Skip to main content

CHTh yn treulio diwrnod ar y ffordd gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn amlygu diogelwch ar y priffyrdd

Dyddiad

PCC RPU 2

Yn ddiweddar, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, â Safle Traffig Heddlu Gogledd Cymru yn Llandygai er mwyn cyfarfod swyddogion yn yr Uned Plismona Ffyrdd a dysgu mwy am eu gwaith er mwyn cadw trigolion ledled Gogledd Cymru'n ddiogel ar y ffordd. Mae'r ymweliad wedi cyd-fynd ag Wythnos Diogelwch Ffyrdd Brake, sydd yn cael ei chynnal rhwng 14 a 20 Tachwedd.

Mae Brake yn elusen diogelwch ffyrdd, a'r Wythnos Diogelwch Ffyrdd ydy ei ymgyrch diogelwch ffyrdd mwyaf. Bob blwyddyn, mae miloedd o ysgolion, sefydliadau a chymunedau yn cymryd rhan er mwyn rhannu negeseuon diogelwch ffyrdd pwysig. Maent yn cofio am bobl a effeithiwyd gan farwolaeth neu anaf ar y ffyrdd ac maent yn codi arian er mwyn cynorthwyo Brake ofalu am fwy o ddioddefwyr y ffyrdd ac ymgyrchu dros ffyrdd diogel i bawb. 

Fel rhan o'i ymweliad i Landygai, gwnaeth y Comisiynydd gyfarfod gyda Medwyn Williams, Rhingyll yr Uned Plismona Ffyrdd. Gwnaeth dreulio'r diwrnod ar batrôl ym Mangor a Chaernarfon, yn dysgu mwy am sut mae'r Uned Plismona Ffyrdd yn gweithredu.

Yn ystod yr ymweliad, clywodd Mr Dunbobbin am ddirnadaeth y Rhingyll Williams o waith yr Uned. Gwnaeth arolygu fflyd yr Uned a chlywodd sut mae technoleg o fewn y cerbydau yn hollbwysig i ymgyrchoedd plismona ffyrdd. Yna fe welodd y Rhingyll Williams yn cyflawni gwiriadau cerbydau ar ochr y ffordd, ynghyd â gwiriadau cyflymder gan ddefnyddio camera llaw.

Dywedodd Andy Dunbobbin: "Roedd yn wych cael ymweld â Llandygai a chyfarfod gyda'r Rhingyll Williams.  Mae gwella diogelwch y ffordd yn flaenoriaeth yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Felly roedd yr ymweliad yn gyfle diddorol i weld o lygad y ffynnon sut mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a'i Uned Plismona Ffyrdd yn ymdrin a throsedd ar y ffyrdd a'n diogelu ni gyd.

"Cyflawnwyd yr ymweliad gan gefnogi Wythnos Diogelwch Ffyrdd Brake. Mae hon yn ymgyrch sy'n rhannu negeseuon pwysig ar sut mae gennym ni gyd hawl i wneud teithiau diogel, a sut y gellir osgoi marwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd.

"Rwyf yn gwybod fod technoleg yn chwarae rhan mewn plismona modern a'r frwydr yn erbyn trosedd. Roedd yn ddiddorol iawn gweld sut mae teclynnau tu mewn i gerbydau'r fflyd yn darparu gwybodaeth yn gyflym ac effeithlon tra mae swyddogion ar y ffordd."

Dywedodd y Rhingyll Medwyn Williams: “Hoffwn ddiolch i'r Comisiynydd am ddod i Landygai a threulio'r diwrnod gyda'r Uned Plismona Ffyrdd. Rwyf yn credu fod dangos ein gwaith yn rhoi cip go iawn ar sut rydym yn gweithredu. Mae Mr Dunbobbin yn deall pa mor ganolog ydy diogelwch y ffordd yng Ngogledd Cymru ac rwyf wedi gwerthfawrogi'r cyfle i egluro iddo sut allwn ni ychwanegu at ein gwaith ymhellach wrth wneud ffyrdd y rhanbarth yn fwy diogel.

"Cafodd y Comisiynydd y cyfle hefyd i weld sut rydym yn cynorthwyo'r cyhoedd pan maent yn dod atom ni gydag unrhyw bryderon sydd ganddynt. Wrth i ni deithio ledled Gogledd Cymru yn ystod ein sifftiau, mae cael presenoldeb amlwg yn mynd yn bell iawn i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

"Mae gan Heddlu Gogledd Cymru strategaeth gadarn ynghylch gorfodi'r troseddau 5 Angheuol - y 5 ffactor cyfranogol mewn gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol ydy  goryrru, yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau, gyrru'n beryglus gan gynnwys cymryd risgiau’n ddiangen, methu gwisgo gwregys diogelwch, a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.

"Mae lleihau damweiniau ar ein ffyrdd yn parhau'n un o'n prif flaenoriaethau a rhaid i holl fodurwyr fod yn ymwybodol ein bod i gyd yn gwneud y gorau gallwn i sicrhau fod ein ffyrdd yn cael eu defnyddio'n ddiogel gan bawb. Mae ein timau ar waith a byddant yn parhau i weithredu'n gadarn yn erbyn y rhai hynny i gyd sy'n cyflawni'r 5 Angheuol ac unrhyw droseddau traffig ffordd eraill ar y ffyrdd."