Dyddiad
Mae ymgyrch i fynd i'r afael â throseddau casineb yng ngogledd Cymru wedi arwain at fwy o ddioddefwyr yn dod ymlaen i adrodd am droseddau. Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ei bod hi'n hanfodol codi ymwybyddiaeth am y broblem sy'n achosi diflastod ofnadwy.
Mae pobl hefyd yn dioddef oherwydd tueddfryd rhywiol, hil, siâp corff, oedran neu amryw o nodweddion personol eraill.Datgelwyd bod 27 y cant o gynnydd wedi bod yn nifer yr adroddiadau o droseddau casineb yng Ngogledd Cymru dros y 12 mis diwethaf.Cododd nifer yr achosion o droseddau casineb a adroddwyd i Heddlu Gogledd Cymru o 358 i 455, gyda digwyddiadau yn ymwneud â hil a chrefydd yn amlwg.
Rhyddhawyd y ffigyrau newydd i gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.Bydd wythnos o weithgareddau'n dod i ben gyda thwrnamaint pêl-droed yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn, Hydref 20.Ymhlith y timau sy'n cymryd rhan fydd Clwb Pêl-droed Cynhwysol Wrecsam a thimau cymunedol eraill tra bydd dau dîm o Gadetiaid Heddlu Gogledd Cymru yn chwarae yn erbyn ei gilydd.
Bydd y digwyddiad hefyd yn nodi ymddangosiad cyntaf car heddlu mewn lliwiau’r enfys a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo neges ymladd troseddau casineb.Meddai Mr Jones: "Caiff troseddau casineb eu cyflawni yn erbyn person unigol oherwydd pwy ydyn nhw a beth ydyn nhw - ac mae hynny'n annioddefol mewn cymdeithas wâr.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd y troseddau hyn o ddifrif ac mae'n bwysig ein bod ni’n annog dioddefwyr i ddod ymlaen a rhoi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd, naill ai'n uniongyrchol i'r heddlu, drwy asiantaeth arall neu'r Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr yn Llanelwy a sefydlwyd i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i ddioddefwyr pob trosedd."Rwyf hefyd yn annog pobl i roi gwybod am y rheiny sy'n ysgogi neu'n cyflawni troseddau casineb. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, rwyf yn gadarn yn fy marn fod yn rhaid i ni sefyll yn erbyn melltith hiliaeth.
"Roeddwn yn falch o weld o'r ffigyrau diweddaraf bod cynnydd cyson yn parhau yn nifer y dioddefwyr sy'n adrodd am droseddau casineb a gyflawnwyd yn eu herbyn."Rwy'n annog ein cymunedau i wrthsefyll naratif hiliol a sefyll i fyny i’r rhai sy'n cyflawni troseddau fel hyn a rhoi gwybod amdanynt ar unwaith i'r heddlu. Mae hiliaeth yn erbyn ein cyd-ddinasyddion yn gwbl annerbyniol ac ni ddylid ei ddioddef.
"Ni fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef. Bydd Heddlu Gogledd Cymru a minnau'n gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pawb sy'n byw ac yn ymweld â gogledd Cymru beth bynnag fo'u gwlad wreiddiol a byddwn yn erlyn y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb.""Os byddwch chi'n adrodd am achosion o’r fath wrth Heddlu Gogledd Cymru, gallwch fod yn hyderus y caiff ei drin yn briodol gyda chydymdeimlad.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn benderfynol o ymdrin â chwynion fel hyn yn sensitif ac i sicrhau nad yw’r dioddefwr yn wynebu perygl pellach gan y sawl sydd wedi eu gwneud yn ddioddefwr."Adleisiwyd y teimlad gan Elizabeth Ward, swyddog polisi'r Comisiynydd Heddlu a Throesedd, a ddywedodd: "Mae trosedd casineb yn drosedd gywilyddus wedi'i hysgogi gan ragfarn a gall ei amlygu ei hun mewn sawl ffordd ond mae’n bwysig cofio bod pob un ohonom yn cael ei warchod gan y gyfraith.
"Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yw codi proffil y mater a dweud yn gwbl bendant nad yw'n dderbyniol mewn unrhyw ffurf."Yn anffodus, mae rhai pobl yn delio â throseddau casineb bob dydd a'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yw galluogi’r bobl hynny i ddod ymlaen a dweud wrthym eu stori. Mae’n galonogol bod mwy o bobl yn cael yr hyder i ddod ymlaen ac adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.