Dyddiad
Ymunodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, â swyddogion o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru fel rhan o'u hymgyrch atal yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau dros y Nadolig ar nos Fercher, 21 Rhagfyr.
Roedd y tîm o'r Uned yn cynnwys yr Arolygydd Iwan Roberts, y Rhingyll Liam Ho, PC Nicholas Choak, PC Pete Doran a PC Dylan Smith. Roedd y swyddogion allan yn stopio modurwyr ar ddwy ochr yr A548 yng Ngronant, Sir y Fflint er mwyn profi drwy anadliedydd os oedd rhywun yn torri'r gyfraith a pheryglu'r cyhoedd drwy yfed o dan ddylanwad. Trafododd Mr Dunbobbin bwysigrwydd yr ymgyrch gyda swyddogion, eu profiadau'n ystod yr ymgyrch hyd yma, a gwelodd eu hymgysylltiad gyda'r cyhoedd a'r cyngor roeddent yn ei roi i fodurwyr ar bwysigrwydd peidio yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau drosto'i hun.
Hyd at 21 Rhagfyr, mae ymgyrch eleni wedi gweld 62 o yrwyr yn cael eu harestio o dan amheuaeth o yrru ar gyffuriau a 42 yn cael eu harestio o dan amheuaeth am yrru ar gyffuriau. Bydd modurwyr a arestiwyd am yrru ar gyffuriau rŵan yn disgwyl am ganlyniadau profion pellach cyn y gwneir penderfyniad i gyhuddo. Os cânt eu cyhuddo o yrru ar gyffuriau, gallent wynebu cael eu gwahardd rhag gyrru, cael dirwy, dedfryd o garchar a chofnod troseddol. Nid yw llawer yn sylweddoli gall dedfryd am yrru o dan ddylanwad cyffuriau olygu costau yswiriant uwch a'r posibilrwydd o beidio cael teithio i wledydd fel yr UDA.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Does neb eisiau gweld yr heddlu'n cnocio eu drws y Nadolig hwn gyda'r newyddion ofnadwy fod anwylyn wedi bod ynghlwm mewn damwain wedi'i hachosi gan yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau. Roedd yn dda gweld swyddogion yr Uned Plismona Ffyrdd yn ymgysylltu gyda'r cyhoedd ac yn lledaenu'r neges y gall yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau ladd ac na oddefir hyn yng Ngogledd Cymru. Mae ymgyrchoedd fel hon yng Ngronant, ac mewn mannau eraill ledled y rhanbarth, yn cynorthwyo atgyfnerthu'r neges honno. Fi ydy Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf Gogledd Cymru i gael gwella diogelwch y ffyrdd yn addewid unigol yn fy nghynllun plismona a throsedd. Mae ymgyrch atal yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau yn enghraifft dda o'r addewid hon ar waith."
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Fel swyddogion, rydym yn frwdfrydig ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud. Gobeithio yr osgoir damweiniau ac yr achubir bywydau wrth i bobl gael eu harestio am yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau.
Drwy gydol yr ymgyrch, mae'r gefnogaeth gan y cyhoedd a busnesau lleol wedi bod yn gryf, gyda'r bobl hynny a stopiwyd yn cydnabod pwysigrwydd neges yr ymgyrch. Dywedodd yr Arolygydd Roberts fod yr Uned ddydd Sul diwethaf, yn ystod y cyfnod oer diwethaf, wedi bod yn Llanelwy yn stopio modurwyr. Gwnaeth y tîm yng Ngwesty'r Talardy ddod â diodydd poeth iddynt gadw'n gynnes. Roedd hwn yn rhywbeth a werthfawrogwyd gan swyddogion ac yn dangos y gefnogaeth gan fusnesau lleol am ymdrechion yr heddlu wrth gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel.
Dywedodd y Rhingyll Liam Ho: "Rydym yn gweld cynnydd yn y nifer o yrwyr sy'n yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau dros y Nadolig. Y rheswm yn rhannol rydym allan yn stopio pobl yn ystod y cyfnod hwn ydy oherwydd bod yn amlwg ac er mwyn rhwystro pobl, ond hefyd er mwyn ymgysylltu gyda'r cyhoedd. Nid ydy'r mwyafrif o bobl rydym yn siarad â nhw yn yfed a gyrru neu'n gyrru ar gyffuriau. Ond drwy ymgysylltu a nhw, mae'r bobl hynny rydym yn eu stopio yn gwybod ein bod yn fentrus. Efallai gwnânt ddweud wrth bobl eraill, a allai fod yn meddwl amdano a pheidio peryglu yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau'r Nadolig hwn. I mi, y neges ydy rhwystro. Mae ynghylch ceisio cael pobl i feddwl ‘A yw'n werth cymryd y risg?’ cyn iddynt fynd i gar."
Dilynwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn yr hashnodau #5Angheuol a #DoligMwyDiogel.
Os oes gennych wybodaeth yn ymwneud â rhywun y credwch sy'n yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau, hysbyswch yr heddlu amdano ar unwaith (neu 999 os ydynt yn achosi perygl arfaethedig) neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.