Skip to main content

Y CHTh yn gweld sut mae prosiect yn Sir Conwy yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc, efo’r nod o leihau trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dyddiad

Dyddiad
Conwy youth club

Mae prosiect ym Mwrdeistref Sir Conwy, sydd wedi derbyn buddsoddiad er mwyn darparu gweithgareddau a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal, wedi cael dau ymweliad diweddar gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin.

Mae’r fenter Allgymorth Cymunedol yn cael ei redeg gan Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy, ac mi dderbyniodd fuddsoddiad fel rhan o Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru. Nod y strategaeth newydd hon ydy gweithio efo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ledled y rhanbarth. Mae’n canolbwyntio ar ddod â phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, yr awdurdodau lleol, gwasanaethau tân ac achub, ac asiantaethau iechyd a chyfiawnder troseddol penodol, at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael â thrais difrifol a’i achosion gwraidd. Mae’r CHTh a’i swyddfa yn gweithredu fel cynullydd ar ran y rhanddeiliaid amrywiol hyn.

Mae’r prosiect gan Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy yn rhedeg ar draws nifer o drefi yn y sir, gan gynnwys Bae Colwyn, Llandudno, Bae Cinmel, Llanrwst a Chyffordd Llandudno. Mae amryw o weithgareddau yn cael eu trefnu ar gyfer pobl ifanc yr ardal, lle mae nhw’n gallu galw fewn, bod yn egnïol, cymdeithasu efo’u ffrindiau, a dysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol, ac i’w hannog  gael mynediad i ddarpariaethau ieuenctid sydd yn ddiogel, yn gynnes ac yn gefnogol.

Mae’r rhaglen allgymorth hefyd yn gallu helpu nodi unrhyw fylchau sy’n bodoli mewn gwasanaethau, ac, yn bwysicach fyth, meysydd o bryder posib, megis llinellau cyffuriau a mathau eraill o gamfanteisio.

Ar 14 Hydref, mi ymwelodd Andy Dunbobbin â’r Barn ym Mharc Eirias, lle ‘roedd grŵp o bobl ifanc yn chwarae pêl-droed ar ôl ysgol, o dan arweinyddiaeth Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid, Chris Gledhill, a’i gydweithwyr, Jim Walters ac Andy Jones. Mae’r sesiynau ar ôl ysgol yn galluogi’r plant fod oddi ar y strydoedd a bod yn egnïol  mewn ffordd hwyliog ac o dan oruchwyliaeth. Mae Chris a’i gydweithwyr hefyd yn gwneud gwaith allgymorth mewn llecynnau ymddygiad gwrthgymdeithasol ynghanol Bae Colwyn. Mae hyn er mwyn annog y bobl ifanc i fynychu’r clwb ac ymuno efo’r gweithgareddau eraill sydd ar gael, ac i roi allfeydd eraill ar gyfer eu hegni, yn hytrach nag achosi helynt.

Diwrnod yn ddiweddarach, ar 15 Hydref, mi ymunodd y CHTh a’i gydweithwyr Diane Jones, Arweinydd y Rhaglen Trais Difrifol, a Catrin Jones, Swyddog Cynorthwyol y Rhaglen Trais Difrifol, sesiwn “Te a Thost” yn Nhŷ Hapus, Ffordd Penrhyn yn Llandudno. Mi wnaeth yr ymwelwyr gyfarfod efo grŵp o bobl ifanc oedd yn elwa o’r sesiynau, lle gallan nhw alw fewn ar ôl ysgol i gael bwyd a diod a mwynhau cwmni eu ffrindiau. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i drafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw efo’r gweithwyr ieuenctid sy’n bresennol, ynghyd â chefnogaeth Ruth Davies, Gweithiwr Teulu o ganolfan deulu Eryl Wen, Llandudno.

Dywedodd un o’r bobl ifanc yn mynychu’r sesiwn yn Nhŷ Hapus, Liam, sy’n 15 oed: “’Dwi’n hoffi dod i’r clwb, oherwydd mae’n fy helpu i’n feddyliol ac yn gorfforol. Mae hefyd yn helpu efo gwaith ysgol ac adolygu. Mae hefyd yn lle diogel i ddod i wneud ffrindiau a bod yn chdi dy hun.

