Dyddiad
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a throsedd yn parhau i edrych yn graff ar waith Heddlu Gogledd Cymru mewn amryw o ffyrdd eang, ac yn ddiweddar wedi cynnal adolygiad pellach o’r Bwrdd Strategol Gweithredol chwarterol, a gymerodd le ar 8 Mai.
Yn y cyfarfodydd hyn, mae’r CHTh a’i dîm yn cyfarfod efo Prif Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru er mwyn adolygu perfformiad yr heddlu yn gyffredinol, gan gynnwys yn erbyn y blaenoriaethau sydd yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh. Yn y cyfarfod mwyaf diweddar, a gadeiriwyd gan y CHTh a’i ail-etholwyd yn ddiweddar, Andy Dunbobbin, rhoddodd y Prif Gwnstabl ddiweddariad ar berfformiad Heddlu Gogledd Cymru yn yr Arolwg Trosedd i Gymru a Lloegr. Mae’r arolwg yn adlewyrchu sut mae’r cyhoedd yn gweld plismona yn eu hardal, a chafodd Heddlu Gogledd Cymru le cyntaf yng Nghymru a Lloegr mewn tri categori gwahanol; trin pobl yn deg, trin pobl â pharch a deall pryderon lleol.
Ar ben hyn, adroddodd y Prif Gwnstabl, yn gyffredinol ac am y flwyddyn 2023/24, bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cynyddu graddfa’r canlyniadau cadarnhaol am droseddau o 3%, sy’n cymharu’n dda iawn efo Heddluoedd eraill Cymru a Lloegr.
Fe aeth y comisiynydd ymlaen i archwilio’n fanwl i berfformiad yr Heddlu ym meysydd Troseddau Mewnfudo Trefnedig a Chaethwasiaeth Fodern.
‘Roedd y pynciau a archwiliwyd yn cynnwys:
- Trefniadau llywodraethu ac arweiniad, gan gynnwys atebolrwydd a goruchwyliaeth.
- Sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymdrin â’r troseddau hynny, gydag ymgyrchoedd efo asiantaethau partner, megis yr Uned Rhanbarthol Gogledd-Orllewinol Troseddau Trefnedig (NWROCU).
- Sut mae archwiliadau yn cael adnoddau, a sut mae nhw’n gweld cynnydd.
- Sut mae cudd-wybodaeth yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio.
- Sut mae swyddogion a staff yn cael hyfforddiant ar gyfer adnabod y troseddau hynny.
Yr ail faes i’w harchwilio’n fanwl oedd gwaith y Ganolfan Cyswllt, a’i hadnabyddir fel Ystafell Rheoli’r Heddlu, lle mae galwadau i’r heddlu a gwasanaethau argyfwng eraill yn cael eu derbyn. Wrth y Bwrdd, rhannodd y Comisiynydd a’i dîm efo’r Prif Gwnstabl ymarferiad hap-samplo a gyflawnwyd gan staff swyddfa’r Comisiynydd. ‘Roedd hwn yn ddarn mawr o waith, a edrychodd ar faterion penodol, gan gynnwys:
- Sut mae galwadau yn cael eu trin ar ôl eu hateb.
- Anfon adnoddau i ddigwyddiadau.
- Llogi digwyddiadau i sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu defnyddio.
- Yr Uned Uniondeb Data Trosedd yn unol â gofynion cenedlaethol.
- Gwaith yr Uned Rheoli Ymateb (MRU) i leihau’r gofynion ar adnoddau‘r rheng flaen.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r Bwrdd Strategol Gweithredol yn fy ngalluogi i edrych yn graff ar sut mae’r Prif Gwnstabl yn perfformio mewn meysydd hanfodol, yn enwedig y rhai sydd yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Mae Troseddau Mewnfudo Trefnedig a Chaethwasiaeth Fodern yn cael eu hystyried yn droseddau difrifol a threfnedig, felly dwi’n sbïo’n fwy craff ar y ddau bwnc.
“Mae fy staff a minnau wedi clywed sut mae’r Heddlu yn canolbwyntio ar wneud Gogledd Cymru yn amgylchedd gwrthwynebus i droseddwyr, drwy gynyddu casglu cudd-wybodaeth, cydweithio efo’n asiantaethau partner, a sicrhau bod swyddogion a staff yn cael yr hyfforddiant cywir ar gyfer adnabod y troseddau erchyll yma. Cefais gadarnhad bod y dioddefwyr yn cael eu diogelu, a bydd y troseddwyr yn cael eu herlyn.
“O ran archwilio Ystafell Rheoli’r Heddlu, fe gyflawnodd fy nhîm ymarferiad hap-samplo trwyadl i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu trin ag effeithlonrwydd ac yn broffesiynol pan maent yn ffonio, anfon e-bost neu’n ddefnyddio’r Sgwrs Fyw i riportio trosedd neu i roi gwybodaeth.
“’Roeddwn hefyd yn falch iawn o glywed y canlyniadau diweddaraf o’r Arolwg Trosedd i Gymru a Lloegr a’r canlyniadau ardderchog a gyflwynwyd gan swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru i’n cymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae’r rhain yn ganlyniadau bendigedig ac yn dangos bod amlygrwydd, ymgysylltiad a phositifrwydd yr Heddlu yn cael ei gydnabod gan y cyhoedd.
“Gan fy mod wedi fy ail-ethol fel CHTh i wasanaethu Gogledd Cymru, dwi eto eisiau cadarnhau i’r cyhoedd fy mod am barhau i edrych yn graff ar berfformiad yr Heddlu, a gweithio’n agos efo’r Prif Gwnstabl er mwyn cefnogi’r gwaith sy’n mynd yn ei flaen.”
Gall trigolion wybod mwy am y Bwrdd Strategol Gweithredol a darllen cofnodion cyfarfodydd blaenorol ar wefan SCHTh yma: https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/craffu-gwasanaethau-plismona