Skip to main content

Y CHTh yn cynnig praesept plismona is na'r gyfradd chwyddiant

Dyddiad

Andy Dunbobbin

23/1/23: Heddiw, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi y gwnaiff ofyn i'r Panel Heddlu a Throsedd gymeradwyo cynnydd is na'r gyfradd chwyddiant yn y praesept plismona. Mae hyn yn cyfateb i 31c yr wythnos (neu £16.29 yn flynyddol) ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24. O ran canran, mae hyn yn golygu cynnydd o 5.14% yn y dreth gyngor ar gyfer eiddo band D ers llynedd. Bydd Mr Dunbobbin yn gwneud y cynnig i'r Panel Heddlu a Throsedd mewn cyfarfod ar 30 Ionawr 2023. Bydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Daw dros hanner yr arian ar gyfer cyllid yr heddlu yng Ngogledd Cymru o Lywodraeth y DU a daw'r gweddill oddi wrth Dreth y Cyngor. Mae'r swm yn dibynnu ar y praesept a osodir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Daw'r penderfyniad i ofyn am gynnydd o 31c yr wythnos yn dilyn ymgynghoriad ac arolwg a ddigwyddodd gyda phobl Gogledd Cymru dros chwe wythnos rhwng 5 Rhagfyr a 11 Ionawr, a oedd yn cynnwys dros 1,000 o ymatebion. Roedd yr arolwg ar gael ar-lein ac fel copi caled. Er mwyn galluogi cymaint o bobl a phosibl i ddweud eu dweud, hysbysebwyd yr ymgynghoriad ar y radio, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd arolygon hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ac fe'u dosbarthwyd drwy rwydweithiau a sefydliadau cymunedol ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Yn dilyn ymgynghoriad gyda'r cyhoedd, rwyf wedi penderfynu argymell cynnydd yn y praesept plismona o 5.14% ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. Nid penderfyniad hawdd oedd hwn i mi, gan ei fod yn eglur i mi o ymatebion i'r ymgynghoriad fod llawer ohonom yn teimlo pwysau o'r argyfwng costau byw. Cymerodd dros 1,000 o bobl ran yn yr arolwg, a oedd y nifer fwyaf ers sawl blwyddyn. Mae'n dangos cymaint mae pobl yn feddwl am gyllid ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Ystyriwyd pob barn ac maent wedi'u pwyso a mesur o ran yr angen i ddarparu digon o gyllid – a'r gwerth gorau am arian – wrth ddiogelu pobl Gogledd Cymru. 

"Mae hefyd yn glir i mi o'r ymgynghoriad fod pobl eisiau gweld ein gwasanaeth heddlu yn bod mor effeithlon, effeithiol ac mor amlwg â phosibl yn y ffordd mae'n gweithredu. Mae amlygrwydd yn hanfodol bwysig i'n cymunedau. Rydym i gyd eisiau teimlo'n ddiogel ac fe gefais fy ethol ar y mandad hwnnw. Mae pobl hefyd eisiau gweld pwyslais ar droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, atal cam-drin domestig, gwarchod plant a phobl ifanc, a diogelu aelodau bregus o'n cymdeithas. Yn olaf, maent eisiau ein gweld ni'n ymdrin ag achosion craidd troseddu a chynorthwyo adsefydlu troseddwyr. Gwnaf ystyried y safbwyntiau hyn a thrafod sut allwn ni eu rhoi ar waith gyda'r Prif Gwnstabl a gyda gweddill fy nhîm."

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg a neilltuo'r amser i rannu eu barn. Gwerthfawrogir eich barn."

Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: “Rwyf yn cydnabod fod hwn yn gyfnod heriol. Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i frathu ac rwyf yn gwbl ymwybodol o effaith unrhyw gynnydd mewn gwariant. Buaswn, fodd bynnag, yn hoffi sicrhau pobl os derbynnir y praesept gan y Panel Heddlu a Throsedd y gwnawn fuddsoddi’r arian er mwyn elwa pob a chymunedau ledled Gogledd Cymru i gyd.

“Un o’n prif flaenoriaethau, yn unol â chanlyniadau’r arolwg, ydy gwella ein hamlygrwydd hwnt ac yma ymysg cymunedau lleol. Byddai cynnydd mewn niferoedd SCCH yn ein cynorthwyo ni gyflawni hyn.

“Byddai buddsoddiad hefyd yn cael ei wneud mewn meysydd er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i ddioddefwyr ac mewn adrannau allweddol eraill fel fforenseg a chymorth gwyddonol, sydd yn wasanaethau pwysig i sawl agwedd o blismona, yn enwedig mewn cynorthwyo dod â throseddwyr o flaen eu gwell.”

“Mae’r holl feysydd rydym yn bwriadu buddsoddi ynddynt yn cefnogi’r Cynllun Heddlu a Throsedd a’n gwaith i wneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU.”

Gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gorfod canfod £39 miliwn o arbedion ers 2010 – a £3.75 miliwn ychwanegol wedi'i ganfod ar gyfer 2023-24 hefyd –  bydd y cynnydd yn y praesept ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cynorthwyo i ariannu sawl rôl a menter fel rhan o brif flaenoriaethau'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Y blaenoriaethau hyn ydy cyflawni cymdogaethau mwy diogel, cynorthwyo dioddefwyr a chymunedau a system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol – fel yr amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throsedd a gefnogir yn unfrydol. Mae'r rolau newydd yn cynnwys rhai yn y ddalfa, yn swyddfa'r crwner, cymorth gwyddonol ac mewn sicrhau fod y data mae'r heddlu'n ei ddefnyddio mor gadarn â phosibl. Bydd meddalwedd fforensig hefyd yn cael ei uwchraddio fel rhan o'r newidiadau a ragwelir.  O ran cynyddu amlygrwydd, crëir chwe rôl Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu ychwanegol. Daw hyn ar ôl i 10 rôl gael eu hariannu gan y CHTh yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Bydd y penderfyniad terfynol ar y cynnydd yn y praesept yn cael ei wneud gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mewn cyfarfod ar 30 Ionawr 2023 ym Modlondeb, Conwy. Mae'r Panel Heddlu a Throsedd yn gorff sy'n cynnwys deg cynghorydd ledled Gogledd Cymru a thri aelod annibynnol cyfetholedig. Mae'n craffu gwaith y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Os ydy'r Panel yn cytuno ar y cynnydd, daw i rym yn y flwyddyn ariannol nesaf o fis Ebrill 2023.