Skip to main content

Y CHTh yn cyhoeddi adroddiad gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn atal achosion o gamymddwyn rhywiol yn yr Heddlu

Dyddiad

PCC, CC & RASASC

Heddiw, cyhoeddir adroddiad allweddol gan Heddlu Gogledd Cymru wedi'i baratoi yn dilyn canfod David Carrick yn euog am lu o droseddau fel treisio, trais yn erbyn merched ac ymddygiad gorfodol tra roedd yn swyddog yn yr Heddlu Metropolitan. Paratowyd yr adroddiad gan y tîm yn yr Heddlu o dan arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, ar gyfer Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru.

Mae plismona yn genedlaethol wedi bod o dan chwyddwydr sylweddol yn dilyn achosion amlwg iawn lle mae uniondeb y rhai hynny sy'n gwasanaethu yn heddluoedd y DU wedi cael ei gwestiynu.  Disgwylir safonau uchel gan swyddogion heddlu ac mae'n angenrheidiol eu bod yn glynu at yr un safonau personol maent yn eu gorfodi. Mae'r angen hwn am dryloywder ac atebolrwydd wedi arwain at yr adroddiad yn cael ei gomisiynu a'i gyhoeddi.

Mae'r adroddiad yn edrych ar oblygiadau achos David Carrick yng nghyd-destun lleol Heddlu Gogledd Cymru, mynychter achosion o gasineb at ferched yn yr Heddlu, y nifer o achosion o dan ymchwiliad a'r mesurau mewn lle. Mae hyn er mwyn gwarchod y cyhoedd a sicrhau fetio swyddogion yn gywir. 

Mae'r adroddiad yn nodi fod 27 o ymchwiliadau ymddygiad ar hyn o bryd yn mynd ymlaen o ran 24 o unigolion o fewn Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r nifer hyn ymysg y 1662 o Swyddogion Heddlu, 186 o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu, 1201 o Staff Sifil a 100 o Swyddogion Gwirfoddol yn yr Heddlu i gyd Mae 13 achos yn berthnasol i drais yn erbyn merched a genethod, gan gynnwys camymddwyn rhywiol a cham-drin domestig gan unigolion o fewn yr heddlu.

Mae'r adroddiad hefyd yn ymchwilio mesurau i ymdrin ag unrhyw adroddiadau o gamymddwyn gan swyddogion a diogelu'r cyhoedd. Er mwyn sicrhau yr ymdrinnir ag adroddiadau o ymddygiad amhriodol yn briodol o fewn y sefydliad a bod dioddefwyr yn cael cymorth, mae'r Heddlu wedi datblygu Rhaglen Arweinyddiaeth Gynhwysol (ILP) pedwar diwrnod gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Durham. Mae'n cael ei gyflawni i holl oruchwylwyr llinell gyntaf ac ail linell ac mae'n defnyddio ymdriniaeth tystiolaeth er mwyn canolbwyntio ar bwysigrwydd arweinyddiaeth gynhwysol a chynorthwyol. Mae hon yn ffactor hanfodol wrth i swyddogion a staff gael yr hyder i hysbysu am a herio ymddygiad amhriodol gan gydweithwyr a goruchwylwyr. 

Yn hanfodol hefyd i gynnal safonau'r Heddlu ydy'r Adran Safonau Proffesiynol (ASP). Mae pob aelod o staff o fewn ASP yn mynd drwy lefelau fetio uwch na'r disgwyl yn arferol. Maent hefyd â chymwysterau addas i ymgymryd â'r rôl. Er mwyn craffu'n briodol, mae Panel Craffu ASP chwarterol sy'n diweddaru Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae'r CHTh a Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i gynorthwyo dioddefwyr ac ymchwilio unrhyw honiadau'n gyflym a thryloyw. Fodd bynnag, maent yn cydnabod efallai ei bod yn well gan rai unigolion hysbysu sefydliad tu allan i'r heddlu. Maent yn annog unrhyw ddioddefwyr sy'n dymuno hysbysu am drais rhywiol neu gam-drin rhywiol, ond yn teimlo nad ydynt yn gallu cysylltu â'r heddlu, i hysbysu'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig neu'r Ganolfan Cymorth Treisio a Cham-drin Rhywiol. Bydd y sefydliadau hyn yn rhoi cyngor annibynnol, eiriolaeth a gallaf wneud adroddiad trydydd parti ar eu rhan os ydynt yn dymuno.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn cydnabod y pryderon sydd gan yr heddlu o ran ymddygiad yr heddlu yn dilyn troseddau ofnadwy David Carrick. Mae hyn yn dilyn o droseddau eraill gan swyddogion a oedd yn gwasanaethu fel llofruddiaeth Sarah Everard a thriniaeth cyrff y chwiorydd Bibaa Henry a Nicole Smallman. 

