Skip to main content

Ymgyrch “Gan Bwyll Rhag Twyll” CHTh Gogledd Cymru

Dyddiad

Take care of what you share

Mae rhannu gwybodaeth a barn ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth y mae pobl yn gwneud yn ddyddiol. Yn aml iawn mae'r cynnwys yn hollol ddiniwed, ond mae'n bwysig bod pobl yn cymryd amser i feddwl cyn eu bod yn rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn wir.

Dyna'r neges gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Heddlu Gogledd Cymru Andy Dunbobbin, sy'n cefnogi'r ymgyrch 'Gan Bwyll Rhag Twyll” a lansiwyd fis Hydref 2023 gan CHTh Heddlu Glannau Mersi, Emily Spurrell mewn partneriaeth gyda chynghorwyr lleol yn ardal Glannau Mersi.

Wrth lansio'r ymgyrch yng Ngogledd Cymru mae'r trigolion lleol nawr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus wrth gael gwybodaeth ar y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol ac i gofio nad yw popeth sy'n ymddangos fel ffeithiau yn wir.  Mae'r ymgyrch ‘Gan Bwyll Rhag Twyll' yn cynghori pobl i ddilyn ychydig o gamau cyn rhannu unrhyw gynnwys neu wybodaeth ar-lein:

Ffynhonnell – Ydy'r wybodaeth yn dod o ffynhonnell ddibynadwy? Ai'r person a wnaeth anfon y wybodaeth atoch yw sail y wybodaeth?  Os nad, pwy yw'r sail? Ydych chi'n eu hadnabod nhw? Ydych chi'n gallu ymddiried ynddynt? Gall gwirio'r pethau hyn eich helpu i benderfynu os yw'r ffynhonnell yn ddibynadwy.

Pennawd - Darllenwch y tu hwnt i'r pennawd bob tro - nid yw'r stori lawn bob amser yn cael ei hadrodd. Gwiriwch y dyddiad a darllenwch yr erthygl at y diwedd cyn eich bod yn eu rhannu gyda theulu a ffrindiau.

Dadansoddwch - Os yw rhywbeth yn swnio'n anghredadwy, mae'n bosib ei fod o. Peidiwch â thybio bod rhywbeth yn ffaith oherwydd ei fod wedi ei gyhoeddi ar-lein. Gall unrhyw un roi gwybodaeth ar-lein ac nid yw pawb yn rhannu gwybodaeth am reswm da.

Ailgyffwrdd - Ydy'r ddelwedd neu'r fideo yn edrych fel tasai wedi cael ei newid? Efallai ei fod wedi cael ei olygu neu ei fod yn dangos lle neu ddigwyddiad sydd heb unrhyw gysylltiad.

Gwall - Chwiliwch am gamgymeriadau - gwallau teipio, camgymeriadau sillafu neu bethau disynnwyr - gall y rhain i gyd ddangos bod y wybodaeth yn ffug. Bydd cyfarwyddid swyddogol neu bethau sy'n cael eu rhannu gan ffynonellau fel yr Heddlu neu'r awdurdod lleol wedi cael ei wirio'n ofalus ac felly ni fydd gwallau yn ymddangos ar eu datganiadau.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Dau o fy mhrif addewidion fel CHTh yw creu cymdogaethau mwy diogel a chefnogi dioddefwyr, ac mae gwybodaeth ffug a chamarweiniol yn aml yn rhannu cymdeithas ac yn brifo pobl.

"Dw i'n edmygu'r ymgyrch 'Gan Bwyll Rhag Twyll' gan CHTh Glannau Mersi, Emily Spurrell a dw i'n gweld mantais o atgoffa trigolion lleol yng Ngogledd Cymru nad yw popeth ar-lein yn wir a bod rhannu gwybodaeth ffug a chamarweiniol yn gallu bod yn niweidiol. Mae lledu'r neges yma yng Ngogledd Cymru hefyd yn dangos drwy gydweithio gyda'n cymdogion yng Ngogledd-Orllewin Lloegr gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd i helpu gwneud ein cymunedau yn fwy diogel." 

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Glannau Mersi, Emily Spurrell: “Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn bodoli yn ein bywydau ni i gyd ac mae'n ffordd bwysig o gyfathrebu a chael gwybodaeth o bedwar ban byd.

“Dyna pam mae'n bwysig deall effaith camwybodaeth, yn arbennig cynnwys maleisus sy'n cael ei gyflwyno fel ffaith. Gall rhannu gwybodaeth, yn ddiniwed yn aml,  ar-lein, ledaenu yn gyflym a gall fod yn niweidiol iawn i unigolion a chymunedau.

“Mae gan bawb gyfrifoldeb i atal sibrydion niweidiol rhag lledu, felly dw i'n falch bod yr ymgyrch "Gan Bwyll Rhag Twyll" yn digwydd yng Ngogledd Cymru, diolch i CHTh Andy Dunbobbin. Gyda'i gefnogaeth, gallwn annog mwy o bobl i fod yn fwy gofalus o'r hyn maent yn rhannu ar-lein a meddwl ddwywaith cyn cael eu dylanwadu gan rywbeth nad ydynt yn gwybod sy'n ffaith."

Ychwanegodd DC Roheryn Evans, Tîm Troseddau Seiber, Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau ac anwyliaid, bod yn rhan o grwpiau cymunedol a dilyn pynciau sydd yn ein diddori. Gellir rhannu hysbysiadau o bob math o ffynonellau sy'n gwneud pob math o honiadau yn ymwneud â throseddau, materion cyfoes, gwleidyddiaeth a materion eraill y mae llawer o bobl yn teimlo'n gryf amdanynt, a gall nifer o'r honiadau hyn fod yn anghywir.  Rhaid bod yn wyliadwrus o abwyd clicio hefyd. Peidiwch â chael eich twyllo gan bennawd bachog neu lun trawiadol. Cofiwch - gall rhywun fod yn gwneud arian oherwydd eich clicio, neu yn rhannu gwybodaeth ar gyfer pwrpas arall, felly byddant yn ceisio gwneud eu hysbysiadau mor ddeniadol â phosib.  Mae'n bwysig meddwl yn ddeallus ac ystyried sail y wybodaeth yr ydych yn ddarllen ac i ddilyn y cyngor "Gan Bwyll Rhag Twyll"!

"Mae'n bwysig riportio pan fydd eich cyfrif yn cael ei hacio gan y bydd yr Heddlu o bosib yn gallu eich helpu i'w gael yn ôl.  Os gallwn helpu i chi gael mynediad yn ôl i'ch cyfrif, efallai y bydd hynny yn gallu atal rhywun rhag cael eu twyllo yn ddiweddarach.

Mae'r ymgyrch yng Ngogledd Cymru yn cynnwys ystod o asedau cyfryngau cymdeithasol dwyieithog yn atgoffa pobl o'r neges y tu ôl i "Gan Bwyll Rhag Twyll".

Am fwy o wybodaeth a chyngor ar sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd ac aros yn ddiogel ar-lein ewch i: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/Twyll/twyll/twyll-ar-lein-seiberdroseddu/seiberdroseddu

Neu ewch i Get Safe Online, sef un o'r prif ffynonellau gwybodaeth ddiduedd, ffeithiol a hawdd i'w ddeall yn y DU sy'n sicrhau diogelwch ar-lein: https://www.getsafeonline.org/wales/personal/article-category/rhwydweithio-cymdeithasol