Skip to main content

Ymgyrch yng Ngogledd Cymru yn amlygu diogelwch chwarae gemau ar-lein

Dyddiad

Ym mis Mawrth, mae Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymuno hefo arbenigwyr diogelwch ar-lein sef Get Safe Online er mwyn amlygu rhai o fygythiadau chwarae gemau ar-lein - a sut y gall plant a phobl ifanc chwarae gemau'n saff. Mae Get Safe Online yn brif ffynhonnell gwybodaeth deg, ffeithiol a hygyrch ar ddiogelwch ar-lein yn y DU.

Yn un o'r difyrion ar-lein mwyaf poblogaidd i blant, mae chwarae gemau ar-lein hefo agweddau cadarnhaol a negyddol. Gall manteision chwarae gemau fynd o ddatblygu rhinweddau fel meddwl strategol, rhesymoli, datrys problemau a pharhau i helpu datblygu ystod eang o sgiliau gwybyddol a gweithredol. Mae hefyd yn annog creadigrwydd wrth gymdeithasu, er yn rhithiol, hefo ffrindiau.  

Mae risgiau i blant sy'n chwarae gemau ar-lein yn codi o'r nifer helaeth o bobl yn y DU a thramor sydd hefyd yn chwarae, y cyfyngiadau lleiaf a'r ffaith nad ydyn nhw'n chwarae wyneb yn wyneb.

Dywedodd PC Dewi Owen o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru: I lawer o blant a phobl ifanc, mae chwarae gemau'n aml yn rhan hynod bwysig o'u bywydau ac maen nhw'n mwynhau'r agwedd gymunedol o chwarae. Mae'n gyfle i gymdeithasu, cael hwyl a bod yn greadigol. Mae cymunedau chwarae gemau yn aml yn fannau cadarnhaol i bobl ifanc drafod angerdd a diddordebau a rennir.

"Fodd bynnag, gall bod yn rhan o gymuned ar-lein tebyg weithiau ddatgelu pobl ifanc i fwlio, cynnwys neu sylwadau amhriodol neu risgiau cysylltiedig hefo cyswllt hefo dieithriaid. Mae'n bwysig fod rhieni a gwarcheidwaid yn dangos diddordeb yn eu chwarae gemau a hefo sgyrsiau agored er mwyn canfod hefo pwy maen nhw'n chwarae gemau ar-lein, hefo pwy maen nhw'n cyfathrebu a'r hyn maen nhw'n drafod. 

"Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn deall nad ydy pawb ar-lein yr hyn maen nhw'n ei ddweud.  Ystyriwch sefydlu cyfrifon rhieni neu reolaethau rhieni ar gonsolau gemau er mwyn lliniaru rhai o'r risgiau a sicrhau bod gan bobl ifanc restr o oedolion dibynadwy gallan nhw siarad hefo nhw os ydy rhywbeth yn eu poeni neu'n eu cynhyrfu nhw wrth chwarae gemau. Mae hefyd yn bwysig helpu pobl ifanc ddeall manteision cymryd seibiannau rheolaidd o chwarae gemau ac ystyried gosod cyfyngiadau amser sgrin iach."

Dywedodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online: "Mae llawer o blant yn mwynhau manteision chwarae gemau, ond mae'n bwysig eu bod nhw'n gwneud yn saff ac yn hyderus. Mae ymgyrch y mis hwn yn amlygu cyngor arbenigol y gall rhieni eu defnyddio pan mae eu plant yn chwarae gemau ar y rhyngrwyd. Os oes gennych blant yn chwarae gemau yn eich cartref, dwi'n argymell eich bod yn edrych. Gallwch ddarganfod llawer mwy ar www.getsafeonline.org” 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Fel tad, dwi'n gwybod faint mae pobl ifanc yn cael cymaint o chwarae gemau ar-lein. Mae'n ddifyrrwch sy'n gallu eu helpu nhw fagu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd, ac yn bwysicaf, cael hwyl. Ond mae hefyd yn cynnwys risgiau. Dylai pob rhiant fod yn ymwybodol o beryglon posibl eu plant yn siarad efo pobl anhysbys, yn gwario arian ar-lein heb neb yn cadw llygad, neu'n gweld cynnwys amhriodol. Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, dwi wedi gwneud diogelu pobl fregus a thaclo rhannau allweddol troseddau seiber yn rhannau allweddol o'm cynllun i er mwyn trechu trosedd yn y rhanbarth. Dwi'n falch ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth am gemau ar-lein dros y mis hefo'n partneriaid yn yr heddlu a Get Safe Online. 

Cynghorion diogelwch wrth chwarae gemau ar-lein

Mae'n hynod bwysig gweithio hefo'ch plentyn er mwyn dod o hyd i'r gemau gorau ar gyfer eu hoedran, diddordebau a'u personoliaeth nhw, ac ar ben hyn:

  • Gwirio oedrannau PEGI (Gwybodaeth Gemau Tros Ewropeaidd) gemau er mwyn gwneud yn siŵr nad ydy eich plant yn cael mynediad i gynnwys amhriodol.
  • Ymunwch hefo'ch plentyn mewn chwarae gemau ar-lein o dro i dro ac ar hap. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi am y gemau maen nhw'n ei chwarae a hefo pwy gallan nhw gysylltu.
  • Cael sgyrsiau agored ac onest hefo'ch plentyn am chwarae gemau ar-lein a'r risgiau sydd ynghlwm gan gynnwys peryglon pobl ddieithr, bwlio a gor-rannu. Dywedwch wrthyn nhw nad ydy pawb maen nhw'n ei gyfarfod ar lwyfannau a fforymau chwarae gemau y maen nhw'n honni bod. 
  • Gosod a monitro cyfyngiadau amser dyddiol neu wythnosol mae eich plant yn treulio'n chwarae gemau ar-lein.
  • Gallwch lwytho arian gwario ar eu gêm o flaen llaw, ond byddwch yn glir pan mae wedi mynd, mae wedi mynd, a glynu at hynny.
  • Peidiwch â rhoi mynediad i'ch plentyn i fanylion eich cerdyn talu gan fod ychwanegion yn gallu bod yn ddrud iawn.
  • Siarsiwch eich plentyn eu bod nhw'n gallu dod atoch chi neu oedolyn cyfrifol arall hefo unrhyw bryderon. Gan ddibynnu ar eu hoedran nhw, gallech hefyd drafod sut i riportio materion i'r llwyfan gemau a/neu'r heddlu.

Am gyngor am ddim ac ymarferol ar gadw'n saff ar-lein, ewch ar www.getsafeonline.org