Skip to main content

Y Panel Heddlu a Throsedd yn cymeradwyo'r praesept ar gyfer 2023-24

Dyddiad

Andy Dunbobbin

30/1/23: Mewn cyfarfod y prynhawn yma ym Modlondeb, Conwy, gwnaeth Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gymeradwyo cynnig Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, am gynnydd cyfradd is na chwyddiant yn y praesept plismona. Mae hyn yn golygu cynnydd o 5.14% yn y dreth gyngor ar gyfer eiddo band D ers llynedd (mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 31c yr wythnos, neu £16.29 yn flynyddol) ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

Mae'r Panel Heddlu a Throsedd yn gorff sy'n cynnwys deg cynghorydd ledled Gogledd Cymru a thri aelod annibynnol cyfetholedig. Mae'n craffu gwaith y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Wedi i'r Panel gytuno, daw'r cynnydd i rym o fis Ebrill 2023. 

Daw dros hanner yr arian ar gyfer cyllid yr heddlu yng Ngogledd Cymru o Lywodraeth y DU a daw'r gweddill oddi wrth Dreth y Cyngor. Mae'r swm yn dibynnu ar y praesept a osodir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Gwnaiff y cynnydd yn y praesept ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gynorthwyo i ariannu sawl rôl a menter fel rhan o brif flaenoriaethau'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae hyn yn cynnwys swyddi yn y ddalfa, yn swyddfa'r crwner, cymorth gwyddonol a sicrhau fod y data mae'r heddlu'n ei ddefnyddio mor gadarn â phosibl. Bydd meddalwedd fforensig hefyd yn cael ei uwchraddio fel rhan o'r newidiadau a ragwelir. Fel tystiolaeth bellach o ymdrechion i gynyddu amlygrwydd yr Heddlu, crëir chwe rôl Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) ychwanegol. Daw hyn ar ôl i 10 rôl gael eu hariannu gan y CHTh yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Dywedodd John Williams, Cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r Panel Heddlu a Throsedd, wedi cyflawni ei ddyletswydd statudol o graffu cynnig praesept y Comisiynydd Heddlu, wedi cytuno bod y cynnydd arfaethedig yn y praesept wedi'i gyfiawnhau. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon yng Ngogledd Cymru."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch i'r Panel Heddlu a Throsedd am gytuno i fy nghynnig am gynnydd is na chwyddiant yn y praesept plismona. Rwyf yn gwybod eu bod mor ymwybodol â mi am y pwysau mae'r cyhoedd oddi tano rŵan oherwydd yr argyfwng costau byw. Roedd y ffaith hon bennaf yn fy meddwl wrth i mi benderfynu faint o gynnydd i'w gynnig. 

"Mae cydbwysedd anodd ei daro rhwng sicrhau ein bod yn rhoi'r lefel iawn o ariannu er mwyn cynorthwyo cadw pobl Gogledd Cymru yn ddiogel, wrth hefyd sicrhau fod pobl yn gweld gwerth am eu harian. ⁠Rydym hefyd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gyflwyno cyllideb gytbwys, wrth hefyd sicrhau ein bod yn cadw niferoedd swyddogion heddlu a SCCH yn y DU a lefelau mandadol Llywodraeth Cymru. Felly, ni fyddai cynnig cynnydd, neu hyd oed toriad yn y praesept, wedi bod yn opsiwn i ni, gan na fyddem ni wedi gallu cyflawni ein rhwymedigaethau."

"Rwyf eisiau sicrhau'r cyhoedd y byddaf yn gweithio'n galed gyda'r Prif Gwnstabl a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau fod yr agweddau hynny o blismona mae pobl wedi dweud wrthyf eu bod eisiau gweld mwy ohono yn cael eu gweithredu yn y misoedd i ddod. Y rhain ydy presenoldeb mewn cymunedau, canolbwyntio ar drosedd yng nghefn gwlad, ymdrin ag achosion gwreiddiol trosedd, a chymell effeithlonrwydd yn yr Heddlu."