Skip to main content

Y CHTh yn tanio haf o chwaraeon ar gyfer Gogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad

Hefo Ewro 2024 yn yr Almaen a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf ym Mharis yn prysur agosáu, mae cronfa newydd yn cael ei lansio sy'n ceisio helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Gogledd Cymru gynnal gweithgareddau i bobl ifanc y rhanbarth dros y gwyliau.

Mae'r gronfa gyllido, a elwir yn Gronfa Chwaraeon yr Haf, yn cael ei lansio heddiw (3 Mehefin) gan Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae'r Comisiynydd yn annog clybiau a sefydliadau ieuenctid wneud cais rŵan am y cyllid er mwyn talu am weithgareddau chwaraeon drwy gydol gwyliau'r haf.

Un o amcanion Cronfa Chwaraeon yr Haf ydy helpu mynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all yn aml gynyddu dros fisoedd yr haf, trwy gadw plant a phobl ifanc yn brysur mewn ffordd gadarnhaol, hyrwyddo gwaith tîm, ymarfer corff, ac awyrgylch hwyliog a chynhwysol i bawb.

Mae'r gronfa newydd yn dilyn llwyddiant Cronfa Pêl-droed yr Haf y llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar bêl-droed ac a helpodd ddarparu cyllid ar gyfer gweithgareddau ac offer ar gyfer timau ledled Gogledd Cymru. Mae'r gronfa newydd yn wahanol gan ei bod yn agored i bob camp. Mae'r Comisiynydd wedi dyrannu £25,000 er mwyn helpu'r prosiectau hyn ar gyfer cyfnod yr haf gan ganolbwyntio ar ysbrydoli a datblygu plant a phobl ifanc a threchu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r CHTh yn gobeithio helpu 25 o sefydliadau ar draws Gogledd Cymru. Felly, bydd uchafswm o £1,000 ar gael ar gyfer pob prosiect. Gofynnir am geisiadau erbyn hanner nos ar 28 Mehefin.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dwi'n falch iawn o lansio fy Nghronfa Chwaraeon Haf. Dwi'n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc Gogledd Cymru yn ystod gwyliau'r haf. Dwi'n gobeithio bydd yn efelychu llwyddiant ysgubol Cronfa Bêl-droed y llynedd, a ddaeth â chymaint i gynifer o dimau ar draws y rhanbarth.

"'Da ni i gyd yn gwybod bod chwaraeon yn ffordd wych o feithrin teimlad o undod, hyder, bod yn gadarnhaol ac, yn bwysicaf oll, hwyl, ymhlith pobl ifanc. Canlyniad arall cymryd rhan mewn chwaraeon ydy eu bod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau llai cadarnhaol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Cefais fy ailethol fel CHTh ym mis Mai ar ôl addo helpu cymunedau a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Dwi'n benderfynol o gyflawni fy addewid. Dyna pam dwi'n lansio'r Gronfa Chwaraeon Haf hon cyn gynted â phosibl, fel bod pobl ifanc Gogledd Cymru yn gallu cadw'n heini a ffynnu dros y gwyliau.

"Buaswn i’n annog unrhyw glwb neu gymuned sy'n meddwl eu bod yn gymwys am gyllid i ymgeisio rŵan a chreu haf o chwaraeon ar draws dinasoedd, trefi a phentrefi Gogledd Cymru. Efallai y byddwn ni hyd yn oed yn dod o hyd i rywun fydd yn serennu yn gemau'r Ewros, y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd yn y dyfodol yn ein plith!"

Meini prawf cymhwysedd a chyllid

Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais fer erbyn hanner nos ar ddydd Gwener 28 Mehefin. Rhaid i'r prosiect fod wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio hefo plant a phobl ifanc hyd at ac yn cynnwys 17 oed. Rhaid i'r prosiect egluro sut y byddan nhw'n mynd i'r afael â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol neu'n cysylltu hefo Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad sicrhau bod ganddyn nhw bolisi diogelu a/neu bolisi amddiffyn plant. Rhaid bod yr holl staff a gwirfoddolwyr wedi cwblhau gwiriadau perthnasol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n well fod y prosiect yn cynnwys elfen o gyllid cyfatebol. Fodd bynnag, nid ydy hyn yn hanfodol. 

Eithriadau

Ni ellir defnyddio'r grant er mwyn ariannu unigolyn, sefydliadau a sefydlwyd er mwyn gwneud elw, na gwaith y mae gan gyrff statudol (fel ysgolion neu awdurdodau lleol) ddyletswydd i'w ariannu. Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan lywodraeth leol, carchardai, cyrff y GIG a phrosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU.

Er mwyn gwybod mwy, ewch ar: www.northwales-pcc.gov.uk/cy/cronfa-chwaraeon-yr-haf