Skip to main content

Tîm teledu cylch cyfyng yn helpu i ddal lleidr

Dyddiad

Barmouth CCTV - PCC, Dana

Mae rhwydwaith o gamerâu teledu cylch cyfyng sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr lleol wedi cael ei llwyddiant mwyaf ar ôl dal lleidr wnaeth ddwyn nwyddau gwerth £38,000 o fusnes yn y Bermo.

Dim ond un o’r llwyddiannau sydd wedi troi’r dref wyliau yn un o’r trefi gyda’r nifer lleiaf o achosion o dor-cyfraith yng ngogledd Cymru.

Mae’r 48 ‘llygaid yn yr awyr’, sy’n cael eu rhedeg gan Gwarchod Bermo Watch wedi gweld twf o 70% yn y gyfradd canfod troseddau ac maent wedi ennill grant o £2,500 oddi wrth Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.

Ymwelodd y Comisynydd â’r dref yn ystod y tymor gwyliau i weld pa mor dda y mae’r cynllun yn cael ei weithredu ac i siarad gyda’r gwirfoddolwyr sy’n ei redeg a’r swyddogion heddlu lleol, sydd wedi cael budd mawr o’r system teledu cylch cyfyng.

O ganlyniad i'r llwyddiant diweddar, cafodd lleidr a wnaeth ddwyn £38,000 o fusnes yn y Bermo ei ddal ar gamera yn ceisio dianc, llwyddwyd i’w adnabod a'i gymryd i'r llys lle cafodd ddedfryd o garchar.

Dywedodd sefydlwr Gwarchod Bermo Watch Deana Davies Fisher, o Dalybont: “Mi wnaethon ni weld y lleidr ar gamera yn gwneud sawl taith i fyny ac i lawr y lôn fach yn cario bagiau a’u rhoi nhw yn ei gar.

Oherwydd hynny roeddem wedi gallu ei adnabod, ac mi wnaeth yr heddlu ddod ag o gerbron ei well a chafodd ei anfon i’r carchar.”

Yn gynharach eleni roedd Gwarchod Bermo Watch yn un o enillwyr Gwynedd ym mhleidlais gwobrau Eich Cymuned Eich Dewis sy’n cael eu trefnu gan y Comisiynydd Heddlu.

Dywedodd Arfon Jones, a arferai fod yn arolygydd heddlu ac sy’n hanu o Harlech: “Rwyf wedi cael argraff dda o’r hyn sy’n cael ei wneud yma yn y Bermo a’r effaith y mae’r cynllun yn ei gael i wneud yr ardal yn fwy diogel.

Roedd yr arian yma’n esiampl o arian yn cael ei wario’n dda gan ei fod yn enghraifft o gymuned yn helpu ei hun yn hytrach na dibynnu ar yr awdurdodau i wneud popeth drosti.

Hoffwn ddiolch i Deana a’r gwirfoddolwyr eraill am eu gwaith diffwdan i wneud y Bermo yn lle diogel i bobl leol ac ymwelwyr.

Mae'n anfon neges gref i droseddwyr, os byddan nhw’n cyflawni trosedd yn y Bermo, yna mae siawns dda iawn y byddan nhw’n cael eu dal ac mae'n rhoi tawelwch meddwl i bobl ac yn lleihau eu hofn o droseddu.

Dylem annog trefi eraill i ddilyn eu hesiampl oherwydd mae’n arf ataliol enfawr gan fod y rhan fwyaf o droseddau yn cael eu cyflawni am fod y cyfle yno ac mae hwn yn esiampl o sut i leihau’r cyfleodd yna.”

Dywedodd Deana, sy’n rhedeg busnes trin gwallt a thyllu’r corff yn y dref: “Mi wnaethon ni gychwyn y cynllun yn 2005 ac rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan gyngor y dref sy’n chwarae rhan enfawr wrth ariannu’r cynllun.

Mae’r camerâu wedi bod yn effeithiol iawn oherwydd roedd llawer o drwbl yn hwyr yn y nos ond unwaith i bobl ddod yn ymwybodol o’r camerâu cafwyd llai o droseddau, a dim ond un ffordd mewn ac allan sydd i gerbydau felly mae’r camerâu yn gallu monitro’r rhain.

Erbyn hyn mae gennym 48 o gamerâu yn y dref ac mae nifer ohonynt yn gamerâu diffiniad uchel felly mae ansawdd y lluniau yn dda iawn.

Fel arfer, rydym yn clywed oddi wrth ddioddefwyr trosedd ac rydym ni’n eu rhoi mewn cyswllt efo’r heddlu ac unwaith mae gandddon ni ffrâm amser ar gyfer y digwyddiad gallwn wirio’r camerâu, ac er ei bod yn golygu eitha tipyn o waith mae’n llwyddiannus iawn.

Gan fod y system yn ddrud iawn i’w gynnal a chadw, mae’n her barhaus i ni ddod o hyd i’r arian i’w gyllido, felly roedd arian Eich Cymuned Eich Dewis yn hwb mawr i ni.”

Dywedodd y Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu Sian Davies: “Mae’n gwneud ein swydd ni’n haws ac mae’n atal troseddwyr.

Byddem ar goll hebddynt bellach oherwydd rydym yn medru eu defnyddio i ddelio efo popeth o ddamweiniau ar y ffyrdd i ladrata, troseddau ceir ac ymosodiadau a gallwn ddilyn pobl drwy’r dref.

Fel arfer mae’r gyfradd troseddu yn codi yn yr haf yn y Bermo ac mae yna fwy o bobl nad ydym yn eu hadnabod yn y dref ond eleni rydym wedi cael haf da iawn o ran twristiaeth ac rydym hefyd wedi gweld llai o droseddu.”

Roedd y grant i Gwarchod Bermo Watch yn un o’r 14 grant gwerth £40,00 sy’n cael eu dosbarthu gan y Comisiynydd fel rhan o fenter Eich Cymuned, Eich Dewis  sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) sy’n dathlu ei 20fed ben-blwydd yn 2018.

Mae llawer o’r arian sy’n cael ei ddosbarthu i achosion teilwng yn arian a gafodd ei adennill trwy’r Ddeddf Enillion Troseddu, sy’n defnyddio arian a gafodd ei atafaelu o droseddwyr gyda gweddill y cyllido yn dod o gronfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae’r cynllun wedi ei anelu at sefydliadau sy’n rhedeg prosiectau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymladd trosedd ac anrhefn yn unol â blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.

Dywedodd Arfon Jones: “Rwy’n falch iawn bod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y chweched flynedd yn olynol.

Mae cael cymdogaethau diogel yn un o brif flaenoriaethau fy nghynllun Heddlu a Throsedd ac rwy’n falch iawn o’r ffordd mae Gwarchod Bermo Watch wedi datblygu prosiect gwych sy’n cefnogi’r cynllun yma.”