Dyddiad
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn agor ffenest recriwtio ar gyfer pobl i eistedd ar banel Gwrandawiadau Camymddygiad yr Heddlu yng Nghymru. Y swyddi yw Cadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith ac Aelodau Panel Annibynnol. Mae'r ffenest gais ar gyfer Cadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith yn agor gyda'r ffenest ar gyfer Aelodau Panel Annibynnol yn agor ar 20 Chwefror 2023.
Bydd Cadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith yn arwain ar unrhyw wrandawiad camymddwyn a bydd unrhyw Gadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith yn ymuno â chronfa o bobl gymwysedig yn y gyfraith a fydd yn cael eu galw gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i hyrwyddo gwrandawiadau yn eu tro.
Gofynnir i'r aelodau annibynnol gynorthwyo gyda'r gwrandawiadau camymddygiad i ddod i benderfyniadau teg sy’n seiliedig ar dystiolaeth am ymddygiad swyddog penodol a chytuno ar gosb benodol.
Un o swyddi allweddol Aelodau Panel Annibynnol yw tawelu meddwl y gymuned leol bod materion o gamymddwyn gan yr heddlu yn cael eu trin yn y modd cywir ac yn cael eu dyfarnu'n annibynnol. Mae Aelodau Panel Annibynnol yn gwrando ar dystiolaeth gan dystion, yn clywed cyflwyniadau gan bartïon ac yn penderfynu ar y canlyniad. Rhaid bod ganddynt y gallu i herio aelodau eraill o'r Panel mewn modd adeiladol a heb greu gwrthdaro.
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn bwriadu penodi hyd at 6 o Gadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith a hyd at 24 o Aelodau Panel Annibynnol. Telir cyflog am y ddwy swydd a bydd y swyddfa yn talu am gostau. Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau erbyn 3 Mawrth 2023 ar gyfer rôl Cadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith a 10 Mawrth 2023 ar gyfer rôl Aelodau Panel Annibynnol.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: "Rwyf yn falch o hyrwyddo a chefnogi yr ymgyrch i recriwtio unigolion i swyddi allweddol Aelodau Panel Annibynnol a Chadeiryddion Cymwysedig yn y Gyfraith ledled Cymru.
“Mae'r ddwy swydd yn hanfodol i'r rôl y mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn ei chwarae yn cynrychioli'r cyhoedd ym maes plismona ac yn sicrhau bod yr Heddlu yn atebol ac yn sicrhau hyder y cyhoedd yn yr heddlu.
“Credaf yn gryf bod y rhain yn swyddi delfrydol ar gyfer unigolion gyda'r sgiliau cywir a'r diddordeb i gyfrannu at effeithiolrwydd plismona yn ein cymunedau ac yn sicrhau proses deg a chytbwys mewn gwrandawiadau camymddwyn gyda llais diduedd.
“Rwyf yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu neu i gyflwyno cais."
Os oes diddordeb gan unrhyw un mewn ymgeisio ar gyfer y swyddi, ceir manylion pellach a ffurflen gais yma.