Dyddiad
Wrth i fyfyrwyr ddechrau eu tymhorau newydd mewn colegau a phrifysgolion ar draws Gogledd Cymru, mae Get Safe Online – gwasanaeth a gomisiynwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol hefo pobl yr ardal – yn lansio ymgyrch 'Myfyrwyr Mwy Diogel' er mwyn annog y rhai mewn addysg i gadw'n ddiogel ar-lein.
Pan mae myfyrwyr yn mynd i'r brifysgol neu'r coleg, mae'n ymddangos fod popeth ar-lein – hyd yn oed yn fwy felly nag yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae bod ar-lein yn golygu bod angen iddynt fod hyd yn oed yn fwy gofalus wrth osgoi'r gwahanol niwed y gall pobl eu hwynebu ar y rhyngrwyd bob dydd. Mae Get Safe Online wedi llunio rhai awgrymiadau gwych ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau ym mis Medi.
Awgrymiadau Get Safe Online i fyfyrwyr:
- Peidiwch â dioddef twyll – gall negeseuon testun, negeseuon e-bost, negeseuon uniongyrchol, a galwadau twyllodrus sy'n honni eu bod yn fanciau, darparwyr benthyciadau myfyrwyr, CThEM a sefydliadau dibynadwy eraill ddigwydd.
- Gwiriwch yn bersonol bod y fflat neu'r ystafell y mae myfyrwyr wedi'i weld yn bodoli mewn gwirionedd, a gwnewch yn siŵr bod yr hysbysebwr yn ddilys cyn talu unrhyw arian. Os yn bosibl, talwch flaendaliadau ac unrhyw daliadau ymlaen llaw eraill ar gerdyn credyd am warchodaeth ychwanegol.
- Meddyliwch ddwywaith cyn clicio ar ddolenni neu atodiadau neu ganiatáu galwyr gael mynediad at declynnau neu gyfrifon.
- Cadwch fanylion bancio a manylion ariannol eraill yn breifat, a gwnewch drosglwyddiadau arian yn ddiogel trwy waled symudol neu ap bancio.
- Os ydy rhywun yn prynu oddi ar wefan neu'n tanysgrifio iddi am y tro cyntaf, dylen nhw wirio a ydy hi'n debygol o fod yn ddilys neu'n dwyllodrus trwy ddefnyddio'r offeryn 'Check a Website' ar www.getsafeonline.org
- Dylech osgoi talu unigolyn neu gwmni nad ydych yn ei adnabod trwy drosglwyddiad banc am bethau fel pryniannau, blaendaliadau am lety a ffioedd. Mae defnyddio cerdyn yn fwy diogel.
- Dylai pobl gadw manylion ariannol a chyfrinachol eraill yn breifat, yn ogystal â chyfrineiriau a manylion mewngofnodi eraill.
- Edrychwch eto ar osodiadau lleoliad ar ffonau, camerâu ac apiau er mwyn helpu gwarchod diogelwch corfforol. Osgowch roddion a rafflau sy'n gofyn am ddata cyfrinachol. A chofiwch y gall delweddau personol a rennir yn ddiniwed syrthio i'r dwylo anghywir.
- Nid oes lle ar-lein ar gyfer unrhyw fath o gam-drin, iaith casineb, trais ar sail rhywedd, gorfodi safbwyntiau ar bobl eraill neu weithgarwch troseddol.
- Mae myfyrwyr yn hoff dargedau ar gyfer cynllwynion gwneud arian sydyn anghyfreithlon, fel swyddi hefo cyflog sy'n rhy dda i fod yn wir neu gynlluniau eraill sy'n defnyddio cyfrifon banc er mwyn 'prosesu taliadau'. Os bydd rhywun yn cael eu twyllo – hyd yn oed yn ddiniwed – fe allen nhw gael cofnod troseddol, dirwy neu dymor yn y carchar.
- Teclynnau symudol a Wi-Fi – gwarchodwch ffonau, gliniaduron a llechi rhag colled neu ladrata. Os ydy'r hyn y mae rhywun yn ei wneud ar-lein pan fyddan nhw hwnt ac yma yn gyfrinachol neu'n ariannol, dylen nhw osgoi defnyddio llecynnau Wi-Fi gan nad oes unrhyw sicrwydd eu bod yn ddiogel.
Dywedodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online: "Pan fydd myfyrwyr yn dechrau yn y brifysgol, mae bywyd yn sydyn yn dod yn llawer prysurach, ac efallai na fydd sicrhau eich bod yn ddiogel ar-lein ar frig eich rhestr. Fodd bynnag, mae'n bwysig aros yn wyliadwrus, a dyna pam 'da ni wedi lansio ymgyrch Myfyriwr Mwy Diogel y mis hwn. Darllenwch ein hawgrymiadau arbenigol ar wefan Get Safe Online er mwyn gwneud yn siŵr bod eich bywyd prifysgol mor saff ar-lein â phosibl."
Dywedodd PC Dewi Owen o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru: "Wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i'r coleg neu'r brifysgol, gallan nhw fod yn hynod fregus i dwyll a gallan nhw gael eu targedu gan droseddwyr neu dwyllwyr. Yn ôl Action Fraud cafodd 68,956 o adroddiadau o dwyll eu gwneud gan fyfyrwyr a phobl ifanc yn 2023 sy'n cyfateb i golledion dros £128 miliwn. Yng Ngogledd Cymru yn unig, dywedodd 509 o fyfyrwyr neu bobl ifanc eu bod wedi dioddef twyll hefo cyfanswm y colledion yn £705,512.
"Mae rhai o'r mathau mwyaf cyffredin o dwyll a adroddir gan fyfyrwyr a phobl ifanc yn cynnwys twyll rhentu, twyll siopa ar-lein, twyll swydd ffug, twyll tocynnau a rhyw. Wrth i'r tymor a'r cyrsiau ddechrau, dilynwch yr awgrymiadau a'r cyngor i gadw'n saff!"
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae gan ogledd Cymru boblogaeth fawr o fyfyrwyr, o'r rhai sy'n astudio yn ein prifysgolion o'r radd flaenaf ni ym Mangor a Wrecsam i'r nifer o golegau a chanolfannau addysg bellach ac uwch mewn trefi a phentrefi ar draws y rhanbarth. 'Da ni gyd yn elwa o'r wybodaeth a'r bywiogrwydd y maen nhw yn eu cynnig i'n cymunedau ni.
"Ond, ymhlith y setlo i mewn a gwneud ffrindiau newydd, mae angen i fyfyrwyr hefyd fod yn wyliadwrus am y peryglon y gallan nhw eu hwynebu ar-lein, er enghraifft gan sgamwyr, hysbysebion ffug a'r rhai a allai fod eisiau defnyddio eu data at y dibenion anghywir.
"Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, fy ngwaith i ydy cynrychioli a gofalu am bob rhan o'r gymuned. Byddwn ni'n cynghori myfyrwyr gymryd sylw o'r awgrymiadau pwysig yn ymgyrch Myfyrwyr Mwy Diogel Get Safe Online fel eu bod nhw'n parhau bod yn saff ac nad ydyn nhw'n dioddef trosedd."
Am gyngor ac awgrymiadau pellach, ewch ar: www.getsafeonline.org
Riportiwch negeseuon e-bost amheus drwy eu hanfon nhw at: report@phishing.gov.uk
Riportiwch negeseuon testun amheus neu alwadau sbam yn rhad ac am ddim at: 7726
Hanes Get Safe Online
Mae Get Safe Online yn adnodd rhyngwladol awdurdodol ac uchel ei barch sydd wedi'i gynllunio er mwyn helpu unigolion a busnesau bach aros yn saff ac yn hyderus wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd. Mae'r wybodaeth a'r cyngor a ddarperir wedi'i gynllunio i fod yn deg, ymarferol ac yn hawdd i'w dilyn gan ei holl gynulleidfaoedd penodol. Mae Get Safe Online wedi sefydlu rhwydwaith o wefannau a chynrychiolaeth leol mewn 26 o wledydd ledled y byd, wedi'i ariannu gan Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygiad y DU. Sefydlwyd Get Safe Online yn 2006 ac mae'n sefydliad nid er elw.