Skip to main content

Y CHTh yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb

Dyddiad

Dyddiad

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn cael ei gynnal o 12 Hydref hyd at 19 Hydref eleni, ledled y DU er mwyn amlygu troseddau casineb. Mae’r ymgyrch, gafodd ei sefydlu yn 2009, yn para wythnos ac yn annog y Llywodraeth, yr Heddlu, cynghorau lleol, elusennau a chymunedau sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau casineb, i gydweithio er mwyn ymdrin â throseddau casineb lleol ar draws y DU. Canolbwynt yr ymgyrch eleni ydy amlygu troseddau casineb gwrth-LHDT+. Yn ôl y trefnwyr, nod yr ymgyrch ydy i ddod â phobl at ei gilydd er mwyn sefyll yn un efo’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan droseddau casineb, ac i gofio’r rhai ‘da ni wedi’u colli, ac i gynorthwyo’r rhai sydd angen  cefnogaeth parhaus.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) Andy Dunbobbin wedi estyn ei law i roi cefnogaeth lawn i’r ymgyrch, ac mae’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau er mwyn nodi’r wythnos, ac i ymgysylltu â gwahanol gymunedau ledled y rhanbarth, sydd wedi’u heffeithio gan droseddau casineb.

Yng Ngogledd-Orllewin Cymru, mi ymunodd y CHTh â chyfarfod y Rhwydwaith Trawsrywiol Unigryw ym Mangor. Mae’n grŵp o wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo pobl Traws, Anneuaidd a Rhywedd Amrywiol ledled Gogledd Cymru. Prif nod y grŵp ydy helpu aelodau ar eu taith hunaniaeth rhywedd, drwy gyfeirio at wybodaeth ddibynadwy, hyrwyddo cynhwysiant gan ddarparwyr gwasanaethau, ac i ennill derbyniad y gymuned ehangach. Mi ymunodd aelodau o grŵp LHDT+ Prifysgol Bangor y digwyddiad hefyd, lle trafododd y CHTh effaith troseddau casineb ar y cymunedau mae’r grŵp yn eu gwasanaethu, a sut gallai asiantaethau gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r mater.

Yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru, mi ymwelodd y CHTh â Chanolfan ICAN Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, er mwyn cyfarfod y tîm a dysgu mwy am eu gwaith. Mi ‘roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod ymdrechion Clwyd Alyn i drechu troseddau casineb,  sydd weithiau o ganlyniad dadlau rhwng cymdogion, yn ogystal â digwyddiadau casineb tuag at pobl digartref, sy’n cael  cefnogaeth gan y sefydliad ac yn eu cartrefu nhw. Mae’r Ganolfan ICAN yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol, ac mae’n cynnig gwasanaeth lles iechyd meddwl i’r rhai sydd angen  cefnogaeth emosiynol a chorfforol, ac yn gweithio efo nifer o wasanaethau ac asiantaethau cynorthwyol lleol. Yn ystod yr ymweliad, mi wnaeth y CHTh gyfarfod efo Lynda Williams, Rheolwr Byw Cefnogol, Conwy / Sir Ddinbych; Brendan McWhinnie,  Rheolwr Cartrefi; a Hannah Burton,  Swyddog Ymyrraeth Arbenigol. Mae cryn dipyn o waith wedi’i gyflawni gan Brendan a Hannah er mwyn ymdrin ag unrhyw fath o faterion  gwrthgymdeithasol sy’n codi, gan gynnwys troseddau casineb, ac i edrych ar ddatrysiadau gwahanol.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb hon, ‘dwi wedi cael y fraint o gyfarfod aelodau o’n cymunedau amrywiol a chyfoethog ledled Gogledd Cymru, ac i adlewyrchu nid yn unig ar y gwaith cadarnhaol sydd wedi’i gyflawni er mwyn trechu troseddau casineb, ond hefyd y gwaith ‘da ni gyd angen gwneud er mwyn gwrthsefyll casineb.

“Nid oes lle i’r math yma o drosedd yng Ngogledd Cymru, a ‘dwi’n benderfynol o ddangos i ddioddefwyr fy mod i’n sefyll gyda nhw, ac i ddweud wrth droseddwyr na fyddwn yn goddef eu rhagfarn. ‘Dwi’n falch o'r gwaith sydd yn cael ei gyflawni gan Heddlu Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau fel y rhai ‘dwi wedi cyfarfod ar draws Gogledd Cymru, drwy estyn llaw i’n cymunedau lleol. Mi fuaswn i’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd casineb i’w riportio, er mwyn i’r heddlu fedru gweithredu arno.”

