Skip to main content

Yn Abergele mae gweithredu I'w glywed yn well na geiriau

Dyddiad

PCC at Abergele

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ag Abergele i weld sut y cafodd arian atafaelwyd  drwy Ddeddf Enillion Troseddau 2002 ei ddefnyddio i  helpu pobl ifanc i adeiladu dyfodol positif  ac atal trosedd ar yr un pryd

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â phrosiect Sied Ieuenctid Abergele i gwrdd â'r tîm y tu ôl iddo, i ddysgu mwy am waith y prosiect ac i weld sut mae arian a gymerir gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio er lles y gymunedCafodd ei groesawu gan Linda Tavernor, Ymddiriedolwr, Gweithredu Cymunedol Abergele ac ymunodd SCCH lleol Kerri-Lea Adams Heddlu Gogledd Cymru  â nhw.

Dyfarnwyd £2,500 i'r tîm sy’n gyfrifol am y sied, Gweithredu Cymunedol Abergele (ACA), o gronfa 'Eich Cymuned, Eich Dewis' y Comisiynydd i'w galluogi i ddarparu rhaglen o weithgareddau awyr agored ar gyfer pum grŵp o 15 o bobl ifanc dros gyfnod o 12 mis. Mae'r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis, a gefnogir hefyd gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru, yn ei nawfed flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae dros £400,000 wedi'i roi i achosion haeddiannol ac mae llawer ohono wedi'i adennill drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr, gyda'r gweddill yn dod o’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae Gweithredu Cymunedol Abergele yn gweithio gyda phobl ifanc ac yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac mae'r Sied Ieuenctid yn darparu lle y gall y bobl ifanc ei feddiannu ac amgylchedd lle gallant deimlo'n ddiogel. Mae'r bobl ifanc yn gallu datblygu perthynas gadarnhaol a rhyngweithio â'i gilydd a chydag oedolion y gellir ymddiried ynddynt. Mae'r sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc ag ymddygiad heriol yn ogystal ag anawsterau meddyliol ac emosiynol. Mae gweithgarwch yn canolbwyntio ar y bobl ifanc 10-25 oed sydd mewn perygl o gael eu heithrio – o gyfleoedd cymdeithasol, addysgol ac economaidd, yn ogystal â'r rhai sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.

Bob wythnos, drwy raglen weithgareddau ACA yn y Sied, maent yn ymgysylltu â 70 -90 o bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed. Maent yn darparu clwb brecwast, clybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau drwy gydol y dydd i'r bobl ifanc hynny sy'n ei chael yn anodd ymgysylltu ag addysg. Maent hefyd wedi cyflawni llawer o brosiectau awyr agored gan gynnwys rhaffau uchel, adeiladu rafft, crefft gwledig, cerdded mynyddoedd, a chribinio traethau ac mae ganddynt brofiad uniongyrchol o effeithiolrwydd y math hwn o ymyrraeth.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “"Pobl ifanc yw ein dyfodol ac mae prosiectau fel Sied Ieuenctid Abergele yn cynnig lle i bobl ifanc lleol ddysgu sgiliau newydd, rheoli eu hemosiynau a chreu perthnasoedd a chyfeillgarwch newydd gyda'u cyfoedion a chyda'r gymuned ehangach."

"Roedd yn amlwg o'm hymweliad fod y tîm yn Gweithredu Cymunedol Abergele wedi ymrwymo i helpu'r gymuned leol, i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i ddatblygu dinasyddion gwydn, a fydd yn cyfrannu at eu tref. Roedd yn bleser gweld eu gwaith a'u cefnogi drwy gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis." 

Dywedodd Linda Tavernor, Ymddiriedolwr, Gweithredu Cymunedol Abergele: "Drwy'r gwaith yn y Sied Ieuenctid, rydym yn darparu amgylchedd lle gall y bobl ifanc gael cyfleoedd i ryngweithio'n gymdeithasol ac i fynegi eu teimladau, eu hemosiynau a'u pryderon yn ogystal â datblygu strategaethau ar gyfer newid eu hymddygiad.

"Mae ein gwaith yn cefnogi rhieni a theuluoedd, yn cryfhau sgiliau pobl ifanc ac yn adeiladu ar sgiliau emosiynol ac ymddygiadol, gan arwain at fwy o hunanymwybyddiaeth a'r gallu i ddatrys gwrthdaro a rheoli ymddygiad. Bydd yr arian a dderbynnir gan y Gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn ein galluogi i adeiladu ar ein gwaith a chyfrannu at gefnogi pobl ifanc Abergele."

Cefnogir Gweithredu Cymunedol Abergele hefyd gan Blant mewn Angen y BBC, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Albert Gubay. Mae'r sefydliad hefyd yn gweithio'n agos gyda MIND Conwy sy'n darparu ymarferydd iechyd meddwl i gefnogi rhai o'r gweithgareddau, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer sesiynau therapi grŵp yn ogystal â chwnsela un i un a monitro gweithredol pobl ifanc. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop:  "Daw rhan o'r cyllid ar gyfer prosiect Eich Cymuned, Eich Dewis o enillion troseddu ac mae'n iawn bod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a'i roi yn ôl i fentrau cymunedol fel Sied Ieuenctid Abergele.

"Mae hyn yn helpu i droi arian drwg yn arian da ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd pobl leol sy'n adnabod ac yn deall eu problemau lleol a sut i'w datrys. Mae plismona'n rhan o'r gymuned, ac mae'r gymuned yn rhan o blismona, ac mae cynlluniau fel Eich Cymuned, Eich Dewis yn ffordd gadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth mewn plismona."

Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: "Mae'r dyfarniadau ariannu hyn yn bwysig gan eu bod yn cefnogi prosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru, yn union fel yr un yma yn Abergele, a'r cymunedau eu hunain sy'n penderfynu ble orau y gellir gwario'r arian.

"Nod llawer o'r hyn rydym yn ei ariannu yw darparu rhywbeth i bobl ifanc gymryd rhan yn eu hamser hamdden, gweithgareddau a all helpu i feithrin sgiliau ac iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol, ac mae Gweithredu Cymunedol Abergele yn enghraifft wych o hyn."

I gael rhagor o wybodaeth am Gweithredu Cymunedol Abergele: https://www.abergeleaction.co.uk/