Skip to main content

Y CHTh yn ymweld â Chaernarfon er mwyn siarad hefo grwp ieuenctid cymuned LHDTQ+

Dyddiad

PCC visits GISDA

Ar 22 Ionawr, fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) ymweld â safle GISDA yng Nghaernarfon er mwyn cyfarfod hefo staff a phobl ifanc o'u Clwb Ieuenctid LHDTQ+. Roedd yno er mwyn siarad am gysylltiadau cymunedol hefo'r heddlu a phryderon ynghylch trosedd casineb.

Mae GISDA yn elusen a sefydlwyd yn 1985 sy'n rhoi help a chynnig dwys cyfleoedd i bobl ifanc bregus rhwng 14 a 25 oed yng Ngogledd Cymru.  ⁠Mae ganddyn nhw hefyd leoliadau ym Mhwllheli a Blaenau Ffestiniog. "Mae Clwb Ieuenctid GISDA yn chwarae rôl hanfodol wrth siapio'r dyfodol gan roi amgylchfyd cynorthwyol i bobl ifanc. Gwnaeth prosiect LHDTQ+ GISDA dderbyn gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Ngwobrau Cymunedol 2023 y CHTh fel cydnabyddiaeth o'r gwaith maen nhw wedi'i wneud hefo'r gymuned.

Dywedodd Catrin Watkins o GISDA: "Mae pobl ifanc o Gaernarfon yn delio hefo trosedd casineb yn aml. Ar ôl i mi ymchwilio pethau ymhellach, mi wnes i drefnu i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ddod i siarad hefo'r bobl ifanc fel bod ganddyn nhw'r cyfle i ddysgu mwy am warchod eu hunain a'r gallu i holi unrhyw gwestiynau sy'n berthnasol i drosedd casineb."

Yn ystod yr ymweliad i safle GISDA yng Nghaernarfon, fe wnaeth y bobl ifanc fynegi eu meddyliau a'u barn ar drosedd casineb yn y gymuned. Cafodd y CHTh gyfle i wrando'n drwyadl ar bryderon a phrofiadau'r bobl ifanc hefo'r heddlu a throsedd casineb. Roedd y bobl ifanc yn gallu lleisio eu barn yn hyderus y byddai'n cael ei gwrando mewn amgylchfyd saff. Drwy sgyrsiau cydweithredol, gwnaeth y bobl ifanc yn y clwb ieuenctid a'r CHTh greu syniadau amrywiol ar sut i greu cysylltiadau gwell rhwng yr heddlu a'r gymuned LHDTQ+ a sut i leihau trosedd casineb tuag at bobl ifanc yn y gymuned LHDTQ+. Trafododd y bobl ifanc a'r CHTh sut mae trosedd casineb yn effeithio eu bywyd o ddydd i ddydd a sut byddai derbyn help gan yr heddlu a dysgu sut i ddelio hefo trosedd casineb yn annog bywydau mwy cadarnhaol. Roedd y CHTh yn gallu rhoi gwybodaeth i'r bobl ifanc ar sut i gael help ar ôl profi trosedd casineb. ⁠Dangosodd ffigyrau llynedd fod trosedd casineb a gofnodwyd i lawr 12.9% ledled Gogledd Cymru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gan ddangos y gwaith cadarnhaol a wnaed hyd yma. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn bleser ymweld â Chlwb Ieuenctid LHDTQ+ GISDA yng Nghaernarfon. Roedd cael sgyrsiau cydweithredol a chyfnewid safbwyntiau hefo aelodau ifanc o'r clwb ieuenctid yn dangos pwysigrwydd lleihau trosedd casineb o fewn y gymuned. Mae gwaith GISDA yn hynod bwysig ac mae'r gwaith mae'n ei wneud yn hanfodol er mwyn gwella cymdeithas lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu."

Dywedodd PC Einir Williams o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd cyfarfod hefo'r bobl sy'n mynd i Glwb Ieuenctid GISDA yn brofiad hynod gadarnhaol ac addysgiadol. Roedd ymweld â GISDA yn gam hanfodol wrth ddod o hyd i ffyrdd o helpu ieuenctid a lleihau trosedd. Mae cyflwyno dealltwriaeth newydd yn hanfodol wrth annog newid cadarnhaol.  Yn ystod yr ymweliad, mi welais i unwaith eto pa mor bwysig ydy'r gymdeithas rhwng yr heddlu a phobl ifanc yn y gymuned. Mae hynny yn rhywbeth sy'n bwysig i bawb yn Heddlu Gogledd Cymru. Mae annog sgwrs agored a gweithredu didwylledd yn gamau allweddol tuag at greu ymddiriedaeth a chreu amgylchfyd saffach sy'n helpu'r gymuned LHDTQ+ yn fwy."