Skip to main content

Yr Uned Gyfathrebu'n cadw heddlu a thrigolion yn llawn gwybodaeth ac yn ddiogel

Dyddiad

Mae'r Uned Gyfathrebu Pwynt Cyswllt Unigol, cydweithrediad newydd gan Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Swydd Gaer, wedi'i sefydlu, gan roi data cyfathrebu i'r ddau heddlu ar rota dydd a nos yn y frwydr yn erbyn trosedd.

Mae 12 o staff cadarn bellach yn gallu prosesu a dyrannu gwybodaeth allweddol i Swyddogion Heddlu allan ar y ffordd ac yn y gymuned mewn modd mwy effeithlon.

Mae data cyfathrebu'n allweddol i ymchwilio troseddau. Mae'n galluogi'r heddlu i leoli a diogelu unigolion coll risg uchel bregus, ynghyd â chynorthwyo pobl sy'n profi trosedd ar waith. Enghreifftiau o ddata cyfathrebu a ellir ei rannu ydy gwybodaeth ar leoliad daearyddol teclyn symudol, ynghyd a chofnodion data galwadau a gwybodaeth o lwyfannau cyfryngau/apiau negeseuon.

Dywedodd Mark Davies, Rheolwr yr Uned Gyfathrebu Pwynt Cyswllt Unigol fod cydweithredu gyda Heddlu Swydd Gaer yn caniatáu bob Heddlu i ehangu gallu'r Uned bresennol a gwell lles staff yn sylweddol.

Cyn y cydweithredu, byddai'r staff o fewn yr Uned yn darparu presenoldeb dydd a nos ond ar sail ar alw, gan ddarparu presenoldeb brys fel rhan o rota tu allan i oriau swyddfa 'safonol'. 

Mae'r galw am geisiadau Data Cyfathrebu wedi cynyddu ers gweithredu'r Uned, o ystyried bod y mwyafrif o droseddau a ymchwilir gan Heddlu Gogledd Cymru yn cynnwys casglu data digidol, a ddefnyddir gan yr Heddlu er mwyn profi neu wrthbrofi'r drosedd, neu gadarnhau tystiolaeth ac adroddiadau tystion.

Mae'r Uned wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ddiogelu unigolion bregus, gan gynnwys llawer o blant mewn perygl o gael eu camfanteisio'n rhywiol neu'n droseddol.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "O'm diwrnod cyntaf yn y swydd fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rwyf wedi rhoi pwyslais ar sut all technoleg arwain y ffordd wrth atal trosedd a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel.

"Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yn amlinellu sut y gwnaf hyrwyddo datrysiadau technoleg er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd swyddogion a staff yr heddlu. Dyna un rheswm pam rwyf mor falch o weld fod yr Uned yn gymaint o lwyddiant yn barod.

"Mae dyletswydd i'r Heddlu fel cyflogwr warchod lles ein staff. Rwyf yn falch o weld sut mae'r Uned newydd hefyd wedi bod o fudd i staff wrth leihau eu llwyth gwaith a gwella eu cynhyrchiant.

"Hoffwn ddiolch i bawb o fewn Heddlu Gogledd Cymru sydd ynghlwm â'r prosiect am lwyddo i lansio'r Uned. Hoffwn hefyd ddiolch i gydweithwyr yn Heddlu Swydd Gaer am eu gwaith caled, sy'n dangos unwaith eto'r cydweithredu gyda heddluoedd cyfagos sydd mor allweddol i ymladd trosedd a gwarchod pobl.

Dywedodd Mark Davies, Rheolwr yr Uned Gyfathrebu Pwynt Cyswllt Unigol: "Rydym wedi gweld y fantais yn barod gyda gweithio dydd a nos yn caniatáu ceisiadau gael eu hymdrin yn gyflym, lleihau ôl-groniadau a chael a dadansoddi data'n gynt.

"Er bod y nifer o geisiadau wedi cynyddu yn dilyn y cydweithredu, mae ein gallu i wasanaethu'r galw wedi'i wella sy'n golygu mai ychydig o ôl groniadau sydd gan yr Uned, os o gwbl. 

"Hyd yma, mae'r adborth wedi bod yn hynod adeiladol gan staff a'r Heddlu ehangach. Nid ydy staff yr Uned yn gweithio'n ynysig bellach, yn jyglo sawl gorchwyl risg uchel. Gallent rannu galw, cymryd seibiant ac mae lles wedi gwella'n fawr."

Dywedodd John Dwyer, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Swydd Gaer: “Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â lansio’r uned newydd. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig ydy’r partneriaeth rhwng heddluoedd cyfagos.

"Blaenoriaeth yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Swydd Gaer ydy moderneiddio ein gwasanaeth heddlu. Nid yn unig bydd y dechnoleg hon o fudd i’n swyddogion a staff ond i’r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu hefyd.

"Rwyf yn falch o glywed fod y system wedi cael croeso mor gynnes o fewn y ddau heddlu. Rwyf yn hyderus y bydd ei manteision yn parhau i gael ei gweld yn Swydd Gaer a Gogledd Cymru.”