Skip to main content

Y CHTh yn hyrwyddo plismona mewn cymunedau gwledig yn ystod Wythnos Brecwastau Ffermdai

Dyddiad

Ar 19 Ionawr, dychwelodd Andy Dunbobbin y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) a Wayne Jones,  Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, i Fetws-y-Coed i gyfarfod â chlywed barn aelodau o'r gymuned amaethyddol leol yng Ngogledd Cymru fel rhan o Wythnos Brecwastau Ffermdai Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), a gynhaliwyd rhwng dydd Llun 15 Ionawr a dydd Sul 21 Ionawr 2024.

Mae Wythnos Brecwastau Ffermdai UAC yn gyfle i arddangos bwyd o ansawdd uchel a gynhyrchir gan amaethwyr yn lleol drwy'r flwyddyn. Mae'r bobl hynny sy'n cymryd rhan yn eistedd a chael brecwast llawn mawr ac yn trafod y materion allweddol sy'n effeithio amaethu'n lleol ac yn genedlaethol. Trwy gydol yr wythnos, nod UAC ydy tynnu sylw at y cyfraniad y mae gweithwyr amaethyddol yn ei wneud i gynnal economi wledig fywiog ledled Cymru. Yn ogystal â hyrwyddo amaethyddiaeth leol, mae Wythnos Brecwastau Ffermdai hefyd yn helpu iechyd meddwl ac ymgysylltu â'r gymuned, gan hwyluso trafodaethau agored, gan ddod â ffermwyr a rhanddeiliaid at ei gilydd mewn un man.

Aeth y Comisiynydd i'r digwyddiad am yr ail flwyddyn yn olynol i barhau â'i ymgysylltiad â'r gymuned amaethyddol a chlywed eu barn a'u pryderon am blismona a throseddau mewn ardaloedd gwledig. Mae atal troseddau gwledig a bywyd gwyllt yn parhau bod yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh ar gyfer Gogledd Cymru. Mae'n benderfynol o fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan ffermwyr a gweithwyr amaethyddol ynghylch troseddau sy'n effeithio ar eu bywoliaethau.

Cynhaliwyd y digwyddiad unwaith eto yn fferm Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed, sef cartref cyn Lywydd UAC Glyn Roberts a'i deulu. Trefnwyd y digwyddiad gan Gangen Sir Gaernarfon o'r Undeb. Mae'n helpu codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn at achosion da.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch o fynychu Brecwast Ffermydd UAC yn fferm Dylasau Uchaf eto eleni. Mae clywed yn uniongyrchol gan ffermwyr a gweithwyr amaethyddol yn hanfodol i mi ddeall eu safbwyntiau ar droseddu ar gyfer cymunedau gwledig ledled Gogledd Cymru.

"Dwi'n ymrwymedig parhau â'r ymgysylltiad hwn, helpu'r sector hanfodol hwn o'n heconomi, a mynd i'r afael â'u pryderon dilys ynghylch troseddau gwledig a bywyd gwyllt."

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd UAC: "Mae'n bleser croesawu'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i'n brecwast ffermdy.  'Da ni'n gwerthfawrogi'r berthynas waith agos hefo'r Comisiynydd ac yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan er mwyn gwneud Cymru wledig yn lle mwy saffach i bawb.

"Mae Wythnos Brecwastau Ffermdai UAC yn rhoi cyfle gwych i ni ddod at ein gilydd, rhannu ein meddyliau a'n pryderon, mwynhau rhai o'r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i'w gynnig, a chodi arian ar gyfer ein elusen hefyd. Mae pawb yn elwa ohono."

Er mwyn dysgu mwy am UAC a'r Wythnos Brecwastau Ffermdai, cliciwch yma: https://fuw.org.uk/index.php/en/news/16179-fuw-farmhouse-breakfast-week

Er mwyn darllen mwy am Gynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a sut mae'n berthnasol i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, cliciwch yma: https://www.northwales-pcc.gov.uk/sites/default/files/2022-04/Police-and-Crime-Plan-2021.pdf