Dyddiad
Mae Get Safe Online wedi lansio ymgyrch y mis yma, er mwyn helpu unigolion i siopa’n ddiogel ar-lein efo’r Nadolig yn agosáu, mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) y rhanbarth, Andy Dunbobbin. Mae Get Safe Online yn wasanaeth wedi’i gomisiynu gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’r Heddlu lleol, ar gyfer rhannu gwybodaeth a chyngor cynorthwyol efo trigolion Gogledd Cymru.
‘Da ni i gyd yn adnabod neu wedi clywed am rhywun sydd wedi prynu dillad, cynnyrch trydanol neu hyd yn oed gar ar y we – ond iddo beidio byth â chyrraedd. Weithiau mae hyn oherwydd camgymeriad gweinyddol, ond, yn amlach na pheidio, maen nhw wedi cael eu twyllo gan dwyllwr.
Dywedodd Tony Neate, Prif Weithredwr Get Safe Online: “Mae cannoedd ar filoedd o achosion o bobl yn cal eu twyllo wrth brynu ar-lein yn cael eu riportio’n flynyddol, efo’r nifer yn cynyddu bob blwyddyn. Mae nifer gwirioneddol yr achosion yn llawer uwch, gan nad ydy pob dioddefwr yn riportio’r twyll prynu. Dyna pham, y mis hwn ‘da ni’n hyrwyddo ffyrdd o brynu yn ddiogel ar-lein a helpu sicrhau eich bod chi a’ch teulu’n gallu siopa’n ddiogel efo hyder wrth i’r Nadolig agosáu.”
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Roheryn Evans, o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru: “Mae troseddwyr yn newid eu tactegau’n gyson sy’n gwneud defnydd o sgiliau cymdeithasol peirianegol er mwyn eich gwneud i chi goelio eu celwyddau. Peirianneg cymdeithasol ydy sut mae nhw’n ein darbwyllo i naill ai wneud rhywbeth penodol neu brynu nwyddau penodol, oherwydd ei bod yn ein hannog i weithredu’n gyflym heb feddwl. Ni allwn helpu coelio ein bod wedi cael bargen dda, ac mae’n rhaid i ni fod ar frys er mwyn cymryd y cynnig cyn iddo redeg allan. Ond yn hwyrach ymlaen, pan nad ydy’r nwyddau yn cyrraedd, ‘da ni’n sylweddoli ein bod cael ein twyllo.
“’Da ni’n gweld dioddefwyr o bob oedran, sy’n dod o bob cwr o Ogledd Cymru yn ddioddefwyr sgamiau siopa. Mae’r rhan fwyaf o’r troseddwyr wedi’u lleoli dramor, sy’n ei wneud yn anodd iawn i’w rhoi gerbron eu gwell. Y ffordd orau o ddiogelu’ch hun ydy i wneud gwiriadau cyn i chi brynu, er mwyn sicrhau bod y gwerthwr yn un dilys efo adolygiadau da.”
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae Twyll Prynu yn broblem gynyddol, ac un ddylwn ni fod yn fwy gwyliadwrus ohono cyn y Nadolig. Yn hinsawdd economaidd heddiw, ‘da ni’n chwilio am fargenion rhyfeddol, a gallai rhai o’r cynigion fod yn anodd i’w gwrthod. Ond mae’n bwysig bob amser i gymryd munud i ystyried awgrymiadau Get Safe Online, er mwyn pwyso a mesur a yw’r cynnig yn un dilys. Mae ‘os ydy rhywbeth yn ymddangos fel pe tai’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod’ yn hen ddywediad, ond un sy’n berthnasol hyd heddiw, yn enwedig pan mae gymaint o’n siopa Nadolig yn digwydd ar-lein. Felly, cymrwch ofal a sicrhewch eich bod yn cael Nadolig gwerth chweil, yn hytrach na dioddef twyll yr ŵyl.”