“Mae’r clwb hefyd yn ymwneud â gwaith mentor, ac os ‘da ni’n cael trafferth efo pethau penodol, mi allwn ni ddod yma a siarad efo'r gweithwyr ieuenctid, ac mi wnawn nhw ein helpu drwyddo.”

Dywedodd Chris Gledhill, Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy: “’Dwi’n credu bod ein rôl fel Gweithwyr Ieuenctid yn hanfodol er mwyn helpu darparu pobl ifanc efo ffyrdd eraill o fod yn fywiog ac i ymgysylltu â gweithgareddau cadarnhaol a strwythuredig efo ni. ‘Da ni’n teimlo’n freintiedig o fod mewn man er mwyn cynnig help a chyngor i bobl ifanc sy’n cael trafferth, neu angen lle diogel er mwyn siarad a medru bod yn nhw’u hunain. Mae ein gwaith partneriaeth efo’r tîm canolfan deulu lleol hefyd yn werthfawr, drwy gryfhau ein cynnig o weithiwr ieuenctid cynorthwyol, er mwyn helpu grymuso pobl ifanc fod yn aelodau cadarnhaol o’u cymunedau.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Mae trais difrifol yn cael effaith ddwys ar unigolion a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Yn ystod 2022-23, mi gafodd dros 30,000 trosedd o drais yn erbyn y person eu cofnodi gan yr heddlu ar draws y rhanbarth. Er bod hyn yn ostyngiad i’w groesawu o’i gymharu â’r flwyddyn gynt – sy’n adlewyrchu gwaith caled Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid yn y gymuned – ‘dwi’n benderfynol o weld y rhif hwn yn gostwng ymhellach.

“Dyna pam fod prosiectau fel rhain yng Nghonwy mor bwysig. Maen nhw’n darparu cyfleodd nid yn unig er mwyn i’r bobl ifanc gadw’n brysur, ond hefyd i drafod unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw adref, yn yr ysgol, neu rhywle arall yn y gymuned. Mi ‘roedd yn braf gweld gwaith caled y Tîm Gwasanaethau Ieuenctid a gweld ymroddiad ac ymrwymiad y bobl ifanc. Gyda’n gilydd, a thrwy prosiectau fel hyn, mi allwn ni helpu lleihau trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Gogledd Cymru.”

Ychwanegodd Arweinydd y Rhaglen Trais Difrifol, Diane Jones: “Mae gweld prosiect fel hyn ar waith wedi fy narbwyllo bod buddsoddi yn ein pobl ifanc yn hanfodol, ac yn rhan allweddol o’r Strategaeth Trais Difrifol. Mae ymrwymiad y tîm i’r gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Drwy roi’r cyfleodd hyn i bobl ifanc, ‘da ni’n helpu i greu cymuned mwy diogel ar gyfer pawb. Mae gen i ddiddordeb yng ngweld sut mae’r gwaith hwn yn datblygu mewn partneriaeth, a’r effaith gadarnhaol bellach mae’n gael ar ein cymuned.”

Blaenoriaethau allweddol Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru ydy:

  • Helpu a chynyddu atal ac ymyrraeth cynnar ynglŷn â thrais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
  • Hyrwyddo diogelu cyd-destunol er mwyn gweithio efo plant a phobl ifanc sy’n fregus i gamfanteisio a / neu gaethwasiaeth fodern.
  • Nodi a rhoi gwelliannau, ymarferiadau da ac arloesi ar waith fel partneriaeth, er mwyn ymateb i drais difrifol.
  • Creu ffordd ataliol yng Ngogledd Cymru, drwy ddeall  risg, profiadau niweidiol a thrawma yn ystod plentyndod.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r strategaeth a’i diben, ewch ar: www.northwales-pcc.gov.uk/cy/dyletswydd-trais-difrifol