Dyddiad
Mae plismona yng Ngogledd Cymru yn rhywbeth sy’n bwysig i ni gyd. Dyna pam, rhwng rŵan a 27 Medi, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, yn gofyn wrth bobl leol ddweud eu dweud ynglŷn â’r hyn maen nhw’n feddwl ddylai blaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru fod dros y pedair blynedd nesaf, a sut hoffai’r trigolion weld eu cymunedau yn cael eu plismona.
Mi gafodd Andy Dunbobbin ei ail-ethol ym mis Mai 2024, ac, fel rhan o’i rôl, mae ganddo ddyletswydd i greu cynllun sy’n gosod y blaenoriaethau er mwyn i Heddlu Gogledd Cymru weithio tuag atyn nhw, er mwyn ymdrin â throsedd ledled y rhanbarth. Mae nodweddion allweddol eraill o fod yn CHTh yn cynnwys penderfynu ar y gyllideb ar gyfer yr Heddlu, a dal y Prif Gwnstabl yn atebol ynglŷn â chyflawniad yr Heddlu.
Er mwyn ei alluogi i ysgrifennu ei Gynllun Heddlu a Throsedd, mae’r CHTh eisiau sicrhau ei fod yn gwrando ar bobl leol am sut mae nhw eisiau gweld Gogledd Cymru yn cael ei blismona, ac ymdrin hefo unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw. Mae’n gwneud hyn drwy arolwg, er mwyn casglu eu barn a’u hymatebion. Mi fydd yr adborth yn cael ei gynnwys yn y cynllun, ac mi wnaiff helpu ffurfio gwasanaethau’r dyfodol a dosbarthiad adnoddau’r Heddlu dros y pedair blwyddyn nesaf o’i gyfnod yn y swydd.
Gallai trigolion gwblhau’r arolwg drwy’r dolenni canlynol:
Cymraeg: www.surveymonkey.com/r/Ymgynghoriad-CHTh2024
Saesneg: www.surveymonkey.com/r/PCC-consultation2024
Yn ei faniffesto cyn cael ei ethol, mi ddatganodd y CHTh mai ei addewidion allweddol ar gyfer ei gyfnod fel CHTh fydd:
- Presenoldeb plismona cymdogaeth leol
- Cynorthwyo dioddefwyr, cymunedau a busnesau
- System cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol
- Comisiynydd heddlu a throsedd amlwg a chyfrifol.
Dywedodd Andy Dunbobbin: “Trigolion Gogledd Cymru sy’n gwybod be’ sydd orau iddyn nhw a’u cymunedau, a ‘dydy hyn yn ddim gwahanol pan yn ystyried plismona. Nhw ydy’r beirniaid gorau ar ran be’ ddylai blaenoriaethau Gogledd Cymru fod, a lle maen nhw’n meddwl ddylwn ni ganolbwyntio ein hadnoddau.
“Dyna pam ‘dwi’n annog pobl o bob cymuned, cefndir ac oedran i ddweud eu dweud yn fy ymgynghoriad i ynglŷn â’r Cynllun Heddlu a Throsedd. Mi fydd y cynllun yma yn helpu llywio gwaith Heddlu Gogledd Cymru dros y pedair blynedd nesaf, ac felly mae’n bwysig ein bod yn adlewyrchu dymuniadau’r bobl.
“Mi ges i fy ethol ym mis Mai i fod yn llais ar ran y bobl ynglŷn â phlismona yng Ngogledd Cymru, ac mae lansiad yr arolwg yma yn digwydd yn fuan ar ôl ethol Llywodraeth DU newydd, efo agenda newydd er mwyn trechu trosedd. Felly, rŵan ydy’r amser iawn i ymgynghori efo’n cymunedau ni, a sicrhau ein bod yn gweithio efo’n gilydd ar bob lefel er mwyn lleihau trosedd, cadw pobl yn ddiogel a sicrhau cytgord a chydweithrediad yn ein cymunedau ni. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud!”
Ar ben bod yn llais ar ran y bobl ynglŷn â phlismona, mae’r CHTh a’i swyddfa yn buddsoddi mewn gwasanaethau sy’n gwneud gwaith gwerthfawr yn y gymuned. Er enghraifft, maen nhw’n helpu cynorthwyo dioddefwyr troseddau ac yn helpu troseddwyr er mwyn lleihau aildroseddu. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau fel yr Uned Diogelwch Trais Teuluol (DASU), Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASC), a Gorwel sy’n darparu help i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais yn erbyn merched a genethod, a Checkpoint Cymru, sydd efo’r bwriad o ymdrin ag achosion gwraidd ymddygiad troseddu, megis iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, a darparu opsiynau credadwy eraill yn lle erlyniaeth. Mae staff y CHTh hefyd yn edrych yn fanwl ar waith yr Heddlu a’r gwasanaethau wedi’u comisiynu, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu gwaith yn effeithiol, yn arddangos gwerth am arian, a’u bod yn cadw at y rheolau.
Mae arolwg ac ymgynghoriad y CHTh yn hollol ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg (ac fel dogfen Hawdd i’w Ddeall), ac mae copïau caled ar gael mewn lyfrgelloedd a gorsafoedd heddlu ar draws Gogledd Cymru. Gallai drigolion hefyd e-bostio neu ysgrifennu er mwyn gofyn am gael copi drwy’r post. Mi fydd cynrychiolwyr swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gael mewn lleoliadau, sioeau sirol a digwyddiadau cymunedol ledled Gogledd Cymru drwy gydol cyfnod yr arolwg, er mwyn ymgysylltu efo pobl yn y cnawd er mwyn cwblhau’r arolwg.
Gallai trigolion gwblhau’r arolwg drwy’r dolenni canlynol:
Cymraeg: www.surveymonkey.com/r/Ymgynghoriad-CHTh2024
Saesneg: www.surveymonkey.com/r/PCC-consultation2024
Er mwyn cael copi caled drwy’r post, cysylltwch efo Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd drwy:
E-bost: OPCC@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486
Post: Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW