Skip to main content

Y CHTh a phartneriaid allweddol yn comisiynu Wavehill er mwyn gwerthuso ymyraethau trais difrifol yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad
SVD

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros Ogledd Cymru, Andy Dunbobbin, mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gwasanaethau prawf, a thimau troseddu ieuenctid, wedi cyhoeddi ei fod wedi comisiynu’r cwmni ymgynghori, Wavehill, er mwyn cyflawni gwerthusiad cynhwysfawr o ymyraethau trais difrifol, sydd wedi’i gomisiynu gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPs) ledled Gogledd Cymru ers 1 Medi 2024.

Mae’r gwerthusiad yn rhan o waith parhaus ynglŷn â Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, gafodd ei lansio ym mis Mehefin, efo’r nod o weithio efo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ar draws y rhanbarth. Mae’n canolbwyntio ar ddod â phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau tân ac achub ac asiantaethau iechyd a chyfiawnder troseddol at ei gilydd, er mwyn taclo trais difrifol a’i achosion craidd.

Mae trais difrifol yn cael effaith ddwys ar unigolion a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Yn ystod 2022-23, mi gafodd dros 30,000 o droseddau trais yn erbyn y person eu cofnodi gan yr heddlu ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn gyfystyr â 44 trosedd fesul pob 1,000 o bobl, er bod hyn yn leihad o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Blaenoriaethau allweddol strategaeth Gogledd Cymru ydy:

  • Helpu a chynyddu atal ac ymyrraeth cynnar ynglŷn â thrais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
  • Hyrwyddo diogelu cyd-destunol er mwyn gweithio efo plant a phobl ifanc sy’n fregus i gamfanteisio a / neu gaethwasiaeth fodern.
  • Nodi a rhoi gwelliannau, ymarferiadau da ac arloesi ar waith fel partneriaeth, er mwyn ymateb i drais difrifol.
  • Creu ffordd ataliol yng Ngogledd Cymru, drwy ddeall  risg, profiadau niweidiol a thrawma yn ystod plentyndod.

Bydd y gwerthusiad fydd yn cael ei gyflawni gan Wavehill yn cynnwys edrych ar brosiectau a rhaglenni sy’n cymryd lle ledled Gogledd Cymru, a gweld pa mor effeithiol ydyn nhw yn sicrhau bod trais difrifol yn lleihau, a bod cymunedau lleol yn fwy diogel o’u canlyniad. Mi wnaiff hefyd sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gyfeirio yn y ffordd mwyaf effeithiol ar ran trigolion y rhanbarth.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae penodi Wavehill er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd ein gwaith i leihau trais difrifol yn tanlinellu ein ymroddiad i fynd i’r afael â’r mater ar ran pobl Gogledd Cymru. Trwy graffu effeithiolrwydd ein ymyraethau sy’n bodoli’n barod, mi wnaiff hyn wasanaethu fel canllaw hanfodol yn ffurfio dyfodol y Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, a’i nod o atal a threchu trais difrifol yn y rhanbarth. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gwerthuso rhaglenni a gweithrediadau, er mwyn sicrhau gwerth am arian ar gyfer pobl y rhanbarth.

“Mae’r gwaith hwn yn cryfhau y dull cydweithredol sy’n cael ei gymryd er mwyn ymdrin â thrais difrifol yng Ngogledd Cymru. Drwy weithio efo’n gilydd a chyfnerthu ymarferiadau ar sail tystiolaeth, ‘da ni’n hyderus yn ein gallu i greu rhanbarth mwy diogel a chadarn er lles pawb.”

Dywedodd Ian Bancroft, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru Mwy Diogel: “Mi fydd y gwerthusiad yn darparu goleuni pellach ar effeithiolrwydd ac argraff ein ymyraethau cyfredol i leihau trais difrifol. Mi fydd yn galluogi’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPs) a rhanddeiliaid i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, ynglŷn â dosrannu adnoddau yn y dyfodol, prosiectau, a datblygiad mentrau newydd sy’n targedu’n weithredol ar achosion craidd trais difrifol yn ein cymunedau.”

Ychwanegodd Andy Parkinson, Cyfarwyddwr Wavehill: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru a phartneriaid allweddol ar draws y rhanbarth i ddarparu gwerthusiad annibynnol o ymyriadau trais difrifol ledled Gogledd Cymru. Byddwn yn tynnu ar ein profiad o ymgymryd ag astudiaethau gwerthuso tebyg ar gyfer Partneriaethau Lleihau Trais yn Lloegr a'n hanes o weithio gyda sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio a'u niweidio. Bydd ein gwerthusiad, a gomisiynwyd gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn helpu i lywio strategaethau yn y dyfodol i gefnogi cymunedau mwy diogel."

Mae disgwyl i Wavehill adrodd yn ôl ar eu canlyniadau ym mis Mawrth 2025, pan gaiff y canlyniadau eu cyhoeddi ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) dros Gogledd Cymru.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, ewch i wefan y SCHTh yma: https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/dyletswydd-trais-difrifol