Dyma brif awgrymiadau Get Safe Online ar gyfer diogelu eich hun:
- Peidiwch â thalu drwy drosglwyddo arian yn uniongyrchol i bobl neu gwmnïau nad ydych chi’n eu hadnabod. Os gallwch chi, talwch efo cerdyn credyd.
- Sicrhewch bod gwefan yn un dilys drwy wirio yn ofalus bod y cyfeiriad wedi’i sillafu’n gywir. Teipiwch y cyfeiriad i fewn yn hytrach na chlicio ar ddolen mewn e-bost, neges testun neu bostiad. Gallwch hefyd geisio defnyddio’r offeryn Gwirio Gwefan ar wefan Get Safe Online, sy’n hawdd iawn i’w ddefnyddio.
- Dysgwch sut i adnabod hysbysebion twyll ar y cyfryngau cymdeithasol, marchnadoedd a fforymau ar-lein. Byddwch yn amheus o eitemau rhad iawn, serch hynny gall eitemau wedi’u prisio’n rhesymol hyd yn oed fod yn rhai ffug. Peidiwch â thalu – hyd yn oed blaendal – am gynnyrch nad ydych wedi’i weld yn y cnawd.
- Peidiwch â chlicio ar ddolenni o fewn negeseuon e-bost, negeseuon testun neu bostiadau nad ydych chi’n eu disgwyl, a peidiwch ag agor atodiadau ar negeseuon e-bost nad ydych yn eu disgwyl.
- Sicrhewch bod tudalennau talu yn ddiogel drwy wirio bod y cyfeiriad yn dechrau efo ‘https’ (mae’r ‘s’ yn sefyll am “secure”) a bod clo clap ar gau ym mar y cyfeiriad.
- Darllenwch yr ysgrifen mân neu arolygon annibynnol ar gyfer cyfnodau prawf “rhad” neu “am ddim”. Beth bynnag y nwyddau neu’r gwasanaeth, efallai’ch bod yn arwyddo am ddebydau uniongyrchol mawr sy’n anodd i’w canslo.
- Mae negeseuon e-bost a thestun sy’n honni eu bod oddi wrth gwmnïau dosbarthu yn dweud bod arnoch ffi hefyd yn gyffredin. Cadwch gofnod o bob dim ‘rydych yn ei brynu, ac, os wedi’i nodi, pa gwmni dosbarthu mae’r mân-werthwr yn ei ddefnyddio.
- Gwnewch eich ymchwil ynglŷn â phrisiau, yn enwedig yn ystod digwyddiadau fel Dydd Gwener y Gwario a gwerthiant tymhorol. Mae rhai gwerthwyr yn hysbysebu nwyddau yn honni bod y pris yn is, pan nad ydyn nhw’n rhatach mewn gwirionedd, neu hyd yn oed yn ddrytach.
- Riportiwch dwyll i’ch banc yn syth bin. Mi wnaiff hyn gynyddu’r tebygolrwydd o gael eich arian yn ôl. Hefyd, riportiwch i’r heddlu.
Am ragor o awgrymiadau a chyngor, ewch i www.getsafeonline.org
Diwedd
Hanes Get Safe Online
Mae Get Safe Online yn adnodd awdurdodol a pharchus rhyngwladol sydd wedi’i ddylunio er mwyn helpu unigolion a busnesau bach gadw’n ddiogel ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r we. Mae’r wybodaeth a’r cyngor ar gael efo’r bwriad o fod yn ddiduedd, yn ymarferol ac yn hawdd i’w ddilyn gan yr holl gynulleidfaoedd mae’n ei dargedu. Mae Get Safe Online wedi sefydlu rhwydwaith o wefannau a chynrychioliadau lleol mewn 26 o wledydd ledled y byd, sydd wedi’i fuddsoddi gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu’r DU. Mi gafodd Get Safe Online ei sefydlu yn 2006 fel sefydliad nid-er-elw.