Dyddiad
Diogelwch Seiber Gogledd Cymru – gwarchod eich busnes, gwarchod eich dyfodol
Mae Heddlu Gogledd a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cynnal y digwyddiad cyntaf o'i fath am ddim i berchnogion busnes yng Ngogledd Cymru ar sut i gadw eu busnesau'n ddiogel rhag troseddau seiber. Mae'r digwyddiad yn Wrecsam ar 14 Mehefin ac mae perchnogion busnes ledled y rhanbarth yn cael eu hannog i sicrhau eu lle.
Mae diogelwch seiber yn bryder cynyddol i fusnesau ac yn bwnc brawychus i lawer. Bydd Diogelwch Seiber Gogledd Cymru yn dod a lleisiau a sefydliadau allweddol at ei gilydd er mwyn trafod camau syml y gall pob busnes gymryd er mwyn gwarchod eu hunain ar-lein.
Bydd y digwyddiad drwy'r dydd am ddim hwn yn digwydd ar 14 Mehefin ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Bydd yn cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr a sefydliadau fel:
- Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
- Canolfan Genedlaethol Diogelwch Seiber – Sefydliad Llywodraeth y DU sy'n rhoi cyngor a chymorth i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar sut i osgoi bygythiadau diogelwch cyfrifiadurol.
- Tîm Cadernid Seiber Llywodraeth Cymru
- Uned Troseddau Trefnedig y Gogledd Orllewin
- Tîm Troseddau Seiber, Heddlu Gogledd Cymru
- Seiber Cymru
- Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru
- Police Cyber Alarm
- Get Safe Online
Ynghyd â phrif siaradwyr, bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosfa a gweithdai rhyngweithiol yn y prynhawn er mwyn galluogi cynrychiolwyr gadw eu gweithrediadau busnes yn ddiogel rhag troseddau seiber.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae troseddau seiber yn faes troseddoldeb sy'n cynyddu'n gyflym ac yn un rwyf yn benderfynol o frwydro yn ei erbyn yng Ngogledd Cymru. Bydd y digwyddiad newydd hwn yn cynnig y cyfle i berchnogion busnes ledled y rhanbarth ddod at ei gilydd, clywed gan yr arbenigwyr, a dysgu sut i ddiogelu eu busnesau rhag troseddwyr seiber. Rwyf yn falch o weithio gyda'r tîm troseddau seiber yn Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid allweddol eraill i'w gynnal. Buaswn yn annog unrhyw berchennog busnes sydd â diddordeb mewn dod i archebu eu lle rŵan."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Troseddau Seiber Roheryn Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Gall seiber fod yn ddisgwyliad brawychus i berchnogion busnesau bach neu ganolig. Yn aml, mae'r peth olaf ar feddyliau pobl pan maent yn brysur yn cynnal eu gweithrediadau. Nid oes gan berchnogion busnes neb i'w cynorthwyo pan mae'n dod i gyfrifiaduron, neu efallai fod ganddynt ffrind yn gallent alw arnynt i gynorthwyo o dro i dro.
"Beth mae'r gair Seiber yn ei olygu hyd yn oed? Rydym eisiau i'r digwyddiad hwn ddadlennu'r hyn ydy seiber a chynorthwyo perchnogion busnes ddeall yr hyn ydy'r risgiau, a'r camau cyntaf mae pobl angen eu cymryd er mwyn gwarchod eu hunain a'u busnes. Yn bwysicach, rydym eisiau perchnogion busnes wybod fod pobl a all gynorthwyo. Os ydych yn defnyddio e-bost er mwyn cadw mewn cysylltiad gyda'ch cleientiaid neu'ch cyflenwyr, yn defnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo eich busnes, neu os ydych wedi sefydlu gwefan er mwyn gwerthu ar y rhyngrwyd, yna mae'r digwyddiad ar eich cyfer chi!"
Lle: Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Cost: Am ddim (ceir cinio hefyd)
Cynulleidfa: Perchnogion busnes bach a chanolig ledled Gogledd Cymru
Tocynnau: Archebwch docynnau ar gyfer Diogelwch Seiber Gogledd Cymru yma rŵan: https://tocyn.cymru/en/event/b2f128b2-1f8b-4504-8309-9d0064cb7670
Dalier sylw: Gan fod y digwyddiad yn debygol o fod yn boblogaidd, mae trefnwyr yn gofyn i ddim mwy na 2 docyn gael eu harchebu ar gyfer bob busnes.