Skip to main content

Trigolion Glasfryn yn galw am ostwng y terfyn cyflymder ar ddarn allweddol o'r A5 yn sir Conwy

Dyddiad

Glasfryn

Ar ddydd Iau 5 Ionawr, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gyfarfod â'r Cynghorydd Gwennol Ellis, sy'n cynrychioli Ward Uwchaled ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, er mwyn trafod problemau diogelwch ffordd yng Nglasfryn ger Cerrigydrudion a'r ymgyrch gan drigolion er mwyn lleihau'r terfyn cyflymder ar yr A5 drwy'r pentref. Cerddodd y CHTh a'r Cynghorydd Ellis ar hyd y rhan o'r ffordd drwy'r pentref o Safle Bws yr Hen Bost i hen Ysgol Ty'n y Felin er mwyn deall y problemau gyda goryrru'n effeithio ar drigolion. 

Y terfyn cyflymder presennol ydy 60mya, ond mae trigolion eisiau gweld hwnnw'n gostwng i 30mya. Ar hyn o bryd mae camerâu terfyn cyflymder cyfartalog ar naill ben y pentref fel rhan o ymgyrch lleihau cyflymder yr 'Evo Triangle'. Ond nid ydy'r Cynghorydd Ellis nac ymgyrchwyr lleol yn credu fod hyn yn ddigonol er mwyn atal ceir rhag teithio drwy'r pentref ar gyflymder mawr. Maent yn pryderu hefyd y gall fod damwain ddifrifol neu angheuol. Mae'r ffordd hefyd yn lle mae plant lleol yn cael eu codi ar gyfer yr ysgol. Yn naturiol, mae hyn yn peri pryder ychwanegol ynghylch diogelwch i bobl sy'n byw yn yr ardal. 

Roedd yr ymweliad gan y CHTh yn dilyn cyfarfod blaenorol ar 25 Tachwedd llynedd lle gwnaeth y Cynghorydd Ellis amlygu'r problemau gyda goryrru yn y gymuned. Awgrymodd i'r CHTh ymweld er mwyn gweld y problemau diogelwch ffyrdd a brofir gan y gymuned leol o lygad y ffynnon. 

O wybod fod y darn o briffordd yn gefnffordd, nid oes gan yr awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, awdurdod i ddiwygio'r terfyn cyflymder. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hynny. Mae'r Cynghorydd Ellis wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan ofyn i'r ffordd gael ei hailasesu. Fodd bynnag, ymatebodd y Llywodraeth cyn y Nadolig gan ddweud eu bod yn credu fod y terfyn cyflymder presennol yn y pentref yn addas. Ar ran y trigolion, gwnaeth y Cynghorydd Ellis ailadrodd wrth y Comisiynydd eu penderfyniad i barhau gyda'u hymgyrch.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o dderbyn gwahoddiad y Cynghorydd Ellis i ymweld â Glasfryn er mwy gweld drosof fy hun y problemau mae trigolion lleol yn eu profi gyda cheir yn teithio drwy'r pentref, a chlywed mwy am eu hymgyrch i ostwng y terfyn cyflymder o 60mya i 30mya – ymgyrch rwyf yn ei chefnogi. 

"Fi ydy'r CHTh cyntaf i gynnwys gwella diogelwch ar y ffyrdd fel addewid unigol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Mae bob amser yn bwysig gwrando'n ofalus ar bryderon trigolion a deall eu profiad bywyd go iawn o sut mae goryrru yn effeithio arnyn nhw.  Mae hyn yn bwysicach fyth mewn ardaloedd gwledig, lle gall ffyrdd fod yn dawelach, yr heddlu yn bellach i ffwrdd, a lle gall defnyddwyr ffyrdd gael eu temtio i fynd yn gynt.  Buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i wrando eto ar bryderon trigolion Glasfryn ac edrych eto ar eu penderfyniad i beidio gostwng y terfyn cyflymder."

Dywedodd y Cynghorydd Gwennol Ellis, Uwchaled, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Pryder trigolion yw ei bod yn anochel y bydd damwain ar y darn hwn o'r A5.  Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud os bydd rhywun yn cael eu lladd, gwnânt adolygu'r sefyllfa. Ond nid ydym yn barod disgwyl i hynny ddigwydd. Mae teuluoedd gyda phlant yn byw yma. Rwyf yn gwybod fod rhai trigolion sydd ofn am eu bywydau o ystyried y cyflymder rhai ceir sy'n teithio drwy'r pentref. Hoffem weld y terfyn cyflymder yn gostwng i 30mya, fel gyda phentrefi eraill ar yr A5, ac ni wnawn roi'r gorau iddi hyd nes y gwelwn hyn yn digwydd."

Gall y cyhoedd gefnogi'r ymgyrch drwy lofnodi deiseb i Lywodraeth Cymru: Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn – Deisebau (senedd.cymru)