Skip to main content

Y Comisiynydd yn annog trigolion Gogledd Cymru i ddweud eu dweud ar sut mae’r heddlu yn cael ei ariannu

Dyddiad

Andy Dunbobbin

Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gofyn i bobl Gogledd Cymru i ddweud eu barn ar faint o arian maent yn barod i dalu am blismona fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ac arolwg.

Yn ogystal â mynegi eu barn ar y newidiadau i'r swm a delir i blismona, gall trigolion hefyd ddweud pa flaenoriaethau y maent eisiau gweld Heddlu Cymru yn ymdrin â nhw.  Bydd yr arolwg hefyd yn rhoi'r cyfle iddynt roi eu barn ar blismona yn eu cymunedau eu hunain yn gyffredinol.  Gellir llanw'r arolwg barn ar-lein ac mae copïau papur o'r arolwg, yn Gymraeg a Saesneg, hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd a gorsafoedd heddlu ledled Gogledd Cymru. Gallwch hefyd gael yr arolwg mewn fformat Darllen Hawdd.

Daw dros hanner yr arian ar gyfer cyllid yr heddlu yng Ngogledd Cymru o Lywodraeth y DU a daw'r gweddill oddi wrth Dreth y Cyngor. Mae'r swm yn dibynnu ar y praesept a osodir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Bydd Mr Dunbobbin yn gwneud y cynnig i'r Panel Heddlu a Throsedd i osod lefel o braesept mewn cyfarfod ar 30 Ionawr 2023.

Y llynedd cytunodd y panel i 3.68% o gynnydd a oedd yn i £11.25 o gynnydd y flwyddyn yng nghost treth y cyngor. Eleni, byddai 5.68% sy'n cyfateb i 35 ceiniog yr wythnos (neu £18 y flwyddyn) yn galluogi'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyflwyno cyllideb gytbwys, a hefyd parhau i gyllido gwasanaethau sy'n bodoli eisoes heb doriadau.

Mae gan y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd. Maent yn gosod blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru drwy'r Cynllun Heddlu a Throsedd. Maent i benderfynu'r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, sy'n cynnwys gosod lefel argymhelledig y braesept i'r Panel Heddlu a Throsedd ei chymeradwyo. Maent i wrando ac ymateb i farn y cyhoedd ar blismona a dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol am gyflawniad yr Heddlu.

Drwy'r arian a godir drwy Dreth y Cyngor mae CHTh hefyd yn rhoi cyllid i wasanaethau ledled Gogledd Cymru. Mae'r Gwasanaethau a Gomisiynir hyn yn gwneud gwaith gwerthfawr o fewn ein cymuned i gynorthwyo dioddefwyr trosedd a chynorthwyo troseddwyr i leihau aildroseddu. Enghreifftiau'r o'r gwasanaethau hyn ydy Checkpoint Cymru, sy'n anelu at ymdrin ag achosion sylfaenol ymddygiad troseddol fel iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a rhoi dewis amgen credadwy i erlyniad; a gwasanaethau fel DASU, RASASC a Gorwel sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais yn erbyn merched a genethod.

Mae Mr Dunbobbin yn gobeithio codi digon o arian gyda'r praesept i helpu Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â'r cynnydd yn y galw am wasanaethau sydd wedi eu hachosi gan argyfwng costau byw a sgil effeithiau'r pandemig, ond mae hefyd yn ymwybodol o'r pwysau y mae cartrefi'r ardal yn dioddef.

Dywedodd y Comisiynydd: “Dw i'n gwybod pa mor galed mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod i bobl a chymunedau ar draws Gogledd Cymru ac rydym yn edrych tuag at 2023 gan boeni am y dyfodol i'n ffrindiau, teuluoedd a'r bunt yn ein poced.

"Ond mae plismona effeithiol ac amlwg wrth galon cymuned ddiogel ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i'w hariannu gystal ag y gallwn. Rydym wedi nodi ble y gall arbedion gael eu gwneud yn y modd y mae Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu ac rydym yn gofyn i bobl Gogledd Cymru ein helpu ni drwy lenwi arolwg a gadael i bobl wybod faint y maent yn fodlon talu i barhau i ariannu gwasanaethau plismona hanfodol y mae pawb yn dibynnu arnynt."

Mae'r arolwg yn lansio ar 5 Rhagfyr 2022 ac yn cau ar 11 Ionawr 2023.

Dylai trigolion ymweld â www.northwales-pcc.gov.uk yn ystod y cyfnod ymgynghori a llenwi arolwg byr er mwyn i'w lleisiau gael eu clywed. Fel arall, er mwyn derbyn copi papur drwy'r post, cysylltwch â ni drwy'r ffyrdd canlynol:

E-bost: OPCC@northwales.police.uk 

Ffôn: 01492 805486

Cyfeiriad: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu. Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW