Skip to main content

Y cyflwynydd teledu Ruth Dodsworth yn siarad am gyn-bartner oedd yn ei cham-drin gan annog dioddefwyr eraill i rannu eu profiadau

Dyddiad

TV presenter Ruth Dodsworth speaks out on abusive ex  to urge other victims of crime to share their experiences

Gall dioddefwyr troseddau gwblhau’r arolwg drwy fynd i: surveymonkey.co.uk/r/W7FQ9C6 a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw dydd Llun, Chwefror 28.


Mae’r gyflwynwraig tywydd teledu, Ruth Dodsworth, wedi siarad am ei phrofiad dirdynnol o gam-drin domestig er mwyn annog dioddefwyr gogledd Cymru i gymryd rhan mewn arolwg newydd.

Dioddefodd y ddarlledwraig sy’n gweithio i ITV Cymru flynyddoedd o aflonyddu a stelcio yn ystod ei phriodas 18 mlynedd â Jonathan Wignall, a’i gwelodd yn cael ei rheoli’n ariannol, ei hynysu oddi wrth ffrindiau a’i theulu a “byw mewn ofn cyson”.

Cafodd ei chyn-ŵr ei garcharu am dair blynedd yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Ebrill y llynedd a chyhoeddwyd gorchymyn cyfreithiol i’w atal rhag cysylltu â Ruth ar ôl iddo bledio’n euog i gyhuddiad o reoli ymddygiad, aflonyddu a stelcio.

Mae’r fam i ddau o blant bellach yn defnyddio ei phrofiadau er mwyn helpu’r heddlu i wella’r ffordd y maent yn delio ag achosion o gam-drin gan annog dioddefwyr cam-drin domestig a throseddau eraill i rannu eu barn mewn arolwg newydd.

Mae’r arolwg barn ar-lein wedi’i lansio gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin fel rhan o adolygiad mawr o’r gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr troseddau.

Cyn ei ethol, addawodd y Comisiynydd Trosedd sefydlu Panel Dioddefwyr newydd i roi mwy o lais i oroeswyr ar y gofal a’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn yn ystod eu taith i gyfiawnder.

Mae hefyd yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throsedd Mr Dunbobbin sy’n gosod y cynllun cyffredinol y mae’n ofynnol i Heddlu Gogledd Cymru ei ddilyn.

Y bwriad yw helpu’r Comisiynydd i ddeall profiadau goroeswyr yn well er mwyn adnabod ffyrdd o wella’r ymateb i ddioddefwyr yn y dyfodol.

Mae’r arolwg bellach yn fyw ac mae gan ddioddefwyr tan ddydd Llun, Chwefror 28, i’w gwblhau.

Dywedodd y newyddiadurwr a’r cyn-ymchwilydd radio, Ruth: “Mae’n bwysig ein bod yn codi llais – mae gennym lais ac mae angen i ni ei ddefnyddio i helpu eraill.

“Os gall ein profiad helpu dim ond un person arall i adnabod eu sefyllfa neu fod yn ddigon dewr i ddod ymlaen, yna mae’n werth chweil.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cael y sgyrsiau hynny am beth sydd wedi gweithio’n dda a beth sydd ddim wedi gweithio cystal. Mae angen i ni gefnogi ein gilydd.

“Ni all unrhyw beth fod mor frawychus â’r profiad rydym eisoes wedi bod drwyddo. Gadewch i ni ddefnyddio hynny. Fedrwn ni ddim newid beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ond gallwn newid yr hyn allai ddigwydd yn y dyfodol, trwy ddefnyddio ein llais fel ffordd o herio pethau er gwell. Mae hynny’n rhywbeth pwerus iawn.”

Priododd Ruth ei chyn-bartner yn 2002, flwyddyn ar ôl iddynt gyfarfod. Cynyddodd ei ymddygiad rheoli dros amser ond dywed mai ond yn awr, wrth edrych yn ôl, y gall hi adnabod yr arwyddion oedd yno erioed.

“Roedd yno bob arwydd o reoli ymddygiad – roedd yn ticio pob blwch. Doedd gen i ddim arian. Roedd gen i lwfans arian cinio oherwydd roedd yn teimlo pe bai gen i fynediad at arian y gallwn fynd allan a chael cariadon eraill.

“Mae’r cyfan yn ymwneud â’r rheolaeth yna. Fedrwch chi ddim mynd allan. Mae’n rhaid i chi gael eich gwallt mewn steil arbennig a fedrwch chi ddim siarad â rhai pobl. Doeddwn i ddim yn cael siarad â ffrindiau oherwydd ei fod yn teimlo eu bod nhw’n fygythiad iddo.

“Cynigiodd dalu fy mhlant i fynd trwy fy ffôn symudol. Mi wnes i ddeffro ganol nos ac roedd yn gafael yn fy mawd ac yn ei bwyso ar fy Iphone er mwyn gallu mynd i mewn i fy ffôn symudol. Byddai’n dileu cysylltiadau o fy llyfr cyfeiriadau.

“Treuliais y rhan fwyaf o fy mywyd gydag ef yn cerdded ar wyau. Rydych chi’n byw mewn ofn parhaus oherwydd dydych chi byth yn gwybod pryd y mae’r ddadl nesaf yn mynd i ddigwydd. Yn amlach na pheidio roedd yn gorfforol.

“Roedd alcohol yn ffactor mawr yn ymddygiad Jonathan – fe gyfrannodd at sefyllfa Jekyll a Hyde. Gallai newid ei hwyliau ar hap.

“Dw i’n newyddiadurwr ac roeddwn i wedi rhoi sylw i straeon fel hyn ond doeddwn i ddim yn gallu adnabod yr arwyddion yn fy mherthynas fy hun. Doeddwn i ddim yn gallu cydnabod ei fod yn rheoli fy ymddygiad a bod hynny’n drosedd. Roedd yn dipyn o daith.”

Mae Mr Dunbobbin yn gobeithio y bydd geiriau grymus Ruth yn annog dioddefwyr eraill i ddod ymlaen i gwblhau’r arolwg a helpu i wella’r gefnogaeth i ddioddefwyr eraill sy’n mynd drwy’r system.

“Mae gwrando ar brofiadau Ruth o gamdriniaeth yn peri gofid mawr a gallaf ond ganmol ei dewrder wrth rannu ei stori bersonol er mwyn helpu dioddefwyr troseddau eraill,” meddai.

“Mae popeth rydw i’n ei wneud fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar amddiffyn dioddefwyr troseddau a sicrhau bod eu gofal a’u hanghenion yn cael eu diwallu yn y ffordd orau bosibl.

“Rwyf eisiau dysgu beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei wella a byddwn yn annog pawb sydd wedi dioddef trosedd i’m helpu drwy gwblhau’r arolwg hwn. Mae eich barn yn wirioneddol bwysig a gall wneud gwahaniaeth i’r gwasanaethau a ddarparwn i bobl fregus yn y dyfodol.”

Mae Ruth, 46 oed, yn fam i ddau o blant, Grace, 18 oed, a Jack 16 oed, wedi ailbriodi yn ddiweddar ac yn mwynhau bywyd unwaith eto.

Mae’n falch o allu defnyddio ei phrofiad er budd dioddefwyr eraill ac mae’n parhau i gefnogi Heddlu De Cymru, ochr yn ochr â’i merch Grace, fel rhan o’u rhaglen hyfforddi er mwyn helpu swyddogion heddlu i adnabod arwyddion o gam-drin emosiynol neu gorfforol.

“Nid yw perthynas gamdriniol yn debyg i leoliad trosedd nodweddiadol - efallai nad oes corff ar y llawr. Mae’n golygu darllen rhwng y llinellau,” meddai.

“Pan ddaeth swyddogion heddlu i fy nhŷ, ar yr wyneb roedd yn edrych fel cartref hyfryd. Mi wnaethon nhw ddarllen rhwng y llinellau a sylweddoli bod hon yn fwy na dadl arferol rhwn gŵr a gwraig.

“Pe bai’r ddau swyddog yna wedi cerdded i ffwrdd a dim ond dweud wrtho am roi trefn ar ei hun, fe fyddai wedi fy lladd. Fe wnaeth eu gweithredoedd nhw achub fy mywyd.

“Doeddwn i ddim yn ymddiried yn neb. Doeddwn i ddim wir yn adnabod na deall y sefyllfa fy hun. Mae’n anodd iawn estyn allan at bobl mewn sefyllfa fel yna. Roeddwn i’n teimlo y byddai hynny fel cyfaddef fy mod wedi methu. Ond os siaradwch chi, a dysgu ac addysgu, yna bydd pawb ohonom yn dod i wybod mwy am y pethau hyn.”

Mae’r cyflwynydd teledu yn annog dioddefwyr troseddau eraill i ddod ymlaen a helpu i gymell newid.

“Siaradwch a rhowch eich adborth, siaradwch am eich profiadau chi - mae’n un cam i wneud y byd yn lle gwell i bawb ohonom,” meddai.

“Rwyf wedi cael cannoedd ar filoedd o negeseuon. Mae cymaint o bobl wedi dweud wrthyf eu bod yn adnabod eu hunain yn fy stori ac yn gweld beth yw cam-drin domestig a rheoli ymddygiad. Mae’r ymateb wedi bod yn enfawr ac yn anhygoel. Gall unrhyw un gael ei hun mewn perthynas lle maen nhw’n cael eu cam-drin ac mae hynny’n ddychrynllyd.

“Defnyddiwch eich llais a’ch profiad i geisio troi amser ofnadwy yn rhywbeth positif. Doeddwn i byth eisiau bod yn rhywun ar boster oherwydd diflastod. Rydw i eisiau bod ar boster oherwydd fy mod i’n rhywun sydd wedi cael profiad eithaf erchyll ond sydd wedi mynd ymlaen i gael bywyd gwych.”

Gall dioddefwyr troseddau gwblhau’r arolwg drwy fynd i: surveymonkey.co.uk/r/W7FQ9C6 a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw dydd Llun, Chwefror 28.