Skip to main content

Timau a chlybiau chwaraeon ledled Gogledd Cymru ar eu marciau ar gyfer yr haf, efo buddsoddiad gan y CHTh

Dyddiad

Dyddiad

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi datgelu’r rhestr terfynol o ymgeiswyr llwyddiannus o’i Gronfa Chwaraeon yr Haf, sy’n cynnwys 26 sefydliad o bob un o chwe sir Gogledd Cymru.

Mi gafodd y gronfa ei lansio yn wreiddiol yn gynnar ym mis Mehefin, efo’r nod o annog clybiau a sefydliadau ieuenctid ymgeisio am rodd er mwyn talu am weithgareddau chwaraeon drwy gydol y gwyliau haf. Mae’r Comisiynydd wedi dyrannu £25,000 ar gyfer cynorthwyo’r prosiectau, efo’r canolbwynt o alluogi a datblygu plant a phobl ifanc, a  threchu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynyddu dros fisoedd yr haf, a nod y prosiect ydy diddori plant a phobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol, drwy hyrwyddo gwaith tîm, ymarfer corff ac amgylchfyd hwyliog a chynhwysol ar gyfer pawb.

Mae’r rhestr lawn o glybiau sydd wedi derbyn rhodd gan Gronfa Chwaraeon yr Haf, enw’r prosiect a lle maen nhw’n cymryd lle, fel a ganlyn:

Ynys Môn

  • Cymuned CELS, Bae Trearddur, Benllech, Bae Cemaes – Sesiynau Traeth yr Haf
  • Clwb Chwaraeon Rhosneigr – Gwersyll yr Haf
  • Grŵp Cymunedol Y Fali – Hwyl Cymunedol yr Haf

Conwy

  • Clwb Rygbi Nant Conwy, Dyffryn Conwy – Gwersyll Rygbi’r Haf
  • Tîm Pêl-droed o dan 7 Mochdre, Mochdre
  • 1Compass, Hen Golwyn – Little 1s, Big1s

Sir Ddinbych

  • Rygbi y Rhyl o dan 9 ac o dan 11 - Ysgol Rygbi’r Haf

Sir y Fflint

  • Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Glannau’r Dyfrdwy – Mynediad am ddim i gyfleusterau hamdden ar gyfer pobl ifanc Haf 2024
  • Cobra Life, Shotton a Bwcle – Rhaglen Crefft Ymladd yr Haf Cobra Life
  • Canolfan Ddŵr Cambria, Cei Connah – “Fun for All”
  • Hamdden a Llyfrgelloedd Aura,  Y Fflint – Prosiect Dysgu Nofio
  • Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy, Queensferry – Gwersyll Chwaraeon yr Haf
  • Clwb Pêl-Droed Tref Bwcle –  Pêl-droed cymunedol “Turn up and play”
  • Clwb Criced Bwcle – Yn ysbrydoli cricedwyr ifanc

Gwynedd

  • Cartrefi Adra, Caernarfon – Taith Gweithgareddau Diwedd yr Haf – Ysgol Maesincla
  • CPD Bangor 1876, Bangor – Gwersyll Hwyl Pêl-droed MaesG
  • CPD Pwllheli – Gwersylloedd Pêl-droed
  • Coached by Cara Netball, Bangor, Hyfforddiant Pêl Rhwyd / Chwaraeon Annibynnol
  • Partneriaeth Ogwen, Dyffryn Ogwen – Hwyl yr Haf Dyffryn Ogwen
  • Clwb Hoci Pwllheli, Pwllheli – Hoci’r Haf yng Nghlwb Hoci Pwllheli

Wrecsam

  • Maes Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro, Wrecsam
  • – Galluogi Ieuenctid drwy Futsal yr Haf, FC United Wrecsam
  • Clwb Rygbi Rhos, Wrecsam – Menter Estyn yr Haf
  • Palops United C.I.C., Wrecsam – Haf o hwyl a chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Canolfan Ceiriog, Glyn Ceiriog – Chwaraeon a Gweithgareddau Haf

Ledled Gogledd Cymru

  • Tai Wales & West – Chwarae  “dros dro”

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “‘Dwi wrth fy modd rhoi rhodd i glybiau a grwpiau ar draws ein rhanbarth. ‘Roeddwn yn falch iawn o’r ymateb i fy Nghronfa Chwaraeon yr Haf, ac wedi fy modloni efo’r ymroddiad sydd gan y clybiau hyn yn eu chwaraeon a’r ymgysylltiad cymunedol wnaethon nhw i gyd arddangos.

“Fel CHTh Gogledd Cymru, fy nghanolbwynt ydy helpu ein cymunedau ni, a darparu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc, wrth hefyd helpu lleihau’r posibilrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Llynedd, mi wnes i lansio Cronfa Pêl-Droed yr Haf, oedd yn canolbwyntio ar bêl-droed yn unig, ac ‘roedd yn llwyddiant mawr. Eleni, ‘roeddwn yn awyddus ymestyn y cynllun i ystod fwy eang o chwaraeon, er mwyn ei wneud mor gynhwysol â phosib ar gyfer pobl ifanc.

“Mae Cronfa Chwaraeon yr Haf eleni yn ffordd ardderchog o leihau’r posibilrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol, drwy roi llwyfan i glybiau a sefydliadau er mwyn cynnal gweithgareddau buddiol ar gyfer pobl ifanc, ac, o ganlyniad, yn meithrin amgylchfyd saff a chynhwysol ar gyfer pawb.

“Efo’r gwyliau haf yn cychwyn, a’r Gemau Olympaidd ym Mharis ar fin dechrau, ‘dwi’n edrych ymlaen at weld gweithgareddau cyffrous Cronfa Chwaraeon yr Haf ar y gweill dros yr haf, a  gweld yr hwyl a’r llawenydd o’u canlyniad nhw er lles bobl ifanc ar draws Gogledd Cymru.”