Skip to main content

Y CHTh yn gweld sut mae Cronfa Chwaraeon yr Haf yn helpu pobl ifanc ym Mangor

Dyddiad

Dyddiad
CPD Bangor

Ar 22 Awst, mi ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â CPD Bangor 1876,  yn eu sesiwn sgiliau pêl-droed rhad ac am ddim ym Maesgeirchen, Bangor, er mwyn dysgu mwy am sut mae’r arian o Gronfa Chwaraeon yr Haf y CHTh wedi bod o fudd i bobl ifanc ac aelodau’r clwb pêl-droed.

Mi gafodd Cronfa Chwaraeon yr Haf ei lansio ym mis Mehefin, er mwyn darparu gweithgareddau chwaraeon ar gyfer pobl ifanc, ac i helpu trechu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod  gwyliau’r haf. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynyddu dros fisoedd yr haf, a gall chwaraeon chwarae rôl sylweddol yn ei leihau, drwy gynnig gweithgareddau cadarnhaol a strwythuredig ar gyfer pobl ifanc. ‘Roedd y gronfa yn agored i ddarparwyr ledled Gogledd Cymru, ac ‘roedd yn llwyddiant mawr, efo 26 sefydliad yn elwa o’r £25,000 gafodd ei dosrannu ar draws y rhanbarth.

Mi ymgeisiodd CPD Bangor 1876 am fuddsoddiad er mwyn darparu sesiynau hyfforddiant pêl-droed yn yr haf, ar gyfer bechgyn a genethod hyd at 13 oed, efo rhai mor ifanc â 4 oed yn mynychu’r sesiynau.

Mi sefydlwyd y clwb yn 2019, ac mi gafodd ei greu er mwyn cadw ac adeiladu ar hanes hir ac unigryw pêl-droed yn y ddinas.. Mae’r enw Bangor 1876 yn arwydd o wreiddiau pêl-droed trefnedig ym Mangor,  gellir ei olrhain yn ôl i gyfarfod cyhoeddus gafodd ei gynnal yn Ystafell yr Ynadon ar 18 Rhagfyr 1876. Ar yr adeg hwnnw, fel rŵan, y nod oedd i sicrhau parhad pêl-droed cystadleuol o’r safon uchaf yn y ddinas a’i dalgylch.

Mae tîm cyntaf y clwb yn chwarae yn ail haen y pyramid pêl-droed yng Nghymru, ond mae hefyd yn canolbwyntio’n ddwys ar ymgysylltiad cymunedol a datblygiad llawr gwlad. Mae’r clwb yn darparu amgylchedd ddiogel a strwythuredig ar gyfer pobl ifanc, drwy gynnig gweithgareddau cadarnhaol a  theimlad o berthyn. Drwy ymgysylltu â phobl ifanc drwy chwaraeon, mae’r clwb yn gallu helpu i’w dargyfeirio nhw oddi  ar drywydd ymddygiad gwrthgymdeithasol posib, ac annog  pobl ifanc i ganolbwyntio ar waith tîm, disgyblaeth, a datblygiad personol.

Yn ystod yr ymweliad, mi gafodd y CHTh gyfarfod aelodau a chwaraewyr o’r clwb, ac mi gafodd hefyd y cyfle i wylio’r chwaraewyr  yn hyfforddi.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “’Roedd yn bleser ymweld â Maesgeirchen ac i gyfarfod â’r  hyfforddwyr a’r bobl ifanc yn CPD Bangor 1876. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, mae sicrhau bod plant a phobl ifanc efo lle i gael hwyl, ond hefyd i fod yn ddiogel, yn bwysig iawn. Mae CPD Bangor 1876 yn enghraifft ardderchog o sut mae fy Nghronfa Chwaraeon yr Haf wedi helpu pobl ifanc ledled Gogledd Cymru, efo cyfle i fod yn fywiog, datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr, ac i adeiladu perthnasau cadarnhaol.

“Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith niweidiol ar y gymuned, a ‘dwi’n ymroddgar yn ei atal. Mae fy nghynllun ar gyfer trechu trosedd yng Ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar gyflawni cymdogaethau mwy diogel, ac ar gynorthwyo cymunedau, ac mae menter CPD Bangor 1876 yn enghraifft rhagorol o sut gall clwb pêl-droed helpu dod â chymunedau at ei gilydd a gweithio er mwyn lleihau risg ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardal.”

Dywedodd CPD Bangor 1876: “’Da ni’n ddiolchgar i’r CHTh am ei  gymorth efo’r fenter yma,  ar y cyd â Phartneriaeth Maesgeirchen Partnership (PMP) ac Adra, sy’n caniatáu i bobl ifanc o ardaloedd Maesgeirchen a Hirael fwynhau’r sesiynau, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwaith tîm er mwyn hyrwyddo eu lles yn y dyfodol.”