Skip to main content

Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn mynychu ffilm am Linellau Cyffuriau

Dyddiad

film premiere

Bu Maes-G ShowZone yn dathlu eu Prosiect Ffilm ar gyfer 2022 ar ddydd Mercher, 13 Ebrill, drwy ddangos ffilm am y tro cyntaf yng nghwmni’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin yn ogystal â’r Arolygydd Arwel Hughes, Rhingyll Kirsty Miller a swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru yn Eglwys y Groes ym Maesgeirchen, Bangor.

Wedi ei ariannu gan Mantell Gwynedd & Adra, mae’r ffilm addysgiadol hon yn canolbwyntio ar yr effaith y gall Gangiau Llinellau Cyffuriau gael ar blant, pobl ifanc ac ar gymuned drwy ddilyn stori merch ifanc sy’n dod yn ffrind i aelod o gang.

Ar ôl chewch wythnos o ffilmio dangoswyd y ffilm ‘Girls Forsaken’ i’r cyhoedd.

Cafodd MaesG ShowZone gefnogaeth gan SCCH Liam Bibby a Heddlu Gogledd Cymru yn creu’r ffilm hon sy’n ceisio addysgu aelodau o’r grŵp a’r gymuned ehangach am rai o’r arwyddion bod Llinellau Cyffuriau yn gweithredu yn yr ardal.

Bu aelodau o’r MaesG ShowZone yn serennu ac yn actio yn y ffilm hon, gan roi’r cyfle iddynt reoli’r broses yn llwyr a dysgu nifer o sgiliau sy’n cwmpasu’r broses o greu ffilmiau. Roedd y balchder a gymerwyd yn y gwaith hwn i weld yn y digwyddiad ac yn dathlu eu gwaith caled.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “Mae’r ffilm yn ffordd bositif o ddweud stori bwerus a phwysig. Mae rhwydweithiau Llinellau Cyffuriau wedi lledu i sawl cornel o’n gwlad yn y blynyddoedd diweddar ac yn ddatblygiad peryglus i’n pobl ifanc a’n cymunedau – ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio’n galed i ymladd yn ei erbyn.

“Os dan ni am atal pobl ifanc rhag dod yn rhan o’r rhwydweithiau hyn, ffordd hanfodol o wneud hyn yw gofyn i bobl ifanc siarad â’u cyfoedion am brofiadau eu cenhedlaeth a’u cymuned. Hoffwn longyfarch y tîm yn Maes-G Showzone, a’r bobl ifanc yn Maesgeirchen, am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i weld eu hardal yn ffynnu fel lle mwy diogel heb fygythiad gan Llinellau Cyffuriau.”

Dywedodd Steffie Williams Roberts sy’n rhedeg MaesG ShowZone ynghyd ag Eirian Williams Roberts a Naomi Crane: “Dan ni’n falch iawn o’r hyn mae’r bobl ifanc wedi cyflawni gyda’r ffilm hon, yn creu ac adrodd stori bwysig o safbwynt pobl ifanc mewn ffordd mor bwerus.”

Grŵp celfyddydol i ieuenctid yw MaesG ShowZone sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc berfformio a gweithio yn y diwydiant y tu ôl i’r camera ac ar yr ochr dechnegol gyda’r nod o roi profiad llawn o’r swyddi sydd ar gael yn y celfyddydau. Mae Maes-G ShowZone yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mercher a dydd Gwener ac yn derbyn aelodau newydd ar gyfer Medi 2023.

I weld y ffilm ewch i: maesgshowzone.com/videos