Skip to main content

Y Comisiynydd Heddlu A Throsedd yn canmol tîm chwilio ac achub am eu gwasanaeth ddydd a nos

Dyddiad

MonSar2

Ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â MonSar yn eu man hyfforddi ym Mhentraeth ar ddydd Mawrth 7 Mehefin er mwyn dysgu mwy am y sefydliad a chyflwyno medalau’r Jiwbilî Platinwm i'w gwirfoddolwyr am eu gwaith ymroddedig ar ran y gwasanaethau brys.

Mae MonSar yn sefydliad gwirfoddol o 35 aelod a dyma dîm Chwilio Iseldir cyntaf Cymru a'r unig un hefyd.  Mae'n chwilio am bobl fregus sydd ar goll ac mae ei weithwyr di-dâl yn cyflawni'r gwasanaeth hwn bob dydd o'r flwyddyn.

Yn ystod yr ymweliad, hysbyswyd Andy Dunbobbin sut y gelwir y tîm allan gan Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am unigolion coll 'risg uchel', a all fod mewn perygl o hunanladdiad, ar goll neu wedi anafu neu sydd efallai â dementia neu broblemau iechyd meddwl. 

Sefydlwyd y tîm yn 2018 er mwyn ateb y galw cynyddol a roddir ar Dimau Achub Mynydd yr Heddlu.

Ymysg y mathau cyffredin eraill o ddigwyddiadau mae MonSar yn ymdrin â nhw mae cynorthwyo ambiwlansys a chasglu cyrff.

Hyd yma, mae MonSar wedi ymdrin â 65 digwyddiad ers ei gychwyniad ac mae ei wirfoddolwyr wedi ymroi dros 10,000 o oriau'r flwyddyn ar ei ymdrechion chwilio ac achub ledled Gogledd Cymru.

Roedd Andy Dunbobbin yno hefyd i gyflwyno medalau’r Jiwbilî Platinwm i bump o'u gwirfoddolwyr. Gwobr oedd hon i'r rhai hynny sydd â thros bum mlynedd o weithio yn y sector gwasanaethau brys.

MonSar1

Ymysg y derbynwyr oedd:

  • Noel Kerr – rheolwr chwiliadau
  • John Dolan – ymgynghorydd meddygol
  • Allen Ince – aelod o'r tîm achub
  • Isabel Hargreaves – hyfforddwr iechyd meddwl/diogelu
  • Nina Roberts – arweinydd diogelu

Mae'r sefydliad gyda fflyd lawn o gerbydau brys, gyda llawer yn hen faniau heddlu sydd wedi'u haddasu er mwyn bodloni anghenion eu gwasanaeth.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roedd yn fraint ymweld â  man hyfforddi MonSar ym Mhentraeth er mwyn gwybod mwy am eu gwaith a chyflwyno medalau Jiwbilî Platinwm i'w gwirfoddolwyr am eu gwaith caled.

"Cefais y cyfle i gyfarfod eu gwirfoddolwyr a chael dealltwriaeth o sut maent yn gweithio, o sut mae galwadau cychwynnol yn cael eu derbyn, i'r broses gynllunio a'r ymgyrch chwilio gyffredinol. 

"Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn amlygu'r angen i gynorthwyo cymunedau a chyflawni cymdogaethau diogelach. Mae sefydliadau fel MonSar yn enghraifft wych o'r amcanion hyn ar waith yn y ffordd maent yn darparu gwasanaeth achub i'r rhai hynny gyda phroblemau iechyd meddwl neu'r rhai hynny sydd fwyaf bregus mewn cymdeithas.

Mae fy niolch yn mynd i'r tîm ac rwyf yn llongyfarch y rhai dderbyniodd medalau’r Jiwbilî Platinwm.

Dywedodd Huw Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli ac Arweinydd Tîm MonSar: "Roedd yn fraint gennym yn MonSar i groesawu'r Comisiynydd i'n cyfarfod ni ym Mhentraeth.  Rhoddodd y cyfle i ni egluro'r gwaith rydym yn ei wneud a sut mae ein gwasanaeth yn hanfodol i Ogledd Cymru. 

"Daw ein gwirfoddolwyr o bob cefndir, ac mae gan bob un rhywbeth unigryw i'w gynnig. Mae ein tîm yn cynnwys cyn-barafeddyg, athro seicoleg wedi ymddeol a dau swyddog heddlu hyd yn oed. Felly mae hyn yn dangos pa mor sgilgar ydy gwirfoddolwyr MonSar wrth ymdrin â'r digwyddiadau rydym yn eu hwynebu. 

"Gwnaethom sefydlu MonSar yn 2018 er mwyn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru gydag ymgyrchoedd chwilio ac achub ac mae'r adborth gan yr heddlu wedi bod yn gadarnhaol.

"Mae cael y Comisiynydd yn rhannu medalau'r Jiwbilî Platinwm i'n gwirfoddolwyr heddiw yn dystiolaeth o'r gwaith caled a'r ymroddiad a gyflawnir gan ein tîm."