"Nid oes lle i gasineb at ferched yn y gwasanaeth heddlu. Ni ddylai troseddwyr cam-drin chwaith fod mewn swydd sy'n golygu gwarchod pobl eraill. Felly, mae'r Prif Gwnstabl Blakeman wedi paratoi'r adroddiad hwn yn amlinellu'r sefyllfa yn Heddlu Gogledd Cymru a manylu'r darpariaethau mewn lle er mwyn gwarchod y cyhoedd a datgelu unrhyw gamymddwyn ymysg swyddogion.

"Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rwyf wedi fy nghalonogi o weld cymaint o waith mae'r Heddlu yn ei wneud er mwyn atal casineb at ferched. Ond gall neb ohonom fod yn segur yn y frwydr yn erbyn cam-drin a chamymddwyn. Rhaid i ni gyd barhau'n wyliadwrus, fel y gall pobl Gogledd Cymru gael hyder yn swyddogion a staff yr Heddlu. Eu gwaith nhw ydy ein cadw ni gyd yn ddiogel."

Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd troseddau David Carrick yn ffiaidd a brawychus. Yr hyn oedd yn waeth oedd ei fod mewn swydd lle'r oedd pobl yn ymddiried ynddo pan oedd yn troseddu fel hyn. 

Mae effaith ddinistriol troseddau Carrick yn mynd ymhell tu hwnt i'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan ac wedi rhoi sylw cyhoeddus unwaith eto ar blismona ledled y DU.

"Mae ein cymunedau yn iawn i ddisgwyl y safonau ac ymddygiad uchaf a gan ein holl weithwyr. Mae sawl ffordd ddiogel o hysbysu am achosion lle mae ein gweithwyr wedi siomi'r safonau disgwyliedig ganddynt. I'r dioddefwyr hynny sydd ddim eisiau hysbysu'r heddlu'n uniongyrchol, gwnewch drwy sefydliadau eraill fel yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig neu'r Ganolfan Cymorth Treisio a Cham-drin Rhywiol.

"Rydym yn parhau i ymrwymo at sicrhau fod ein systemau'n effeithiol wrth ddiswyddo swyddogion sydd, yn syml, ddim yn addas i wisgo'r lifrai. Fe wnawn barhau i chwynnu'r swyddogion hynny a chael gwared ohonynt o'n heddlu."

Dywedodd Gaynor McKeown, Prif Swyddog Gweithredol RASASC a DASU: "Rydym yn cydnabod y gall hysbysu am unrhyw fath o droseddau o gam-drin rhywiol neu gam-drin domestig fod yn anodd.  Mae hyn yn anoddach fyth mewn cyfnod lle mae cymaint o honiadau difrifol wedi'u gwneud yn erbyn y rhai hynny sydd yno i'n gwarchod ni, neu os ydy'r troseddwyr mewn swydd gyfrifol.

"Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais neu os ydych/ydynt wedi cael eich/eu cam-drin ac rydych eisiau cymorth, cyngor neu eiriolaeth, cysylltwch â'n gwasanaethau heddiw. Cewch gyngor a chymorth cyfrinachol hyd yn oed os ydych yn dymuno hysbysu'r heddlu am y mater. Rydym, gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn credu nad oes lle i gam-drin o fewn ein heddlu. Gwnawn gydweithredu gyda nhw er mwyn atal yr ymddygiad hwn a dod a throseddwyr o flaen eu gwell."

Darllen yr adroddiad yn llawn yma.

Er mwyn hysbysu DASU neu RASASC am unrhyw achosion, dylai aelodau o'r cyhoedd gysylltu â:

RASASC – 01248 670628 neu drwy e-bost: info@rasawales.org.uk

DASU – 01492 534705 neu e-bostiwch nhw drwy eu gwefan: Cysylltwch â ni / Atgyfeirio at ein Gwasanaethau » DASU Gogledd Cymru