Dyddiad
Ar dydd Llun, Tachwedd 27, gwnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld â Chaergybi, Ynys Môn er mwyn clywed pryderon ynghylch trosedd yn yr ardal a thrafod mesurau er mwyn helpu pobl ifanc yn y dref.
Arweiniwyd y Comisiynydd ar dro o amgylch canol y dref gan gynghorwyr Tref Cybi sef Jeff Evans a o Gyngor Sir Ynys Môn a Rhingyll Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru. Gwnaeth y grŵp drafod trosedd yn nhref fwyaf Ynys Môn, yn enwedig pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn y gymuned. Cafodd Mr Dunbobbin gipolwg hefyd ar brosiectau sydd hefo'r nod o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy weithio hefo pobl ifanc Caergybi er mwyn creu amgylchfyd saffach.
Fe wnaeth y Cynghorydd Evans egluro yn ystod y dro mai ei ffordd ef o ddatrys ymddygiad gwrthgymdeithasol ydy sefydlu cyfleuster ieuenctid yn y dref. Byddai'r cysyniad arfaethedig sy'n cael ei gynnig yn ganolfan gymdeithasol ar gyfer rhyngweithio a chyfarfod. Bydd yn wahanol i glybiau ieuenctid traddodiadol sydd hefo oriau a gweithgareddau cyfyngedig ac anaddas. Yn hytrach, mae'n cael ei ragweld fel lle er mwyn darparu ar gyfer anghenion ieuenctid yn y dref, gan gynnig lle i unigolion 11-18 oed ddatblygu.
Ar ôl cyfarfod yn Llyfrgell Caergybi ar Ffordd Stanley, ymwelodd y grŵp â nifer o ardaloedd yng nghanol y dref, gan drafod materion lleol mewn siopau yn y dref, Eglwys San Cybi a'r cyffiniau, Pont y Mileniwm, Ffordd Fictoria ynghyd â'r toiledau a'r cyfleusterau newydd yng nghanol y dref.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn i'n croesawu'r cyfle i ymuno hefo'r Cynghorydd Evans am dro o amgylch tref Caergybi. Fel tref fwyaf Ynys Môn, mae cael mwy o gipolwg personol ar y sefyllfa bresennol o ran plismona a throsedd yn yr ardal yn hollbwysig.
"Mae cyflawni cymdogaethau saffach a helpu dioddefwyr a chymunedau yn gonglfeini fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Fel y cyfryw, dwi wedi ymroi gweithio'n agos hefo cymunedau ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau ardal saffach i bawb. Mi wnes i werthfawrogi'r sgyrsiau ges i hefo'r Cynghorydd Evans a'r Uwcharolygydd Davies yn ystod fy amser hefo nhw ac mi fyddai'n adlewyrchu ar bob dim wnaethon ni drafod.
Dywedodd Jeff Evans, Cynghorydd Tref Cybi: "Dwi mor falch fod Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi derbyn gwahoddiad i ddod i weld Caergybi ac ymuno hefo ni am dro a gweld a deall y problemau sy'n effeithio'r dref, ei phobl ifanc a'r gymuned.
"Mae llawer o'r problemau'n deillio o ddiffyg cyfleusterau a gweithgareddau addas i bobl ifanc. Roedd yn braf trafod prosiect a chynnig hefo fo am y posibilrwydd o ddarparu cyfleuster i bobl ifanc. Mae hwn yn brosiect sydd wedi'i gymell gan y gymuned hefo help unigolion, grwpiau a sefydliadau.
"Roedd heddiw ynghylch amlygu problemau ac anawsterau amrywiol a rhoi ar ddeall iddo'r angen i bawb wneud eu rhan er mwyn creu newid. Hefo'n gilydd ac mewn partneriaeth mi allwn ni roi'r hyn sydd ei angen am ddyfodol cadarnhaol. Awn amdani!"
Cliciwch yma er mwyn darllen blaenoriaethau plismona Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: https://www.northwales-pcc.gov.uk/sites/default/files/2022-04/Police-and-Crime-Plan-2021.pdf