Skip to main content

Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymweld â Phrestatyn i glywed pryderon lleol am droseddu

Dyddiad

Image from Prestatyn (2)

Bu Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cyfarfod ag arweinwyr cymunedol lleol a chynrychiolwyr o Gyngor Tref Prestatyn, Ysgol Uwchradd Prestatyn a Heddlu Gogledd Cymru ddydd Mawrth 29 Mawrth i drafod ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn yr ardal a mesurau sydd ar y gweill i ddatrys y problemau.

Ymwelodd Mr Dunbobbin â'r ardal yn dilyn gwahoddiad gan Gyngor Tref Prestatyn a bu’n cyfarfod â Maer ac aelod o Lywodraethwyr Ysgol Uwchradd Prestatyn, y Cynghorydd Sharon Frobisher, i fynd am dro o amgylch canol y dref, gan gynnwys y Stryd Fawr a Pharc Prestatyn. Yn ddiweddar, mae trigolion lleol a Chyngor y Dref wedi riportio sawl achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith nifer fach o bobl ifanc leol, yn enwedig ym Mharc Prestatyn ac yn y parc yn Ffordd yr Orsaf. Gyda'r haf yn agosáu a phoblogrwydd parhaus Prestatyn fel cyrchfan i deuluoedd, mae'r Cyngor yn awyddus i ddatrys yr achosion hyn o ymddygiad gwrthgymdeithasol er budd trigolion lleol a thwristiaid fel ei gilydd.

Dywedodd Andy Dunbobbin: "Rhan allweddol o'm Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yw darparu cymdogaethau mwy diogel i drigolion lleol a chefnogi dioddefwyr a chymunedau.

"Pan gysylltodd Cyngor Tref Prestatyn, roeddwn yn awyddus i ymweld ar gwrando ar eu pryderon a deall mwy am sut mae ymddygiad nifer fach o bobl ifanc leol yn effeithio ar weddill y trigolion. Yr wyf yn benderfynol o weithio gydag arweinwyr lleol, Ysgol Uwchradd Prestatyn, y gymuned ym Mhrestatyn a Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn a gobeithio dod â'r ymddygiad hwn i ben. Byddwn yn annog trigolion a siopwyr i roi gwybod am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol y maen yn eu brofi, fel y gellir gweithredu." 

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Frobisher, Maer Prestatyn a Meliden: "Rwy'n ymdrechu i wneud ein cymuned yn lle diogel i fod ar gyfer pob oedran. Ar ôl cael llond trol o bobl ifanc a oedd wedi ymddwyn yn wael yng nghanol y dref a'r cyffiniau, roedd yr ymweliad gan Andy Dunbobbin yn addawol iawn. Ynghyd â staff addysgu o Ysgol Uwchradd Prestatyn, roeddem yn gallu cerdded am ganol y dref a thrafod y problemau a'r gwahanol faterion sy'n effeithio ar yr ardal. Roedd Mr Dunbobbin yn gadarnhaol iawn yn ei agwedd at weithio gydag arweinwyr lleol, y Cyngor Tref a Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â phlismona lleol yn y dyfodol". 

Dywedodd PC Phil Wilson, Rheolwr Gwarchod Cymdogaethau: "Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu, ochr yn ochr â phartneriaid, i ddatrys y mater. Roedd yn dda gallu trafod ac egluro i'r Comisiynydd a'r Maer yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon ym Mhrestatyn.

"Buom yn siarad am y cynllun Gwarchod Siopau a'n patrolau cynyddol. Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn allweddol ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Ysgol Uwchradd a Chyngor Sir Ddinbych. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon am ymddygiad ansoddi yn y dref i gysylltu â ni drwy ffonio 101 neu we-y-we.

"Rwy'n gobeithio y bydd y Comisiynydd, y Maer a phobl leol yn cael sicrwydd ein bod yn cydnabod bod Prestatyn yn dref brysur, rydym yn parhau'n ymrwymedig i fod yn weladwy iawn yn y gymuned a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda nhw i barhau i wella'r dref."

Llun: (chwith i’r dde) PC Phil Wilson; Mr Glen Vernon, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Prestatyn; Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin; Y Maer, y Cynghorydd Sharon Frobisher