwasanaethau i ferched yn y system cyfiawnder troseddol a chynorthwyo diogelu merched a chymunedau a’u cadw’n rhydd o drosedd. Rwyf yn falch mai Gogledd Cymru ydy’r ardal gyntaf yng Nghymru i ddatblygu’r math hon o strategaeth. Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid a wnaeth hyn yn bosibl. Mae bellach yn amser rhoi’r strategaeth ar waith a chyflawni newid gwirioneddol i ferched Gogledd Cymru.”

Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Roedd datblygu Strategaeth Cyfiawnder Merched Gogledd Cymru yn uchelgais a amlinellwyd o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Mae’r strategaeth hon ar gyfer Gogledd Cymru yn anelu cyflymu cyflawni gwasanaeth fel y gallwn greu newidiadau hirhoedlog a chynaliadwy i’r ystod bresennol o wasanaethau Cyfiawnder Merched ac ymdrin ag anghenion lleol yn y rhanbarth. Drwy ganolbwyntio ar y prif flaenoriaethau, rydym eisiau datrysiadau cydweithredol a wnaiff ganiatáu gwell canlyniadau a chyfiawnder i bawb ledled Gogledd Cymru.

“Mae cyfeirio o droseddoldeb a’r cyfle i ailgartrefu wrth galon y strategaeth. Rydym wedi gweithio’n agos gyda thîm Glasbrint Merched mewn Cyfiawnder ar ei ddatblygu, a dyma ddechrau ymdriniaeth fwy eglur gyda’n rhwydweithiau Cyfiawnder Troseddol yng Ngogledd Cymru.”

Dywedodd Helen Corcoran, Prif Uwcharolygydd dros dro, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Strategaeth Cyfiawnder Merched Gogledd Cymru yn gyfle gwych i ychwanegu at waith y Glasbrint Cyfiawnder Merched sy’n lleol yma yng Ngogledd Cymru. Bydd yn galluogi partneriaid a chymunedau i weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella gwasanaethau i ferched a chynorthwyo i’w hatal rhag mynd i’r system cyfiawnder troseddol.”

Dywedodd Emma Wools, Uwch Swyddog Cyfrifol Glasbrint Cyfiawnder Merched Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru: “Mae Glasbrint Cyfiawnder Merched wedi gwneud cynnydd gwych dros y tair blynedd diwethaf wrth wella canlyniadau a phrofiadau merched sydd mewn perygl o fynd i’r system cyfiawnder yng Nghymru. Rwyf yn falch o weld Gogledd Cymru’n cyflawni’r weledigaeth hon o fewn y cyd-destun lleol. Bydd y strategaeth newydd yn rhoi cyfle i gyflawni gwasanaethau mewn ffordd sy’n ymatebol i anghenion y boblogaeth leol. Mae’n wych gweld cymaint o bartneriaid yn ymuno.

“Mae tîm Glasbrint Cyfiawnder Merched yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd a’n partneriaid yng Ngogledd Cymru. Mae hyn er mwyn cyflawni ar y maes gwaith pwysig hwn a gweld y canlyniadau cadarnhaol, a ellir eu rhannu gyda rhanbarthau eraill yng Nghymru.”

Bydd Grŵp Cyflawni Merched mewn Cyfiawnder Gogledd Cymru yn goruchwylio gweithredu a chyflawni amcanion y strategaeth. Mae’r grŵp yn cynnwys wyth cynrychiolydd o ledled gwasanaethau plismona a chyfiawnder troseddol, gwasanaethau prawf a gofal iechyd. Mae’n cynnwys y Dirprwy CHTh Wayne Jones a’r Prif Uwcharolygydd dros dro Helen Corcoran.

Bydd y Grŵp Cyflawni yn goruchwylio, cyfeirio a chynorthwyo partneriaid lleol a bydd yn cyfarfod yn chwarterol er mwyn monitro a gwerthuso cynnydd tuag at amcanion y strategaeth. Anogir cynrychiolwyr y Grŵp Cyflawni er mwyn diweddaru ac adrodd ar eu cynnydd a rhwystrau at gyflawni llwyddiant. Bydd y Grŵp Cyflawni yn adrodd ar gynnydd i Fwrdd Cyfiawnder Gogledd Cymru. Fe gaiff ei gynrychioli ar Fwrdd Merched mewn Cyfiawnder Cymru Gyfan, sef y prif grŵp ymgynghorol o ran materion perthnasol i ferched yn y gwasanaeth cyfiawnder troseddol yng Nghymru.


[1] Data o ganlyniadau gwella NAO i ferched yn y system cyfiawnder troseddol mis Ionawr 2022