Skip to main content

Y CHTh yn gofyn am braesept is na'r disgwyl

Dyddiad

Heddiw, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi y gwnaiff ofyn i'r Panel Heddlu a Throsedd gymeradwyo cynnydd is yn y praesept plismona. Y cynnydd ydy 32c yr wythnos (neu £16.56 yn flynyddol) i eiddo Band D ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25. O ran canran, mae hyn yn golygu cynnydd o 4.97% yn y dreth gyngor o'i gymharu â llynedd.

Bydd Mr Dunbobbin yn gwneud cais am y cynnydd i'r Panel Heddlu a Throsedd mewn cyfarfod ar 29 Ionawr 2024. Os ydy'r Panel yn cytuno ar y cynnydd, daw i rym yn y flwyddyn ariannol nesaf o fis Ebrill 2024.

Roedd dros hanner y bobl wnaeth gymryd rhan mewn arolwg ar y cynigion yn cefnogi cynnydd o leiaf £17.50 yn y praesept plismona. Felly, mae'r ffigwr sy'n cael ei argymell sef £16.56 yn sylweddol is na'r swm a welir fel derbyniol gan y rhai hynny gymerodd ran.

Cynhaliwyd yr arolwg hefo pobl Gogledd Cymru dros chwe wythnos rhwng 27 Tachwedd a 7 Ionawr, a oedd yn cynnwys dros 1,000 o ymatebion. Roedd hyn dros 50% yn fwy ar y nifer gymerodd ran llynedd, sy'n dangos faint o ddiddordeb sydd yn y mater.

Fel rhan o benderfyniad Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau y gwerth gorau am arian i drigolion, mae arbed £3.2m yn y gyllideb hefyd wedi'i nodi mewn meysydd fel cyfleusterau a chostau ynni. O ran cyflawniad yr Heddlu, mae achosion o drosedd ar draws Gogledd Cymru sydd wedi'u cofnodi wedi gostwng bron 13% o'i gymharu â llynedd. Roedd y gyfradd canlyniad cadarnhaol wedi cynyddu ychydig dros 2%. Mae'r ffigyrau hyn hyd at 11 Rhagfyr 2023.

Dywedodd Andy Dunbobbin: "Dwi'n falch ein bod ni wedi gallu cyflwyno cynnig a fydd yn sicrhau gwasanaeth heddlu a fydd yn cael ei ariannu'n ddigonol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae pob un ohonon ni'n dibynnu ar Heddlu sydd wedi'i ariannu'n dda ac sydd hefo adnoddau sy'n gallu trechu trosedd a'n cadw ni gyd yn saff. Dw i'n gwybod bod trigolion Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn deall yr angen hwn. Dwi'n croesawu fod y pobl gymerodd ran yn ein arolwg ni wedi cydnabod y ffaith hwn ac wedi cefnogi cynnydd yn y praesept. 

"Fodd bynnag, ar yr un pryd, dwi'n gwybod ei bod hi'n gyfnod anodd i gymaint o bobl a bod nifer fawr yn dal i gael trafferth ymdopi. Dyna pam dwi'n falch o weld yr arbedion wedi'u nodi gan yr Heddlu a pam dwi am barhau ymladd ar ran trigolion er mwyn cyflawni cymdogaethau saffach, helpu dioddefwyr a chymunedau a gweld system cyfiawnder troseddol effeithiol. Croesawir y gostyngiad diweddar mewn trosedd. Dwi'n gobeithio, o gael yr offer, y bydd swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru yn gallu parhau gwneud eu gwaith yn effeithiol hefo cefnogaeth barhaus trigolion."  

Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi'n cydnabod ein bod mewn cyfnod ariannol heriol. Dwi'n hynod ymwybodol am effaith taliadau. Serch hynny, buaswn i hefyd yn hoffi tawelu meddwl pobl os derbynnir y praesept gan y Panel Heddlu a Throsedd, fe wnawn ni fuddsoddi'r arian er mwyn i bobl a chymunedau Gogledd Cymru i gyd elwa.

"Un o'n prif flaenoriaethau ydy gwella ein hamlygrwydd a'n hymgysylltiad hefo'n cymunedau. Mae ein holl feysydd buddsoddi bwriadol yn helpu'r flaenoriaeth hon ac yn gydnaws â'r Cynllun Heddlu a Throsedd.   Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf saff yn y DU i fyw, gweithio ac ymweld."

Daw dros hanner yr arian ar gyfer cyllid yr heddlu yng Ngogledd Cymru o Lywodraeth y DU a daw'r gweddill oddi wrth Dreth y Cyngor. Mae'r swm o'r dreth gyngor yn dibynnu ar y praesept a osodir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Tra codir y praesept plismona fel rhan o filiau'r Dreth Gyngor, mae swm y praesept ond yn talu am blismona. Mae gweddill y Dreth Gyngor yn mynd tuag at dalu am wasanaethau tân ac achub, ynghyd a'r cyngor lleol er mwyn darparu gwasanaethau fel casglu sbwriel, golau stryd, addysg a gofal cymdeithasol.

Bydd y penderfyniad terfynol ar y cynnydd yn y praesept rwan yn cael ei wneud gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn eu cyfarfod nhw ar 29 Ionawr 2024 ym Modlondeb, Conwy. Bydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'r Panel Heddlu a Throsedd yn gorff sy'n cynnwys deg cynghorydd ledled Gogledd Cymru a thri aelod annibynnol cyfetholedig. Mae'n craffu gwaith y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.