Skip to main content

Y CHTh yn diolch i Gadetiaid Heddlu Gogledd Cymru g-ŵy-ch am eu gwasanaeth i'r gymuned

Dyddiad

Cadets

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i weld Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru ym Mhencadlys Rhanbarthol y Dwyrain yn Llai ger Wrecsam er mwyn cyflwyno ŵy Pasg i bob un ohonynt. Roedd yr anrheg er mwyn diolch iddynt am eu hymrwymiad a'u gwaith beichus ar ran trigolion y rhanbarth. 

Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn grŵp ieuenctid heddlu cydnabyddedig mewn lifrai. Diben y Cadetiaid ydy annog ysbryd anturus a dinasyddiaeth dda. Mae Cadét Heddlu yn rhywun ifanc o unrhyw gefndir sydd eisiau magu dealltwriaeth o blismona a chynorthwyo eu cymuned leol yn unol â blaenoriaethau plismona presennol. Mae'r Cadetiaid yn annog pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd, cyfarfod ffrindiau newydd a chyflawni cymwysterau trosglwyddadwy.

Roedd y cadetiaid yn Llai ar gyfer y cyflwyniad o uned Cadetiaid y Dwyrain a Wrecsam ac yn 13-17 oed. Tra gwnaeth Mr Dunbobbin ymweld â'r Uned benodol hon er mwyn cyflwyno'r wyau yn y cnawd, mae pob un cadét ledled Gogledd Cymru – dros 100 – wedi derbyn un. 

Wedi arolygu'r Uned gyda'r Ditectif Gwnstabl (ac Arweinydd yr Uned) James Duffy o Heddlu Gogledd Cymru, trafododd y CHTh ei rôl gyda'r cadetiaid. Roedd gan y cadetiaid ddiddordeb clywed am ei weithgarwch dyddiol, yr hyn mae'n ei fwynhau fwyaf am fod yn CHTh, ynghyd â natur wleidyddol y swydd, a etholir gan bobl Gogledd Cymru. Yn ystod y drafodaeth fe wnaeth amlygu geiriau Syr Robert Peel, sylfaenydd plismona modern: "Yr heddlu ydy'r cyhoedd a'r cyhoedd ydy'r heddlu."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Gall trigolion Gogledd Cymru fod yn falch o Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu sydd gennym yn y rhanbarth, sy'n rhoi o'u hamser a'u hegni sbâr yn ddiflino er mwyn gwasanaethu eu cymuned. Rwyf yn gallu gweld yn barod o'm hymweliad i'r Uned yn Llai eu bod yn esiampl o ddinasyddion. Rwyf yn siŵr y byddant yn profi'n swyddogion da'r un modd os ydynt yn dewis ymuno â'r heddlu yn y pen draw. Roedd yn bleser rhoi ŵy Pasg i bob un ohonynt fel arwydd bach o'm gwerthfawrogiad am eu gwaith beichus a dymuno Pasg hapus iddyn nhw a'u teuluoedd."

Dywedodd DC James Duffy o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n hynod garedig o'r CHTh i gydnabod gwaith beichus y Cadetiaid Heddlu wrth roi ŵy Pasg i bob un ohonynt. Mae'r cadetiaid wedi bod ynghlwm mewn sawl menter ledled Wrecsam, fel y prosiect Angylion Cyllyll diweddar ynghyd â mewn amrywiaeth eang o'r digwyddiadau sifil a chymdeithasol sy'n rhan o fywyd yn y ddinas.  Roedd yn bleser croesawu'r Comisiynydd i gyfarfod yr Uned a thrafod ei rôl."

Cyn y digwyddiad, nid oedd y cadetiaid yn gwybod y byddent yn derbyn anrheg gan y Comisiynydd. Dywedodd Steffan Lea, 15, Uwch Gadet o Wrecsam: "Roeddwn wedi cyffroi pan glywais fod y CHTh yn dod. Roedd yn syrpreis ei fod wedi dod â wyau Pasg i ni. Rwyf yn siŵr y gwnawn i gyd fwynhau eu bwyta nhw dros y Pasg.

Gwnaeth nifer o Gadetiaid yr Heddlu siarad am eu hysgogiadau a'u profiad o fod yn Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.

Gan annog pobl ifanc eraill i ymuno fel Cadetiaid, dywedodd Brooke Blake-Haines, 14, Cadét Iau o Wrecsam: "Roeddwn yn meddwl y byddai Cadetiaid yr Heddlu yn rhoi mwy o hyder i mi yn fy nealltwriaeth o'r heddlu a sut i gynorthwyo'r gymuned gan fy mod eisiau ymuno â'r Heddlu yn y pen draw.  Rwyf yn meddwl dylai mwy o bobl ymuno â Chadetiaid yr Heddlu gan ei bod yn gyfle anhygoel i allu mynegi'r hyn rydych eisiau ei wneud wedyn."

Gan siarad am sut mae'n elwa o fod yn Gadet, ychwanegodd Heath Lloyd-Greenall, 17, Uwch Gadet Gwirfoddol yr Heddlu, hefyd o Wrecsam: "Rwyf erioed eisiau ymuno a'r heddlu, felly roeddwn yn meddwl y byddwn yn dod gam yn nes a magu gwell dealltwriaeth o blismona. Rwyf hefyd erioed eisiau cynorthwyo yn y gymuned ac rwyf yn gwneud llawer o wirfoddoli tu allan i gadetiaid. Rwyf wedi canfod ei bod wedi bod o fudd o ran creu hyder a gwaith tîm."

Dywedodd Andrew Harris, y Cydlynydd Dinasyddion mewn Plismona: "Mae pobl ifanc weithiau yn cael eu portreadu'n wael. Mae cynllun Cadetiaid Heddlu Gogledd Cymru yn dangos y cyfraniad cadarnhaol mae pobl ifanc yn gallu ei wneud o fewn y gymuned. Mae ŵy Pasg gan y CHTh yn dangos gwerthfawrogiad o'r gwaith gwych a chadarnhaol maent yn ei wneud ar ran eu cymunedau. 

"Mae ein Cadetiaid Heddlu yn grŵp amrywiol o bobl ifanc 13-18 oed ledled Gogledd Cymru, sydd â dyhead i gynorthwyo eu cymunedau lleol, ynghyd â magu dealltwriaeth ymarferol o blismona. Maent yn cael cymorth ein gwirfoddolwyr gwych sy'n ymroi eu hamser i gynorthwyo pobl ifanc ar eu taith drwy fywyd.

"Mae cadetiaid â chip gwych i'r heddlu a'r gwaith a wnawn, gan fagu a datblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau, ynghyd â llawer mwy.

"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn recriwtio cadetiaid ar hyn o bryd. Os oes gan bobl ifanc yng Ngogledd Cymru ddiddordeb mewn cadetiaid, buaswn yn eu hannog i ymchwilio Cadetiaid yr Heddlu a gwybod mwy."

Mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn recriwtio am aelodau newydd ar hyn o bryd a gall y cyhoedd wybod mwy am ymuno ar: www.northwales.police.uk/police-forces/north-wales-police/areas/careers/careers/volunteer-police-cadets

Am fwy o wybodaeth ewch ar: www.vpc.police.uk