Skip to main content

Sylw Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Dyddiad

Yn dilyn cyhoeddi y newyddion trist am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin wedi gwneud y datganiad canlynol.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae'n dristwch mawr gen i glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Fel cenedl, rydym wedi colli arweinydd sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn ddyfal ac ufudd dros 70 mlynedd.

"Mae fy meddyliau ar y funud hon gydag aelodau eraill y Teulu Brenhinol wrth iddynt alaru am fam, nain a hen-nain oedd yn cael ei charu ganddynt i gyd. Fel y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rwyf yn gwybod y bydd pobl ar draws Gogledd Cymru wedi eu tristau gan y newyddion heddiw a bod swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu'r galar hwn. Dros y dyddiau nesaf, bydd yr Heddlu yn cymryd rhan mewn seremonïau neu ddigwyddiadau i nodi marwolaeth y Frenhines, ac rwyf yn gwybod y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau - fel y mae bob amser - mewn modd ymroddgar gyda chydymdeimlad, yn adlewyrchu ac yn talu teyrnged i'r Frenhines anhygoel yr ydym wedi ei cholli."