Skip to main content

Ymgyrch yn cael ei lansio i gefnogi dioddefwyr cam-drin rhywiol yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

RASASC COMMS LAUNCH STORY CY 26.09

Aeth cydweithwyr o Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gan gynnwys y Dirprwy Gomisiynydd Wayne Jones, i lansiad ymgyrch fawr er mwyn cynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol yng Ngogledd Cymru a aeth yn fyw ar 26 Medi 2022.

Mae’r ymgyrch gan Ganolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASC NW), sy’n un o wasanaethau a gomisiynir gan SCHTh, yn annog mwy o ddioddefwyr/goroeswyr i gysylltu â nhw am help, cefnogaeth ac i roi trefn ar eu bywydau.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd ffilm 15 munud yn adrodd hanes rhai o oroeswyr/dioddefwyr cam-drin rhywiol yng Ngogledd Cymru, a bydd hysbysebion ar y teledu, radio, cyfryngau cymdeithasol ac ar fysiau’n annog dioddefwyr/goroeswyr i gysylltu â RASASC NW ar 01248 672870 rhwng 8.00am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae cyfraddau trais rhywiol yng Ngogledd Cymru yn parhau i fod ymysg y gwaethaf yn y DU ac mae RASASC NW bellach yn recriwtio tri aelod arall o staff i ddelio â chynnydd yn nifer y galwadau am gymorth, ac maent yn disgwyl cadarnhad o gyllid er mwyn cyflogi pedwar aelod newydd arall o staff.

Mae atgyfeiriadau newydd wedi cynyddu o 178 yn 2011-12 i dros 800 y llynedd.

Dywedodd Gaynor McKeown, Prif Weithredwr Interim RASASC NW: “Mae’r hyn rydym yn ei wneud yn gweithio. Mae naw o bob deg o bobl sy’n dod atom am help yn dweud eu bod wedi adennill rheolaeth dros eu bywyd a bod eu hiechyd meddwl wedi gwella.

“Ond rydym yn gwybod bod llawer mwy o ddioddefwyr/goroeswyr trais rhywiol heb gysylltu â ni eto. Bwriad yr ymgyrch hon yw eu helpu. 

“Nid yw’r angen am ein gwasanaethau erioed wedi bod yn fwy ac rydym am i bob dioddefwr/goroeswr cam-drin rhywiol gysylltu â ni oherwydd y gallwn eu helpu i ddelio â’r hyn a ddigwyddodd.

“Rydyn ni’n deall pa mor anodd yw cymryd y cam cyntaf a dweud wrth rywun, ond os ydych chi’n ddioddefwr neu’n oroeswr, pa fath bynnag o gam-drin y dioddefoch chi, neu pa bryd bynnag y digwyddodd hynny, rydyn ni’n cynnig amgylchedd cyfrinachol a diogel er mwyn i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch.”

Os oes unrhyw argyfyngau y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch 0808 8010800.

Gall dioddefwyr/goroeswyr hefyd gael mwy o wybodaeth ar-lein yn www.rasawales.org.uk neu drwy anfon e-bost at info@rasawales.org.uk.