Skip to main content

Taflu goleuni ar ddiogelwch seiber mewn digwyddiad busnes nodedig

Dyddiad

Cyber Security North Wales

Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf o'i fath am ddim i berchnogion busnes yng Ngogledd Cymru ar sut i gadw eu busnesau'n ddiogel rhag troseddau seiber ym Mhrifysgol Wrecsam ar 14 Mehefin.  Enw'r digwyddiad a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru oedd Diogelwch Seiber Gogledd Cymru. Roedd yn llwyddiant ysgubol a gwnaeth ddod â thros 100 o berchnogion busnes, personél y gwasanaethau brys a phartneriaid o'r llywodraeth a'r trydydd sector ledled y rhanbarth at ei gilydd ar gyfer y gynhadledd undydd. 

Mae troseddau seiber yn drosedd sy'n cynnwys neu'n targedu cyfrifiadur, rhwydwaith cyfrifiadurol neu declyn rhwydweithiol. Mae'r math hwn o drosedd yn cael ei chyflawni'n bennaf gan droseddwyr seiber neu hacwyr er elw ariannol. Felly, mae diogelwch seiber, neu gadw'n ddiogel rhag troseddau seiber, yn bryder cynyddol i bawb, gan gynnwys busnesau. Roedd Diogelwch Seiber Gogledd Cymru felly yn cynnwys lleisiau a sefydliadau allweddol yn trafod camau syml y gall pob busnes eu cymryd er mwyn gwarchod eu hunain ar-lein. 

Dechreuodd y diwrnod gyda gair o groeso a chyflwyniad gan DC Roheryn Evans, Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru; Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru; a'r Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Dilynwyd hyn gan dîm busnesau bach y Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol (NCSC), a rannodd adnoddau am ddim sydd ar gael er mwyn gwarchod busnesau bach rhag bygythiadau seiber. Yr NCSC ydy sefydliad canolog y DU sy'n darparu cyngor diogelwch seiber i'r llywodraeth, busnesau a'r cyhoedd.  

Gwnaeth Canolfan Seibergadernid Cymru ddiweddaru cynrychiolwyr am y cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth i fusnesau warchod eu hunain rhag troseddau seiber. Gwnaeth busnes o Ogledd Cymru wedyn rannu ei stori go iawn am ddioddef trosedd seiber a'r effaith gall ei gael ar y busnes, gweithwyr ac iechyd meddwl pawb. Gwnaeth Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol y Gogledd Orllewin roi cyflwyniad ar negeseuon e-bost rhwydo. Yna, fe wnaeth Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru fynegi ei meddyliau ar droseddau seiber a phenderfyniad yr Heddlu i drechu troseddwyr seiber. 

Rhannodd Police CyberAlarm eu hofferyn am ddim arobryn, sy'n cael ei ddarparu gan heddluoedd lleol a'i ariannu gan y Swyddfa Gartref. Mae'n cynorthwyo busnesau neu sefydliad fonitro a hysbysu am y gweithgarwch seiber amheus maent yn eu hwynebu. Rhoddodd Leanne Davies, Uwch Ddarlithydd mewn Diogelwch Seiber a Chyfrifiadura o Brifysgol Wrecsam, gyflwyniad ar sut mae'r brifysgol yn cynorthwyo datblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr cyfrifiadura proffesiynol er mwyn cynorthwyo cadw Gogledd Cymru'n ddiogel o ran seiber.

Ynghyd â phrif siaradwyr, roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosfa a gweithdai rhyngweithiol yn y prynhawn er mwyn galluogi cynrychiolwyr gadw eu gweithrediadau busnes yn ddiogel rhag troseddau seiber. Roedd y gweithdai'n cynnwys sesiynau ar ddeall y bygythiad mae meddalwedd wystlo'n ei beri i sefydliad; darganfod 'Exercise in a Box' – offeryn ar-lein am ddim a ddatblygwyd gan y Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol er mwyn cynorthwyo sefydliadau brofi ac ymarfer eu hymateb i ymosodiad seiber; ac Ystafell Ddianc Seiber gan dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru.  

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae trosedd ar waith wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd sgamiau ac ymosodiadau ar-lein yw bron i hanner yr holl droseddau. Mae realiti'r troseddau hyn yn golygu y gall pobl golli eu cynilon oes o fewn eiliadau. Gall busnesau golli eu bywoliaeth a hyder eu cwsmeriaid a'u cyflenwyr. 

"Dim ond yn ddiweddar, rydym wedi gweld sawl enw amlwg yn cael eu heffeithio gan ymosodiad meddalwedd wystlo'r offeryn MOVEit Transfer. Ond nid bygythiad i gwmnïau mawr a rhyngwladol ydy troseddau seiber yn unig. Mae'n broblem i fentrau bach a chanolig yng Ngogledd Cymru hefyd. Mae'r rhain yn fusnesau na all fforddio cost a phoen ymosodiad seiber. Maent wedi bod drwy gymaint yn ddiweddar, gyda'r pandemig, yr argyfwng prisiau ynni a chost pwysau byw. Fel y cyfryw, mae troseddau seiber yn broblem bellach a all fod yr hoelen olaf yn arch sawl busnes.  

“Dyna bwysigrwydd digwyddiadau fel Diogelwch Seiber Gogledd Cymru. Mae perchnogion busnes yn gwybod mai eu buddiannau nhw sy'n bwysig i'r heddlu a minnau. Mae'n bwysig fod ganddynt yr offer a'r wybodaeth er mwyn parhau gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau – tyfu eu busnesau a gyrru injan yr economi rydym yn dibynnu arni."

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn falch o gynnal y digwyddiad Busnes Diogelwch Seiber rhanbarthol heddiw. Mae’r byd seiber yn dod â llawer o fanteision i ni ond mae hefyd risgiau difrifol i’w rheoli. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner er mwyn rhannu arfer da a chynorthwyo i’n cadw ni’n ddiogel. Fel prifysgol, rydym yn buddsoddi ym maes Diogelwch Seiber fel rhan allweddol o’r cwricwlwm Cyfrifiadura. Mae hyn fel bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer y gweithle.”

Er mwyn dysgu mwy am beryglon troseddau seiber a sut i'w hatal, ewch i'r adran berthnasol ar wefan Heddlu Gogledd Cymru: www.northwales.police.uk/advice/advice-and-information/fa/fraud/online-fraud/cyber-crime-fraud/