Dywedodd Jenny-Anne Bishop OBE, o’r Rhwydwaith Trawsrywiol Unigryw: “Mae’n bwysig iawn bod y CHTh yn ymweld â’n cymunedau amrywiol, er mwyn clywed y dioddefwyr yn egluro sut mae troseddau casineb wedi effeithio’n unigol arnyn nhw. Mi sicrhaodd Andy Dunbobbin ei fod yn deall pa mor ddinistriol ydy troseddau casineb. Mae’r heddlu yn ei flaenoriaethu’n uchel, ac mae’r math yma o drosedd yn cael ei erlyn yn gadarn, tra’n trin dioddefwyr gyda sensitifrwydd a pharch, ac yn rhoi gwybod iddyn nhw beth sy’n digwydd. Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cynnig  cymorth wedi’i deilwra i ddioddefwyr, drwy eu cyfeirio  at Ganolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru, wedi’i ddarparu gan Cymorth i Ddioddefwyr gyda chefnogaeth gan y CHTh.”

Ychwanegodd Mrs Bishop: “Mae hefyd yn bwysig bod Cyfiawnder Adferol yn cael ei ddefnyddio, pan yn briodol, er mwyn gwneud i’r dioddefwr deimlo’n fwy pwerus drwy weld bod y troseddwr yn ymwybodol o effeithiau eu trosedd. Yn y tymor hir, mi hoffem ni weld dull mwy rhagweithiol gan y Llywodraeth a’r System Cyfiawnder Troseddol, drwy gomisiynu ymchwil pellach i pam fod pobl yn cyflawni troseddau casineb, ac yna’n ei ddefnyddio er mwyn atal y math yma o droseddau a digwyddiadau casineb rhag ddigwydd.”

Dywedodd Hannah Burton, Swyddog Ymyrraeth Arbenigol Clwyd Alyn: “Mae Clwyd Alyn yn ymrwymo i ymdrin â throseddau casineb ym mhob ffurf, a ‘da ni’n gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth, o fewn  y sefydliad ac yn y cymunedau ‘da ni’n gweithio, o’r camau dylai unrhyw un eu cymryd os ydyn nhw’n ddioddefwr o, neu’n  dyst i, drosedd casineb. Mae hyn yn cynnwys gosod ein Polisi Gofal Preswylwyr ar draws y sefydliad, a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, megis yr Heddlu a Cymorth i Ddioddefwyr, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn cyfeirio pobl  at yr adnoddau gorau ar gyfer cael help a  chefnogaeth.

“’Da ni’n falch iawn ein bod yn gweithio efo’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd er mwyn rhannu mwy am y gwaith sy’n cymryd lle yn ein Canolfan ICAN, a’r dull ‘da ni’n ei ddefnyddio i drechu trosedd casineb. Mae hwn yn rhan bwysig iawn o’n ymrwymiad i sicrhau ein bod yn creu gweithle a chymunedau cynhwysol, lle gall pawb deimlo’n ddiogel ac o werth.”

Mae digwyddiad casineb yn un lle mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn credu ei fod yn seiliedig ar ragfarn rhywun tuag atyn nhw oherwydd eu hil, eu crefydd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hanabledd neu oherwydd eu bod yn drawsrywiol.

Os ’da chi angen riportio trosedd casineb, gallwch gysylltu efo Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 (os yng Ngogledd Cymru), neu am wybodaeth ynglŷn a ffyrdd eraill i riportio (gan gynnwys riportio trydydd parti a dienw) ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am droseddau casineb ar gael yn adran Cyngor a Gwybodaeth gwefan yr Heddlu. Gallwch riportio i’r heddlu drwy asiantaethau trydydd parti fel Cymorth i Ddioddefwyr. Mae’r asiantaethau hyn yn helpu’r rhai sy’n well ganddyn nhw beidio ag ymdrin yn uniongyrchol efo’r heddlu.

Cofiwch! Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. Dydy Troseddau Casineb ddim yn iawn. Peidiwch â dioddef yn dawel. Riportiwch o.